BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007 Rhif 305 (Cy.24) (C.12)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070305w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 305 (Cy.24) (C.12)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 6 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4) a (5) o Ddeddf Tai 2004[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Ebrill 2007
    
2. I'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym[2], mae adrannau 212 i 215, ac atodlen 10 (cynlluniau ernes tenantiaeth) o Ddeddf Tai 2004 yn dod i rym ar 6 Ebrill 2007.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Y Gorchymyn hwn yw'r pedwerydd Gorchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Tai 2004. Mae'n dwyn darpariaethau pellach o'r Ddeddf, (sy'n ymwneud â Chynlluniau Ernes Tenantiaeth) i rym yng Nghymru ar 6 Ebrill 2007.



NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
Adrannau 1 a 3 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adran 4 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242) (C.138)
Adrannau 5 i 8 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adrannau 10 i 52 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adran 54 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adran 55 (yn rhannol) 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242) (C.138)
Adran 55 (y gweddill) 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adrannau 56 a 57 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242) (C.138)
Adrannau 58 i 78 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adrannau 79 i 81 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242) (C.138)
Adrannau 82 i 147 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adran 179 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242) (C.138)
Adran 191 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144) (C.75)
Adrannau 192 i 194 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242) (C.138)
Adrannau 227 a 228 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144) (C.75)
Adrannau 229 i 232 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adrannau 235 a 236 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adran 237 25 Tachwedd 2005 2005/3237 (Cy.242) (C.138)
Adrannau 238 i 243 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144) (C.75)
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Adran 266 (yn rhannol) 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Atodlenni 1 i 7 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)
Atodlen 12 14 Gorffennaf 2005 2005/1814 (Cy.144) (C.75)
Atodlen 13 16 Mehefin 2006 2006/1535 (Cy.152) (C.54)


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adrannau 270(4) a (5) yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r "appropriate national authority" yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.back

[2] I'r graddau y mae darpariaeth yn Neddf 2004 yn rhoi pwer arferadwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau daeth y pŵer hwnnw i rym pan basiwyd y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 270(2)(b) o'r Ddeddf.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091499 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 15 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070305w.html