BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007 Rhif 316 (Cy.30)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070316w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 316 (Cy.30)

COMISIYNYDD PLANT, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 6 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 74(2) (d) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygiadau i Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001
    
3. —     1 Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001[2] yn unol â'r darpariaethau a ganlyn o'r rheoliad hwn.

    (2) Yn dilyn dod i ben y cyfnod cychwynnol, ar gyfer y dehongliad o "y Prif Weinidog" ("the First Minister") rhodder y diffiniad canlynol:—

    (3) Diwygier rheoliad 13 fel a ganlyn —



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan VI o Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 sy'n gwneud darpariaeth parthed swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru ("y Comisiynydd").

Mae Rhan VI o Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 yn darparu ar gyfer gwneud adroddiadau penodol gan y Comisiynydd.

Diwygir Rhan VI er mwyn caniatáu, pan fo'r Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r un mater, i'r Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru lunio adroddiad ar y cyd. Ceir darpariaeth debyg yn Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007.

Yn ogystal mae'r rheoliadau hyn yn diwygio y diffiniad o'r Prif Weinidog yn y Rheoliadau yn union ar ôl terfyn y Cyfnod Cychwynnol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y diffinir y Prif Weinidog fel y Prif Weinidog a apwyntir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae Arfarniad Rheoliadol ar effaith posibl y rheoliadau hyn ar gost busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 2000 p.14back

[2] 2001/2787 (Cy.237)back

[3] 2006 p.30back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091498 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 15 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070316w.html