BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007 Rhif 389 (Cy.40)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070389w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 389 (Cy.40)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 13 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].

     Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[2] at ddibenion yr adran honno ynghylch mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

     Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw "Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007".

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ond nad yw'n cynnwys hufen iâ nac unrhyw iâ bwytadwy arall;

    (2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005 yr ystyr y mae'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn ei ddwyn yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005, yn ôl y digwydd.

    (3) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

Rhoi deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar y farchnad
     3. Ni chaiff neb roi deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod yr amodau a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 wedi'u bodloni ynglŷn â'r bwyd hwnnw.

Pecynnu deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd wedi'u bwriadu ar gyfer y defnyddiwr olaf
    
4. Ni chaiff neb roi unrhyw ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y defnyddiwr olaf ar y farchnad oni bai—

Marchnata neu labelu bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym
    
5. —(1) Ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw fwyd a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr olaf neu ar gyfer unrhyw sefydliad arlwyo os bydd marcio'r bwyd neu ei labelu yn mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) ac ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw fwyd a fwriedir ar gyfer unrhyw berson arall os yw ei farcio neu ei labelu'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3).

    (2) Caniateir i'r disgrifiad "quick-frozen" neu unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108 gael ei ddefnyddio'n unswydd fel label i roi'r naill neu'r llall o'r canlynol ar y farchnad—

    (3) Rhaid i ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac y bwriedir ei gyflenwi, heb brosesu pellach, i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, yn ychwanegol at y disgrifiad "quick-frozen" (ac, yn ôl fel y gwêl y cyflenwr arfaethedig yn dda, unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108) a ychwanegir at ei enw gwerthu, fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu, a hynny ar ddeunydd pacio, cynhwysydd neu ddeunydd lapio'r bwyd hwnnw, neu ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd hwnnw, â'r wybodaeth ganlynol—

    (4) Rhaid i unrhyw ddeunydd bwyd arall sydd wedi'i rewi'n gyflym, yn ychwanegol at y disgrifiad "quick-frozen" (ac, yn ôl fel y gwêl y cyflenwr yn dda, unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108) a ychwanegir at ei enw gwerthu, fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu, a hynny ar ddeunydd pacio, cynhwysydd neu ddeunydd lapio'r bwyd arall hwnnw, neu ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd arall hwnnw, â'r wybodaeth ganlynol—

Cyfarpar
    
6. Rhaid i bob gweithredydd bwyd sy'n trafod deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac sydd wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl sicrhau, yn ystod pob cam y mae'r deunydd bwyd hwnnw yn ei ofal ac o dan ei reolaeth, fod y cyfarpar a ddefnyddir mewn perthynas â'r deunydd bwyd hwnnw yn gyfarpar a all sicrhau na fyddai unrhyw weithred neu anweithred o'i eiddo yn peri bod rhoi ar y farchnad ddeunyddiau bwyd i'w bwyta gan bobl yn mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn.

Samplu a dull mesur tymereddau
    
7. Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sail resymol, yn sgil arolygiad, dros gredu nad yw'r tymereddau sy'n cael eu cadw neu sydd wedi'u cadw mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym yn dymereddau sydd wedi'u rhagnodi ar gyfer bwyd o'r fath ym mharagraff 1(d) ac (dd) o Atodlen 2, rhaid iddo arolygu ymhellach y deunydd bwyd hwnnw sydd wedi'i rewi'n gyflym a'r tymereddau hynny yn unol â darpariaethau Cyfarwyddeb 92/2.

Cofnodion
    
8. Os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, rhaid i bob gweithredydd bwyd sy'n trafod deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym drefnu bod y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan Erthygl 2 o Reoliad 37/2005 ar gael i'r swyddog hwnnw neu i swyddog awdurdodedig arall i'r awdurdod hwnnw.

Tramgwyddau, cosbau a gorfodi
    
9. —(1) Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i ddarpariaeth Gymunedol benodedig neu'n methu â chydymffurfio â hi, bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (3) Bernir na fydd person wedi mynd yn groes i baragraff cyntaf Erthygl 2.2 o Reoliad 37/2005 neu na fydd wedi methu â chydymffurfio â'r paragraff hwnnw os cydymffurfir â gofynion Atodlen 3.

    (4) Bernir na fydd person wedi mynd yn groes i Erthygl 2 o Reoliad 37/2005 neu na fydd wedi methu â chydymffurfio â hi—

    (5) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
    
10. Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

Dirymu
     11. I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990[16] wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007



ATODLEN 1
Rheoliadau 2 a 9(2)


DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG


1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 37/2005 2. Y pwnc
Erthygl 2.1 Gofyniad bod rhaid gosod offerynnau cofnodi addas yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym er mwyn i'r offerynnau hynny fonitro yn aml ac yn rheolaidd dymheredd yr aer y mae'r deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym yn agored iddo.
Erthygl 2.2 — brawddeg gyntaf y paragraff cyntaf Gofyniad bod rhaid i bob offeryn mesur a ddisgrifir yn Erthygl 2.1 o Reoliad 37/2005 gydymffurfio â safonau EN 12830, EN 13485 ac EN 13486.
Erthygl 2.2 — ail frawddeg y paragraff cyntaf Gofyniad bod gweithredwyr bwyd yn cadw pob dogfen berthnasol sy'n cadarnhau bod yr offerynnau mesur yn cydymffurfio â'r safon EN berthnasol.
Erthygl 2.3 Gofyniad bod rhaid i gofnodion tymheredd gael eu dyddio a'u storio gan y gweithredydd bwyd am gyfnod o flwyddyn o leiaf, neu am gyfnod hwy gan ystyried natur ac oes silff y deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym.
Erthygl 3.1 — paragraff cyntaf Gofyniad mai dim ond ag un thermomedr y mae mod ei weld yn hawdd y mae'n rhaid mesur tymheredd yr aer tra bo deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym yn cael eu storio mewn cabinetau arddangos manwerthol, neu'n cael eu dosbarthu'n lleol.
Erthygl 3.1 — ail baragraff (a) a (b) Gofyniad bod rhaid i linell uchafswm llwyth y cabinet fod wedi'i marcio'n glir a bod rhaid i'r thermomedr ddangos y tymheredd ar yr ochr lle mae'r aer yn dychwelyd ar lefel y marc hwnnw.



ATODLEN 2
Rheoliad 3


Yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni ynglŷn â deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym os bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl


     1. Yr amodau yw—

     2. At ddibenion paragraff 1—



ATODLEN 3
Rheoliad 9(3)


GOFYNION TROSIANNOL AR GYFER OFFERYNNAU MESUR A OSODWYD CYN 1 IONAWR 2006


Cymhwyso
     1. Dim ond ar gyfer offerynnau mesur a ddefnyddir at ddibenion monitro'r tymheredd fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2.1 o Reoliad 37/2005 ac a osodwyd cyn 1 Ionawr 2006 y mae'r Atodlen hon yn gymwys.

     2. Bydd yr Atodlen hon yn peidio â bod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2010.

Y gofynion
     3. Mae'r gofynion fel a ganlyn—



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig. Maent yn dirymu ac yn ailddeddfu o ran Cymru Reoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990 (O.S. 1990/2615, fel y'i diwygiwyd), sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Yn ychwanegol at barhau i weithredu'r Cyfarwyddebau a bennir ym mharagraff 3 isod, mae'r Rheoliadau hyn yn awr hefyd yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 37/2005 ar fonitro tymereddau yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, (OJ Rhif L10, 13.1.2005, t.18).

     2. Mae'r Rheoliadau hyn—

     3. Y canlynol yw'r Cyfarwyddebau a weithredir gan O.S. 1990/2615 ac y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i'w gweithredu—

     4. Mae Asesiad Rheoliadol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW, ac fe'i hatodir i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn ar wefan OPSI.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2003/2901.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer Panelau Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a'u henwau (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[4] OJ Rhif L40, 11.2.89, t.34, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/107/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 89/108/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd i'w bwyta gan bobl a Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunyddiau bwyd, a hynny oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.411).back

[5] OJ Rhif L034, 11.2.92, t.30.back

[6] 1990 p.16.back

[7] OJ Rhif L10, 13.1.05, t.18.back

[8] O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[9] 1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).back

[10] 1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.back

[11] 1985 p.51; diwygiwyd paragraff 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.back

[12] Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.back

[13] Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, yn dechrau ar ddyddiad sydd i'w benodi.back

[14] Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.back

[15] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back

[16] O.S. 1990/2615.back

[17] 1998 p. 38.back

[18] OJ Rhif L40, 11.12.89. t.34 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/107/ EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 89/108/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd i'w bwyta gan bobl a Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunyddiau bwyd, oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi (OJ Rhif L363, 20.12.06, t.411).back



English version



ISBN 0 11 091505 4


 © Crown copyright 2007

Prepared 20 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070389w.html