BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 Rhif 396 (Cy.42)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070396w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 396 (Cy.42)

COMISIYNYDD POBL HŷN CYMRU, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007

  Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 16 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 28(2) o Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddi.

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

Penodi'r Comisiynydd
     3. —(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.

    (2) Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y caiff y Comisiynydd ei benodi o dan baragraff (1) —

    (3) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Weinidog.

    (4) Ni ellir penodi'r Comisiynydd o dan baragraff (3) ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth —

    (5) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, pedair blynedd fydd cyfnod swydd y Comisiynydd a benodir o dan y Rheoliadau hyn.

    (6) Caniateir i berson a gafodd ei benodi am un cyfnod yn Gomisiynydd gael ei benodi am ail gyfnod (boed yn olynol neu beidio) ond ddim am unrhyw gyfnod ychwanegol.

    
4. —(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben —

    (2) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff unrhyw swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn union cyn diwedd y cyfnod cychwynnol gan y Prif Ysgrifennydd o dan baragraff (1) eu harfer gan y Prif Weinidog.

    
5. —(1) Os bydd y Prif Ysgrifennydd yn arfer swyddogaethau a roddir gan y Rheoliadau hyn, bydd arfer y swyddogaethau hynny'n cael ei drin fel pe bai'n arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Mae unrhyw beth a gaiff ei wneud gan y Prif Ysgrifennydd o dan y Rheoliadau hyn i'w drin ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth amgen ar gyfer penodi Comisiynydd a'i ryddhau o'i swydd gan ddibynnu ar bryd y mae'r penodi neu'r rhyddhau o swydd yn digwydd. Mae'r Rheoliadau'n cymryd i ystyriaeth y newidiadau a fydd yn effeithiol o dan ddeddfiad diweddar Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a cheisio sicrhau na fydd y newidiadau hynny'n peri oedi neu'n aflonyddu'n ormodol ar benodiad y Comisiynydd.

Yn benodol mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth y caiff y Comisiynydd ei benodi gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad fel y'i diffinnir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, os gwneir y penodiad cyn penodir Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dim ond ar ôl dilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn rhoi cyngor a phenderfynu ar faterion y mae a wnelont â'r penodiad ac ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi gan banel dewis, y gellir penodi yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn pobl hŷn sy'n preswylio yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig.

Yn dilyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gellir penodi'r Comisiynydd gan Brif Weinidog Cymru. Wrth benodi'r Comisiynydd rhaid i Brif Weinidog Cymru gymryd i ystyriaeth gyngor unrhyw banel dewis a sefydlwyd er mwyn y penodiad a barn pobl hŷn ddethol sy'n preswylio yng Nghymru o ran y penodiad arfaethedig.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, a'r amgylchiadau pan ellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd. Hyd nes y penodir Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Ysgrifennydd. Yn dilyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan Brif Weinidog Cymru. O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad fel y mae wedi'i gyfansoddi gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd y bydd unrhyw beth a wneir gan y Prif Ysgrifennydd yn union cyn penodi Prif Weinidog Cymru newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei drin ar ôl penodi Prif Weinidog Cymru fel pe bai wedi cael ei wneud gan Brif Weinidog Cymru.


Notes:

[1] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091511 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 21 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070396w.html