BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 581 (Cy. 53)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070581w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 581 (Cy. 53)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn, a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Taliadau wythnosol i weithwyr gofal
    
2. Ym mharagraff 1(c) o'r Atodlen i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992[3] yn lle "£36"[4] rhodder "£44".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992 yn darparu ar gyfer cyflawni'r amodau pan fo gweithiwr gofal yn cael ei ddiystyru at ddibenion gostyngiad, sy'n cael yr effaith o ostwng swm y dreth gyngor sy'n daladwy am annedd y mae'r gweithiwr gofal yn preswylio ynddi. Un o'r amodau hynny yw nad yw'r gweithiwr gofal yn cael ei dalu fwy na swm wythnosol dynodedig. Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn codi'r swm hwnnw o £36 i £44.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Trosglwyddodd y pŵ er i wneud rheoliadau o dan adran 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 , a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o, ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/552.back

[4] Wedi'i fewnosod gan O.S.1998/294.back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091519 4


 © Crown copyright 2007

Prepared 6 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070581w.html