BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007 Rhif 717 (Cy.63)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070717w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 717 (Cy.63)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 6 Mawrth 2007 
  Yn dod I rym 15 Mawrth 2007 


CYNNWYS


RHAN 1

Cyffredinol
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Diffiniadau
3. Dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

RHAN 2

Llygryddion Grŵp A a Grŵp B ac osôn

PENNOD 1

Safonau ansawdd aer
4. Rhagarweiniol a chymhwyso
5. Parthau a chrynoadau
6. Safonau ansawdd aer

PENNOD 2

Cyrraedd safonau ansawdd aer
7. Mesurau cyrhaeddiad cyffredinol
8. Cynlluniau gwella
9. Mesurau gwella eraill

PENNOD 3

Cynnal safonau ansawdd aer a chynlluniau gweithredu
10. Cynnal safonau ansawdd aer
11. Cynlluniau gweithredu

PENNOD 4

Asesu
12. Dyletswydd i asesu ansawdd aer
13. Dulliau asesu
14. Mesuriadau sefydlog
15. Pwyntiau samplu
16. Gofynion asesu eraill

RHAN 3

Llygryddion eraill a monitro'r cefndir
17. Mesuriadau PM2.5
18. Mesuriadau rhagsylweddion osôn
19. Monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig
20. Monitro'r cefndir

RHAN 4

Gwybodaeth i'r cyhoedd a'u cyfranogiad
21. Gofynion cyffredinol
22. Gwybodaeth ynglyn â pharthau
23. Gwybodaeth ynglyn â chrynodiadau
24. Gwybodaeth ynglyn â thorri trothwy rhybuddio neu drothwy gwybodaeth
25. Gwybodaeth ynglyn â thorri safonau ansawdd aer
26. Adroddiad blynyddol osôn
27. Gwybodaeth ynglyn â chynlluniau gweithredu a gwella
28. Cyfranogiad y cyhoedd mewn cynlluniau gwella

RHAN 5

Darpariaethau terfynol ac amrywiol
29. Casglu gwybodaeth etc.
30. Dirymiadau

  ATODLEN 1 — Safonau ansawdd aer
 RHAN 1 — Gwerthoedd terfyn ar gyfer llygryddion Grŵp A
 RHAN 2 — Ffiniau goddefiant ar gyfer bensen a nitrogen deuocsid
 RHAN 3 — Gwerthoedd targed ar gyfer llygryddion Grŵp B
 RHAN 4 — Gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer osôn

  ATODLEN 2 — Gwybodaeth i'w chynnwys mewn Cynllun Gwella

  ATODLEN 3 — Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth
 RHAN 1 — Trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid
 RHAN 2 — Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer osôn

  ATODLEN 4 — Trothwyon asesu
 RHAN 1 — Trothwyon asesu ar gyfer llygryddion Grŵp A
 RHAN 2 — Trothwyon asesu ar gyfer llygryddion Grŵp B
 RHAN 3 — Penderfynu pan fydd gormodiant uwchlaw'r trothwyon asesu

  ATODLEN 5 — Lleoli pwyntiau samplu
 RHAN 1 — Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp A
 RHAN 2 — Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp B
 RHAN 3 — Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer osôn
 RHAN 4 — Lleoli ar y raddfa facro
 RHAN 5 — Dogfennaeth ac adolygu dewis safle

  ATODLEN 6 — Isafsymiau'r pwyntiau samplu
 RHAN 1 — Llygryddion Grŵp A: gwerthoedd terfyn yn seiliedig ar iechyd pobl a throthwyon rhybuddio
 RHAN 2 — Llygryddion Grŵp A: gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant
 RHAN 3 — Llygryddion Grŵp B
 RHAN 4 — Osôn
 RHAN 5 — Osôn lleiafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog y parthau sy'n cyrraedd yr amcanion hirdymor

  ATODLEN 7 — Gofynion ar gyfer dulliau asesu ac eithrio mesuriadau sefydlog
 RHAN 1 — Llygryddion Grŵp A
 RHAN 2 — Llygryddion Grŵp B
 RHAN 3 — Osôn a rhagsylweddion osôn

  ATODLEN 8 — Amcanion ansawdd data
 RHAN 1 — Llygryddion Grŵp A a PM2.5
 RHAN 2 — Llygryddion Grŵp B, hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri nwyol llwyr
 RHAN 3 — Osôn a nitrogen deuocsid yn cael eu hasesu mewn pwyntiau samplu osôn

  ATODLEN 9 — Dulliau cyfeirio
 RHAN 1 — Llygryddion Grŵp A
 RHAN 2 — Llygryddion Grŵp B mewn aer amgylchynol
 RHAN 3 — Osôn
 RHAN 4 — Dulliau cyfeirio eraill

  ATODLEN 10 — Sylweddau rhagsylweddyn osôn

  ATODLEN 11 — Gwybodaeth i'r cyhoedd pan fydd gormodiant uwchlaw'r trothwyon rhybuddio neu wybodaeth
 RHAN 1 — Trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid
 RHAN 2 — Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer osôn

  ATODLEN 12 — Casglu gwybodaeth a meini prawf ar gyfer cydgasglu data a chyfrifo paramedrau ystadegol
 RHAN 1 — Gwybodaeth i'w chyflwyno i'r Comisiwn
 RHAN 2 — Meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol

  ATODLEN 13 — Dirymiadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), wedi ei ddynodi[
1] i arfer pwerau o dan adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfedd â gwerthoedd terfyn ansawdd aer, gwerthoedd targed ac amcanion, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diffiniadau
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ac yn y ddau achos, mae cyfeiriad at grynodiad yn gyfeiriad at grynodiad a aseswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn;

    (2) Mae i'r geiriau a dywediadau eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn y Cyfarwyddebau canlynol —

Dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru
     3. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC.



RHAN 2

Llygryddion Grŵp A a Grŵp B ac osôn



PENNOD 1

Safonau ansawdd aer

Rhagarweiniad a chymhwysiad
    
4. —(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â'r llygryddion canlynol—

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr holl fesurau a gymerir o dan Pennod 2 neu 3 o'r Rhan hon—

Parthau a chrynoadau
    
5. —(1) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion y Rhan hon, rannu tiriogaeth Cymru yn barthau.

    (2) Bydd parth yn cael ei ddosbarthu fel crynhoad at ddibenion y Rhan hon lle—

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gwahanol barthau ar gyfer gwahanol lygryddion lle y mae'n barnu bod hynny'n briodol.

Safonau ansawdd aer
    
6. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'n ofynnol i'r safonau ansawdd aer canlynol a nodwyd yn Atodlen 1 gael eu cyrraedd ym mhob parth—

    (2) Y dyddiad cyrhaeddiad ar gyfer gwerth terfyn neu darged yw—

    (3) Mae'r amcanion hirdymor i'w cyflawni yn yr hirdymor, i'r graddau y gellir cyflawni'r amcanion hyn trwy'r mesurau sy'n ofynnol gan reoliad 7(3)(b).

    (4) Yn achos bensen a nitrogen deuocsid, mae'r ffiniau goddefaint a nodwyd yn Rhan 2 o Atodlen 1 yn gymwys yn y cyfnodau a bennir.



PENNOD 2

Cyrraedd safonau ansawdd aer

Mesurau cyrraedd cyffredinol
    
7. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau angenrheidiol i sicrhau bod crynoadau pob llygrydd, ym mhob parth, yn cyrraedd y safonau ansawdd aer sy'n ofynnol gan reoliad 6.

    (2) Y mesurau angenrheidiol mewn perthynas â llygryddion Grŵp B yw—

    (3) Y mesurau angenrheidiol mewn perthynas ag osôn yw'r mesurau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod —

Cynlluniau gwella
     8. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob parth lle—

    (2) Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella mewn perthynas â'r llygrydd dan sylw neu, os cyflawnir yr amod a bennir o ran y ddau llygrydd, mewn perthynas â'r ddau lygrydd hynny.

    (3) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella mewn perthynas ag osôn oni bai ei fod yn barnu na ellid cyrraedd y gwerth targed trwy fesurau cymesur.

    (4) Rhaid i gynllun gwella gynnwys yr wybodaeth a nodwyd yn Atodlen 2.

    (5) Pan y bo'n ofynnol paratoi a gweithredu cynllun gwella o dan baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, lle y mae'n barnu bod hynny'n briodol, baratoi a gweithredu cynllun gwella integredig sy'n cwmpasu pob un o'r llygryddion perthnasol.

    (6) At ddibenion y rheoliad hwn, caiff cynllun gwella gynnwys naill ai cynllun neu raglen y mae'n rhaid iddynt, ym mhob achos, anelu at gyrraedd y gwerth terfyn neu darged yn y parth perthnasol erbyn y dyddiad cyrhaeddiad ar gyfer y llygrydd dan sylw.

Mesurau gwella eraill
    
9. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob parth lle y mae crynodiadau o—

    (2) Pan fo paragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (3) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu mesurau y mae'n ystyried eu bod yn rhai cost effeithiol gyda'r bwriad o gyrraedd yr amcan hirdymor.

    (4) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y mesurau sy'n ofynnol ym mharagraff (3) yn gyson ag unrhyw gynllun gwella a baratowyd ar gyfer osôn o dan reoliad 8(3).



PENNOD 3

Cynnal safonau ansawdd aer a chynlluniau gweithredu

Cynnal safonau ansawdd aer
    
10. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob parth lle y mae crynodiadau o—

    (2) Pan fo is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â phob llygrydd sy'n bodloni'r amodau a nodwyd yn yr is-baragraffau hynny, sicrhau cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn neu darged perthnasol ac ymdrechu i gadw'r crynodiad isaf y mae'n barnu sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

    (3) Pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

Cynlluniau gweithredu
    
11. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â,—

    (2) Rhaid i'r cynlluniau gweithredu ddangos y mesurau sydd i'w cymryd mewn unrhyw barth yn y tymor byr i gyflawni'r amcanion a nodwyd ym mharagraff (3) os bydd amgylchiadau lle y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu y bydd risg of fynd yn uwch nag unrhyw un o'r canlynol—

    (3) Amcanion pob cynllun gweithredu yw—

    (4) Mewn perthynas ag osôn, mae'r ymrwymiad a osodir gan baragraff (1)(a) dim ond yn gymwys, i'r graddau y rhoddir ystyriaeth i amodau daearyddol, meteorolegol ac economaidd, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu bod posibilrwydd sylweddol i'r amodau a nodwyd ym mharagraff (3) gael eu cyflawni.

    (5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'n ystyried bod y risgiau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) yn codi o fewn unrhyw barth, weithredu'r mesurau a nodwyd yn y cynlluniau gweithredu perthnasol o fewn y parth dan sylw i'r graddau y mae'n eu barnu yn angenrheidiol o fewn amgylchiadau'r achos pendodol.

    (6) Mae Atodlen 3 yn effeithiol wrth ragnodi—



PENNOD 4

Asesu

Dyletswydd i asesu ansawdd aer
    
12. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiad pob llygrydd ym mhob parth yn unol â rheoliadau 13 i 16.

Dulliau asesu
    
13. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau llygryddion yn unol â'r dulliau sy'n ofynnol neu, yn achos llygryddion Grŵp A a llygryddion Grŵp B, y dulliau sydd wedi eu caniatáu gan y rheoliad hwn.

    (2) Mewn perthynas â llygryddion Grŵp A a llygryddion Grŵp B mewn achosion lle—

mae'n rhaid asesu trwy fesuriadau sefydlog.

    (3) Mewn achosion lle nad yw paragraff (2) yn gymwys ac, yn achos nitrogen deuocsid, yn ddarostyngedig i reoliad 15(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r dulliau asesu canlynol mewn perthynas â llygryddion Grŵp A a llygryddion Grwp B—

    (4) Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r dulliau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(b) i asesu nitrogen deuocsid na sylffwr deuocsid o fewn crynhoad.

    (5) At ddibenion paragraffau (2) a (3)—

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r dull y caiff llygryddion Grŵp A a llygryddion Grŵp B eu hasesu ym mhob parth—

    (7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau osôn trwy fesuriadau parhaus sefydlog os yw'r crynodiadau, yn y parth perthnasol, wedi bod yn uwch na'r amcan hirdymor yn ystod unrhyw un o fesuriadau y pum mlynedd blaenorol.

    (8) Mewn achosion lle bo llai na phum mlynedd o ddata ar gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiadau osôn trwy gyfuno'r canlynol —

Mesuriadau sefydlog
    
14. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion lle, mewn perthynas ag un neu fwy o lygryddion, caiff parth ei asesu yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2), (3)(a) neu (7).

    (2) Pan gaiff parth ei asesu yn unol â rheoliad 13(2) neu (3)(a), rhaid i fesuriadau o'r llygrydd perthnasol, sydd yn ddarostyngedig yn achos nitrogen deuocsid i'r gofynion a osodir gan reoliad 15(7) mewn perthynas â'r asesiadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwnnw, gael eu cymryd mewn safleoedd sefydlog naill ai'n barhaus neu drwy samplu ar hap ac mae'n rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i alluogi pennu crynodiadau o'r llygrydd yn briodol.

    (3) Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ychwanegu gwybodaeth o bwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gyda gwybodaeth o ddulliau modelu lle y mae'n barnu y bydd hyn yn darparu lefel ddigonol o wybodaeth ynglyn ag ansawdd aer amgylchynol.

    (4) Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ychwanegu gwybodaeth o bwyntiau samplu gyda gwybodaeth o fesuriadau dangosol neu fodelu ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a nodwyd yn rheoliad 15(6).

Pwyntiau samplu
    
15. —(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn asesu crynodiadau llygrydd o fewn parth yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2), (3)(a) neu (7) mae'n rhaid iddo sicrhau, mewn perthynas â phob llygrydd —

    (2) Mewn achosion lle caiff parth ei asesu yn unol â—

pennir isafswm nifer y pwyntiau samplu yn y Rhannau perthnasol o Atodlen 6.

    (3) Pan gaiff parth ei asesu yn unol â—

rhaid i isafswm nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol ar gyfer pob llygrydd fod yn nifer y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei fod yn ddigonol, a'i ystyried ynghyd â dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, ar gyfer darganfod crynodiadau y llygrydd perthnasol.

    (4) Pan fo parth yn cael ei asesu yn unol â rheoliad 13(7), caiff y Cynulliad Cenedlaethol leihau nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(b) ar yr amod bod yr amodau a osodir ym mharagraffau (5) neu (6) yn cael eu bodloni.

    (5) Mewn achos parthau lle—

caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar nifer y pwyntiau samplu yn unol â Rhan 5 o Atodlen 6.

    (6) Yn achos parthau lle y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegu at yr wybodaeth a geir o bwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog trwy ddefnyddio gwybodaeth o fesuriadau dangosol neu fodelu yn unol â rheoliad 14(4), caiff leihau nifer y pwyntiau samplu ar yr amod—

    (7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—

Gofynion asesu eraill
    
16. —(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgymryd ag asesiadau mewn perthynas â —

rhaid iddo gydymffurfio â gofynion y Rhan berthnasol o Atodlen 7 wrth ddefnyddio'r dulliau eraill hynny.

    (2) Wrth wneud unrhyw asesiad o dan y Pennod hwn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i'r amcanion ansawdd data perthnasol sydd wedi eu nodi yn Atodlen 8.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal asesiadau yn unol â —

    (4) O ran bensen, carbon monocsid, nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, osôn a sylffwr deuocsid, rhaid i fesuriadau cyfaint gael eu safon ar dymheredd o 293K a phwysedd o 101.3 kPa.



RHAN 3

Llygryddion eraill a monitro cefndir

Mesur PM2.5
    
17. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (2), osod a gweithredu gorsafoedd mesur i gyflenwi data cynrychioliadol ar grynodiadau o PM2.5.

    (2) At ddiben paragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

Mesuriadau rhagsylweddion osôn
    
18. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (2), osod a gweithredu un neu, os yw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol, rhagor o orsafoedd mesur i gyflenwi data ynglyn â chrynodiadau rhagsylweddion osôn sydd wedi eu nodi yn Atodlen 10.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i Atodlen 10 wrth ddewis nifer a safleoedd gorsafoedd mesur a'u gweithrediad.

Monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig
    
19. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (3) i (6), fonitro crynodiadau o—

    (2) Dyma'r hydrocarbonau aromatig polysyclig sy'n ofynnol iddynt gael eu hasesu gan baragraff (1)—

    (3) Rhaid i'r monitro sy'n ofynnol gan baragraff (1) gael ei gynnal mewn safleoedd monitro a ddynodwyd at y diben hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraffau (4) a (5).

    (4) Rhaid i bob safle monitro—

    (5) Bydd cyfanswm nifer y safleoedd monitro a'u detholiad cyffredinol yr hyn y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei farnu sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y monitro a wneir yn darparu gwybodaeth ddigonol i adnabod tueddiadau hirdymor ac amrywiad daearyddol crynodiadau.

    (6) Mae rheoliad 16(2) a (3) yn gymwys i'r monitro sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn.

    (7) At ddiben paragraff (1)(b), ystyr "hydrocarbonau aromatig polysyclig" ("polycyclic aromatic hydrocarbons") yw cyfansoddion organig, heblaw benso(a)pyren, sy'n cynnwys o leiaf dau gylch aromatig ymdoddedig a wnaed yn gyfan gwbl o garbon a hydrogen.

Monitro cefndir
    
20. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (3) a (4), osod a gweithredu pwyntiau samplu cefndir i ddarparu'r mesuriadau sy'n ofynnol gan baragraff (2).

    (2) Mae'r mesuriadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn fesuriadau dangosol o—

    (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—

    (4) Mae rheoliad 16(2) a (3) yn gymwys i'r mesuriadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn.

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol—

    (6) At ddibenion paragraff (2)(a)(iii), ystyr "mercwri nwyol llwyr" ("total gaseous mercury") yw—



RHAN 4

Gwybodaeth a chyfranogiad y cyhoedd

Gofynion cyffredinol
    
21. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth y mae'r Rhan hon yn berthnasol iddi—

    (3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr "y cyhoedd" yw personau naturiol neu gyfreithiol, yn cynnwys cyrff gofal iechyd a sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd ac y mae ganddynt fuddiant mewn ansawdd aer amgylchynol.

Gwybodaeth ynglyn â pharthau
    
22. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefny bod y canlynol ar gael—

Gwybodaeth am grynodiadau
    
23. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (2) a (3), sicrhau bod gwybodaeth ar gael ynglyn â—

    (2) Rhaid i'r wybodaeth y mae paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi'n ofynnol i fod ar gael, ac, i'r graddau ei bod yn berthnasol i PM2.5, paragraff(1)(d)(i), gael ei diweddaru mewn perthynas â—

    (3) Rhaid i'r wybodaeth y mae paragraff (1)(c) yn ei gwneud hi'n ofynnol i fod ar gael, gael ei diweddaru—

Gwybodaeth am dorri trothwy rhybuddio neu drothwy gwybodaeth
    
24. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo modd ym mhob achos, ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (2) i (4) lle—

    (2) Pan fo paragraff (1)(a)(i) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddarparu'r wybodaeth fel a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 11.

    (3) Pan fo paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddarparu'r wybodaeth fel a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 11.

    (4) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (3), i'r graddau y bo hynny'n ymarferol.

    (5) Pan fo—

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfuno'r wybodaeth mewn perthynas â'r ddau is-baragraff hynny y mae'n ofynnol i wneud hynny gan baragraffau (2) i (4) mewn fformat cynhwysfawr.

    (6) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymrwymiad a osodir gan y rheoliad hwn i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd, mewn achosion lle mae gormodiant yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn neu rhagwelir y bydd uwchlaw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y darperir gwybodaeth amserol i bob sefydliad gofal iechyd perthnasol.

Gwybodaeth am dorri safonau ansawdd aer
    
25. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (2) i (5) mewn perthynas â phob un o'r llygryddion y mae'r paragraffau hynny yn berthnasol iddynt.

    (2) Ar gyfer llygryddion Grŵp A, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (3) Ar gyfer llygryddion Grŵp B, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (4) Ar gyfer osôn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (5) Mae'n rhaid i'r wybodaeth y mae paragraffau (2) a (4) yn ei gwneud hi'n ofynnol eu darparu, gael ei diweddaru yn unol â'r amserlen a bennwyd ar gyfer y llygryddion hynny gan reoliad 23(2) a (3).

Adroddiad blynyddol osôn
    
26. —(1) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynhyrchu adroddiad blynyddol mewn perthynas ag osôn yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Mae'n rhaid i'r adroddiad blynyddol gynnwys o leiaf yr wybodaeth ganlynol—

    (3) Caiff yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(b) gynnwys, lle bo'n briodol,—

Gwybodaeth am gynlluniau gweithredu a gwella
    
27. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu bod y canlynol ar gael, a darparu gwybodaeth am weithredu, pob cynllun gweithredu a chynllun gwella.

    (2) Pan fo rheoliad 11(4) yn gymwys, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod canlyniadau'r archwiliadau a wnaed yng nghyd-destun ei ystyriaeth o dan y rheoliad hwnnw ar gael, p'un bynnag os yw wedi paratoi cynllun gweithredu o dan rheoliad 11(1)(a) neu beidio.

Cyfranogiad y cyhoedd mewn cynlluniau gwella
    
28. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r cyhoedd lle y mae'n bwriadu paratoi, addasu neu adolygu cynllun gwella.

    (2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ymgynghori, yn dod i benderfyniad ynglyn â'i gynnig, rhaid iddo roi gwybod i'r cyhoedd a darparu gwybodaeth am y rhesymau a'r ystyriaeth y mae wedi seilio ei benderfyniad.



RHAN 5

Darpariaethau terfynol ac amrywiol

Casglu gwybodaeth etc.
    
29. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a ddynodir yn Rhan 1 o Atodlen 12 wedi ei chael a'i chasglu.

    (2) Mae'r meini prawf yn Rhan 2 o Atodlen 12 ar gyfer casglu data a chyfrifo paramedrau ystadegol yn gymwys mewn perthynas ag osôn.

Dirymiadau
Mae'r Rheoliadau a nodir yn Atodlen 13 yn cael eu dirymu yn unol â'r Atodlen honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 6


Safonau ansawdd aer




RHAN 1

Gwerthoedd terfyn ar gyfer llygryddion Grŵp A

Bensen


           Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn Dyddiad cyflawni
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 5 µg/m³ 1 Ionawr 2010

Carbon monocsid
At ddibenion y tabl hwn, bydd crynodiad y cymedr 8 awr dyddiol uchaf yn cael ei ddewis drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8 awr, wedi'u cyfrifo o ddata yn ôl yr awr ac wedi'u diweddaru bob awr. Rhaid priodoli pob cyfartaledd 8 awr sydd wedi'i gyfrifo felly i'r diwrnod y mae'n dod i ben arno, hynny yw, y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod cynt i 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 16:00 i 24:00 ar y diwrnod hwnnw.

           Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf 10 mg/m³

Plwm


           Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 0.5 µg/m³

Nitrogen deuocsid (NO2) ac ocsidau o nitrogen (NOx)


           Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn Dyddiad cyflawni
Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd dynol 1 awr 200 µg/m³ NO2, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 18 gwaith fesul blwyddyn galendr 1 Ionawr 2010
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 40 µg/m³ NO2 1 Ionawr 2010
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant Blwyddyn galendr 30 µg/m³ NOx           

PM10


           Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn 24 awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 24 awr 50 µg/m³ PM10, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 35 gwaith fesul blwyddyn galendr
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd dynol Blwyddyn galendr 40 µg/m³ PM10

Sylffwr deuocsid


           Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 1 awr 350 µg/m³, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 24 gwaith fesul blwyddyn galendr
Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl 24 awr 125 µg/m³, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 3 gwaith fesul blwyddyn galendr
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau Blwyddyn galendr a gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) 20 µg/m³



RHAN 2

Ffiniau goddefiant ar gyfer bensen a nitrogen deuocsid

Dechrau'r cyfnod pan fydd y ffin yn gymwys Diwedd y cyfnod pan fydd y ffin yn gymwys Bensen Nitrogen deuocsid (gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl Nitrogen deuocsid pobl) (gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl)
Pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym 31 Rhagfyr 2007 3 µg/m³ 30 µg/m³ 6 µg/m³
1 Ionawr 2008 31 Rhagfyr 2008 2 µg/m³ 20 µg/m³ 4 µg/m³
1 Ionawr 2009 31 Rhagfyr 2009 1 µg/m³ 10 µg/m³ 2 µg/m³



RHAN 3

Gwerthoedd targed ar gyfer llygryddion Grwp B

     1. Mae'r gwerthoedd targed yn y tabl isod ym mhob achos yn gysylltiedig â chyfanswm cynnwys y llygrydd perthnasol yn y ffracsiwn PM10 a gafwyd ar gyfartaledd dros un flwyddyn galendr.

     2. Y dyddiad cyrraedd ar gyfer pob un o'r gwerthoedd targed hyn yw 31 Rhagfyr 2012.

Llygrydd Gwerth targed
Arsenig 6 ng/m³
Benso(a)pyren 1 ng/m³
Cadmiwm 5 ng/m³
Nicel 20 ng/m³



RHAN 4

Gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer osôn

     3. Yn y Rhan hon—

Gwerthoedd targed


           Paramedr Gwerth targed ar gyfer 2010(¹)
Gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd pobl Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf(²) 120 µg/m³, sef sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef ar fwy na 25 diwrnod fesul blwyddyn galendr a hynny wedi'i gyfartaleddu dros dair blynedd(³)
Gwerth targed ar gyfer dros diogelu llystyfiant AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1 awr o Fai i Orffennaf 18,000 µg/m³.h wedi'i gyfartaleddu bum mlynedd(³)

(¹) Asesir cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed yn ôl y gwerth hwn; hynny yw, 2010 fydd y flwyddyn gyntaf y defnyddir y data ar ei chyfer i gyfrifo cydymffurfedd dros dair neu bum mlynedd, fel y bo'n briodol.

(²) Rhaid dethol crynodiad y cymedr 8 awr dyddiol uchaf drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8 awr, wedi'u cyfrifo o ddata yn ôl yr awr ac wedi'u diweddaru bob awr. Rhaid priodoli pob cyfartaledd 8 awr sydd wedi'i gyfrifo felly i'r diwrnod y mae'n dod i ben arno; hynny yw, y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod cynt i 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 16:00 i 24:00 ar y diwrnod hwnnw.

(³) Os nad oes modd penderfynu'r cyfartaleddau tair-blynedd neu'r cyfartaleddau pum-mlynedd ar sail set gyflawn ac olynol o ddata blynyddol, rhaid bod isafswm y data blynyddol sy'n ofynnol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed fel a ganlyn: (i) ar gyfer y gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd pobl, data dilys ar gyfer blwyddyn, a (ii) ar gyfer y gwerth targed ar gyfer diogelu llystyfiant, data dilys ar gyfer tair blynedd.

Amcanion hirdymor


           Paramedr Yr amcan hirdymor
Amcan hirdymor ar gyfer diogelu iechyd pobl Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf o fewn blwyddyn galendr 120 µg/m³
Amcan hirdymor ar gyfer diogelu llystyfiant AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1-awr o Fai i Orffennaf 6,000 µg/m³.h



ATODLEN 2
Rheoliad 8(4)


Gwybodaeth i'w chynnwys mewn Cynllun Gwella


     1. Lleoliad gormodiant o lygredd—

     2. Gwybodaeth gyffredinol—

     3. Awdurdodau cyfrifol (enwau a chyfeiriadau personau sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu cynlluniau gwella).

     4. Natur y llygredd ac asesiad ohono—

     5. Tarddiad y llygredd—

     6. Dadansoddi'r sefyllfa—

     7. Manylion y mesurau hynny neu brosiectau gwella a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996—

     8. Manylion y mesurau neu'r prosiectau hynny a fabwysiadwyd gyda'r bwriad o ostwng llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996—

     9. Manylion y mesurau neu brosiectau arfaethedig neu sy'n cael eu hymchwilio ar gyfer yr hirdymor.

     10. Rhestr o'r cyhoeddiadau, dogfennau a gwaith a ddefnyddir i ychwanegu at yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr Atodlen hon.



ATODLEN 3
Rheoliad 11(6)


Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth




RHAN 1

Trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid

Nitrogen deuocsid 400 µg/m³ wedi'i fesur dros dair awr yn olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros o leiaf 100 km² neu barth cyfan neu grynhoad cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf
Sylffwr deuocsid 500 µg/m³ wedi'i fesur dros dair awr yn olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros o leiaf 100 km² neu barth cyfan neu grynhoad cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf



RHAN 2

Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer osôn

           Paramedr Trothwy
Trothwy rhybuddio Cyfartaledd o 1 awr(¹) 240 µg/m³
Trothwy gwybodaeth Cyfartaledd o 1 awr 180 µg/m³

(¹) At ddibenion rheoliad 11 (cynlluniau gweithredu), bydd gormodiant yn uwch na'r cyfartaledd o 1 awr mewn perthynas â'r trothwy rhybuddio yn cael ei fesur neu ei ragfynegi am dair awr yn olynol.



ATODLEN 4
Rheoliad 13(5)


Trothwyon asesu




RHAN 1

Trothwyon asesu ar gyfer llygryddion Grŵp A

Bensen


           Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf 70% o'r gwerth terfyn (3.5 µg/m³)
Trothwy asesu isaf 40% o'r gwerth terfyn (2 µg/m³)

Carbon monocsid


           Cyfartaledd o wyth awr
Trothwy asesu uchaf 70% o'r gwerth terfyn (7 mg/m³)
Trothwy asesu isaf 50% o'r gwerth terfyn (5 mg/m³)

Plwm


           Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf 70% o'r gwerth terfyn (0.35 µg/m³)
Trothwy asesu isaf 50% o'r gwerth terfyn (0.25 µg/m³)

Nitrogen deuocsid (NO2) ac ocsidau nitrogen (NOx)


           Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl (NO2) Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl (NO2) Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant (NOx)
Trothwy asesu uchaf 70% o'r gwerth terfyn (140 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr 80% o'r gwerth terfyn (32 µg/m³) 80% o'r gwerth terfyn (24 µg/m³)
Trothwy asesu isaf 50% o'r gwerth terfyn 100 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr 65% o'r gwerth terfyn (26 µg/m³) 65% o'r gwerth terfyn (19.5 µg/m³)

PM10


           Cyfartaledd 24 awr Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf 60% o'r gwerth terfyn (30 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 7 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr 70% o'r gwerth terfyn (14 µg/m³)
Trothwy asesu isaf 40% o'r gwerth terfyn (20 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 7 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr 50% o'r gwerth terfyn (10 µg/m³)

Sylffwr deuocsid


           Diogelu iechyd Diogelu'r ecosystem
Trothwy asesu uchaf 60% o'r gwerth terfyn 24 awr (75 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr 60% o werth terfyn y gaeaf (12 µg/m³)
Trothwy asesu isaf 40% o'r gwerth terfyn 24 awr (50 µg/m³), sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr 40% o werth terfyn y gaeaf (8 µg/m³)



RHAN 2

Trothwyon asesu ar gyfer llygryddion Grwp B

Arsenig


Trothwy asesu uchaf 60% o'r gwerth targed (3.6 ng/m³)
Trothwy asesu isaf 40% o'r gwerth targed (2.4 ng/m³)

Benso(a)pyren


Trothwy asesu uchaf 60% o'r gwerth targed (0.6 ng/m³)
Trothwy asesu isaf 40% o'r gwerth targed (0.4 ng/m³)

Cadmiwm


Trothwy asesu uchaf 60% o'r gwerth targed (3 ng/m³)
Trothwy asesu isaf 40% o'r gwerth targed (2 ng/m³)

Nicel


Trothwy asesu uchaf 70% o'r gwerth targed (14 ng/m³)
Trothwy asesu isaf 50% o'r gwerth targed (10 ng/m³)



RHAN 3

Penderfynu pan fydd gormodiant uwchlaw trothwyon asesu

     1. Rhaid i ormodiannau uwchlaw'r trothwyon asesu uchaf ac isaf gael eu penderfynu ar sail crynodiadau dros y pum mlynedd blaenorol pan fo data digonol ar gael. Bernir bod gormodiant uwchlaw trothwy asesu os yw wedi bod uwchlaw yn ystod o leiaf tair blynedd ar wahân allan o'r bum mlynedd blaenorol.

     2. Pan fo llai na phum mlynedd o ddata ar gael, caiff ymgyrchoedd mesuriadau a gynhelir am gyfnodau byr yn ystod y flwyddyn ac mewn lleoliadau sy'n debygol o fod yn nodweddiadol o'r crynodiadau uchaf gael eu cyfuno gyda'r canlyniadau a gafwyd oddi wrth restri o ollyngiadau a gwaith modelu i benderfynu ar ormodiant uwchlaw'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.



ATODLEN 5
Rheoliad 15(1)(b) Rheoliad 19(4)(b) Rheoliad 20(3)(b)


Lleoli pwyntiau samplu




RHAN 1

Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp A

Pwyntiau samplu ar gyfer diogelu iechyd pobl
     1. Dylai pwyntiau samplu a fwriadwyd ar gyfer diogelu iechyd pobl gael eu lleoli i ddarparu data ynglyn â'r—

     2. Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach sy'n agos iawn atynt. Fel canllaw, dylid lleoli pwynt samplu fel ei fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal amgylchynol o ddim llai na 200 m² mewn safleoedd lle y mae llawer o draffig un agos atynt ac o sawl kilometr sgwâr mewn safleoedd cefndir trefol.

     3. Hefyd, lle bo'n bosibl, dylai pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o leoliadau tebyg nad ydynt yn agos iawn atynt.

     4. Dylid ystyried yr angen i leoli pwyntiau samplu ar ynysoedd, lle y mae hynny'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl.

Diogelu ecosystemau a llystyfiant
     5. Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu at ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli mwy na 20 km oddi wrth grynoadau neu dros 5 km oddi wrth ardaloedd adeiledig eraill, safleoedd diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylid lleoli pwynt samplu i gynrychioli ansawdd aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km² o leiaf. Caniateir lleoli pwynt samplu ar bellter llai neu i gynrychioli ansawdd aer mewn ardal llai estynedig, gan gymryd amodau daearyddol i ystyriaeth.

     6. Dylid ystyried yr angen i asesu ansawdd aer ar ynysoedd.



RHAN 2

Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp B

     7. Dylid dewis safleoedd pwyntiau samplu mewn ffordd sy'n darparu data am—

     8. Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli fel eu bod yn osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffuniau agos. Fel arweiniad, dylai pwynt samplu fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardaloedd amgylchynol o ddim llai na 200 m² mewn safleoedd ar gyfer traffig yn bennaf, o leiaf 250m × 250m mewn safleoedd diwydiannol, lle bo hynny'n ddichonadwy, a sawl cilometr sgwâr mewn safleoedd cefndir trefol.

     9. Pan anelir at asesu lefelau cefndir ni ddylai'r safle samplu gael ei ddylanwadu gan grynoadau neu safleoedd diwydiannol sydd wrth ymyl, hynny yw safleoedd sy'n nes nag ychydig o gilometrau.

     10. Pan fo cyfraniadau o ffynonellau diwydiannol i gael eu hasesu, mae'n rhaid i o leiaf un pwynt samplu gael ei osod o du'r gwynt i'r ffynhonnell yn yr ardal breswyl agosaf. Lle na wyddys beth yw'r crynodiad cefndir, rhaid lleoli'r pwynt samplu ychwanegol yng nghyfeiriad y prif wynt. Yn benodol, pan fo rheoliad 9(1)(a) yn gymwys, dylid lleoli'r pwyntiau samplu fel y gellir monitro'r defnydd o'r mesurau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2)(b).

     11. Hefyd, pan fo'n bosibl, dylai pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o leoliadau tebyg nad ydynt yn agos iawn atynt. Lle bo'n briodol, dylent gael eu cyd-leoli gyda phwyntiau samplu ar gyfer PM10.



RHAN 3

Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer osôn

     12. Rhaid i bwyntiau samplu ar gyfer osôn gael eu lleoli yn unol â'r ystyriaethau sydd wedi eu nodi yn y tabl canlynol—

Math o orsaf Amcan y mesuriad Cynrychioldeb(¹) Meini prawf lleoli ar y raddfa facro
Trefol Diogelu iechyd pobl: Asesu pa more agored yw'r boblogaeth drefol i osôn, h.y., pan fo'r dwysedd poblogaeth a chrynodiad osôn yn gymharol uchel ac yn nodweddiadol o ba mo'r agored yw'r boblogaeth gyffredinol Ychydig o km² I ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol megis traffig, gorsafoedd petrol etc.; lleoliadau awyredig lle gellir mesur y boblogaeth drefol a lefelau sydd wedi eu cymysgu'n dda; lleoliadau megis rhannau preswyl a rhannau masnachol mewn dinasoedd, parciau (i ffwrdd o'r coed), strydoedd mawr neu sgwarau gydag ychydig o draffig neu ddim o gwbl, mannau agored sy'n nodweddiadol o gyfleusterau addysg, chwaraeon neu hamdden.
Maestrefol Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: Asesu pa mo'r agored i lygredd yw'r boblogaeth a'r llystyfiant sydd wedi'u lleoli ar gyrion y crynhoad, lle y mae'r lefelau osôn uchaf, y mae'r boblogaeth a'r llystyfiant yn debygol o fod yn agored yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol iddynt, yn digwydd Rhai degau o km² Ar ryw bellter penodol o ardal yr allyriannau uchaf, o du'r gwynt gan ddilyn cyfeiriadau'r prif wynt yn ystod amodau sy'n ffafriol ar gyfer ffurfio osôn; lle y mae'r boblogaeth, cnydau sensitif neu ecosystemau naturiol wedi'u lleoli ar ymylon allanol crynhoad yn agored i lefelau uchel o osôn; os yw'n briodol, rhai gorsafoedd maestrefol sydd hefyd o du'r gwynt i'r ardal lle y mae'r allyriannau uchaf, er mwyn penderfynu lefelau cefndir rhanbarthol osôn
Gwledig Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: asesu pa mo'r agored yw'r boblogaeth, cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa is-ranbarthol Lefelau is-ranbarthol (ychydig o km²) Gellir lleoli gorsafoedd mewn cytrefi bychain a/neu ardaloedd ag ecosystemau naturiol, fforestydd neu gnydau; yn gynrychioladol ar gyfer osôn i ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol uniongyrchol megis safleoedd diwydiannol a ffyrdd; mewn safleoedd â mannau agored ond nid ar bennau'r mynyddoedd uchaf
Cefndir gwledig Diogelu llystyfiant ac iechyd pobl: Asesu pa mo'r agored yw cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa rhanbarthol yn ogystal â pha mor agored yw'r boblogaeth Lefelau rhanbarthol /cenedlaethol/cyfandirol (1,000 i 10,000 km²) Gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn mannau â dwysedd poblogaeth is, e.e. gydag ecosystemau naturiol, fforestydd, yn bell iawn o fannau trefol a diwydiannol ac i ffwrdd o allyriannau lleol; osgoi lleoliadau sy'n rhwym wrth y duedd leol i ffurfio amodau gwrthdroi sy'n agos at y ddaear, a chopâu'r mynyddoedd uchaf hefyd; ni argymhellir safleoedd arfordirol gyda chylchoedd gwynt dyddiol amlwg sy'n lleol eu natur

(¹) Hefyd, os oes modd, dylai'r pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o fannau tebyg nad ydynt yn agos iawn â hwy.

     13. Ar gyfer gorsafoedd gwledig a gorsafoedd cefndir gwledig, dylid ystyried cydlynu, pan fo'n briodol, â'r gofynion monitro yn Rheoliad y Comisiwn 1091/94[
11] ynghylch diogelu fforestydd y Gymuned rhag llygredd atmosfferig.



RHAN 4

Lleoli ar y raddfa ficro

     14. Dylid dilyn y canllawiau canlynol, cyn belled ag y bo'n ymarferol—

     15. Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd—



RHAN 5

Dogfennaeth ac adolygu dewis safle

     16. Dylai gweithdrefnau dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y cam dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu safleoedd yn rheolaidd gan ailadrodd y gwaith dogfennu i sicrhau bod y meini prawf dewis yn cael eu bodloni o hyd.

     17. O ran osôn, mae hyn yn gofyn am sgrinio a dehongli'r data monitro'n briodol yng nghyd-destun y prosesau meteorolegol a ffotocemegol sy'n effeithio ar grynodiadau osôn sy'n cael eu mesur yn y safle priodol.



ATODLEN 6
Rheoliad 15(2)


Isafsymiau'r pwyntiau samplu




RHAN 1

Llygryddion Grŵp A: gwerthoedd terfyn yn seiliedig ar iechyd pobl a throthwyon rhybuddio

     1. Mae'r Rhan hon yn nodi isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog o lygryddion Grŵp A i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl a throthwyon rhybuddio mewn parthau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell wybodaeth.

Ffynonellau gwasgaredig


Poblogaeth y parth (miloedd) Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf(¹) Os yw uchafswm y crynodiadau rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf Ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf
0—249 1 1 ddim yn gymwys
250—499 2 1 1
500—749 2 1 1
750—999 3 1 1
1,000—1,499 4 2 1
1,500—1,999 5 2 1
2,000—2,749 6 3 2
2,750—3,749 7 3 2
3,750—4,749 8 4 2
4,750—5,999 9 4 2
6,000 neu fwy 10 5 3

(¹) Ar gyfer NO2 a PM10 i gynnwys o leiaf un orsaf cefndir trefol ac un orsaf traffig-gyfeiriedig; mae'r gofyniad hwn hefyd yn gymwys i bensen a charbon monocsid ar yr amod nad yw'n cynyddu nifer y pwyntiau samplu.

Ffynonellau pwyntiau
     2. Ar gyfer asesu llygredd wrth ymyl ffynonellau pwyntiau, dylai nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei gyfrifo gan roi ystyriaeth i ddwysedd yr allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol llygredd aer amgylchynol a phosibilrwydd o ran pa mor agored yw'r boblogaeth i lygredd.



RHAN 2

Llygryddion Grŵp A: gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant

     3. Mae'r Tabl isod yn nodi isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau ar wahân i grynoadau.

Os yw mwyafswm y crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf Os yw mwyafswm y crynodiadau rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf
1 orsaf bob 20,000 km2 1 orsaf bob 40,000 km2

     4. Mewn parthau ar ynysoedd, dylai nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei gyfrifo gan ystyried patrymau dosbarthiad tebygol llygredd aer amgylchynol a phosibilrwydd o ran pa mor agored yw ecosystemau neu lystyfiant i lygredd.



RHAN 3

Llygryddion Grŵp B

     5. Mae'r Rhan hon yn nodi isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog o lygryddion Grŵp B i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed ar gyfer diogelu iechyd pobl mewn parthau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell o wybodaeth.

Ffynonellau gwasgaredig


Poblogaeth y parth (miloedd) Os yw'r crynodiadau mwyaf yn uwch na'r trothwy asesu uchaf(¹) Os yw'r crynodiadau mwyaf rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf
           Arsenig, Cadmiwm, Nicel Benso(a)pyren Arsenig, Cadmiwm, Nicel Benso(a)pyren
0—749 1 1 1 1
750—1,999 2 2 1 1
2,000—3,749 2 3 1 1
3,750—4,749 3 4 2 2
4,750—5,999 4 5 2 2
=6,000 5 5 2 2

(¹) I gynnwys o leiaf un orsaf cefndir trefol ac ar gyfer benso(a)pyren un orsaf traffig-gyfeiriedig hefyd ar yr amod nad yw hyn yn cynyddu nifer y pwyntiau samplu.

Ffynonellau pwyntiau
     6. Ar gyfer asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwyntiau, dylai nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei benderfynu gan ystyried dwysedd y gollyngiad, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd aer amgylchynol a'r posibilrwydd o ran pa mor agored yw'r boblogaeth i lygredd. Dylid lleoli'r pwyntiau samplu fel y gellir monitro cymhwysedd y mesurau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2)(b).



RHAN 4

Osôn

     7. Ac eithrio i'r graddau y mae fel arall yn cael ei ddarparu gan reoliad 15(5) neu (6), mae isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau parhaus sefydlog i asesu ansawdd aer gyda golwg ar gydymffurfedd â'r gwerthoedd targed, yr amcanion hirdymor a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio os mesuriadau parhaus yw'r unig ffynhonnell o wybodaeth wedi cael eu nodi yn y tabl isod.

Poblogaeth y parth (miloedd) Crynoadau (trefol a maestrefol)(¹) Parthau eraill (maestrefol a gwledig)(¹) Cefndir gwledig
0—249            1 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)
250—499 1 2 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)
500—999 2 2 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)
1,000—1,499 3 3 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)
1,500—1,999 3 4 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)
2,000—2,749 4 5 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)
2,750—3,749 5 6 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)
3,750 neu fwy 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion 1 orsaf/50,000 km² fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymru(²)

(¹) O leiaf 1 orsaf mewn ardaloedd maestrefol, lle mae datguddiad uchaf y boblogaeth yn debyg o ddigwydd. Mewn crynoadau, dylai o leiaf 50% o'r gorsafoedd fod wedi'u lleoli mewn mannau maestrefol.

(²) 1 orsaf fesul 25,000 km² yw'r argymhelliad ar gyfer tir cymhleth.



RHAN 5

Osôn: isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog y parthau sy'n cyrraedd yr amcanion hirdymor

     8. Mewn achosion lle mae parthau yn cyrraedd yr amcanion hirdymor, mae'n rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer osôn, mewn cyfuniad â dulliau eraill o asesu ychwanegol megis modelu ansawdd aer a mesuriadau nitrogen deuocsid sydd wedi'u cydleoli, fod yn ddigon i archwilio tuedd llygredd osôn a gwirio cydymffurfedd â'r amcanion hirdymor.

     9. Caniateir lleihau nifer y gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn crynoadau a pharthau eraill i draean o'r nifer a bennir yn y Tabl yn Rhan 4. Os gwybodaeth o orsafoedd mesuriadau sefydlog yw unig ffynhonnell yr wybodaeth, dylid cadw o leiaf un orsaf fonitro. Os canlyniad hyn, mewn parthau lle ceir asesiad ychwanegol, yw nad oes gan barth unrhyw orsaf ar ôl, rhaid sicrhau drwy gydlynu â nifer y gorsafoedd mewn parthau cymdogol fod asesiad digonol o grynodiadau osôn yn erbyn amcanion hirdymor yn cael ei gynnal.

     10. Dylai nifer y gorsafoedd cefndir gwledig fod yn 1 bob 100,000 km².



ATODLEN 7
Rheoliad 15(6)(b) Rheoliad 16(1)


Gofynion ar gyfer dulliau asesu ac eithrio mesuriadau sefydlog




RHAN 1

Llygryddion Grŵp A

     1. Rhaid llunio'r gwybodaeth ganlynol ar gyfer parthau lle defnyddir ffynonellau eraill ar wahân i fesuriadau sefydlog i ychwanegu at y gwybodaeth a geir o fesuriadau sefydlog neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd aer—

     2. Lle bo hynny'n bosibl, rhaid sicrhau bod mapiau yn cael eu llunio sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth.



RHAN 2

Llygryddion Grŵp B

Gofynion ar gyfer modelau ansawdd aer
     3. Lle defnyddir model ansawdd aer ar gyfer asesu, rhaid i unrhyw cyfeiriadau at ddisgrifiadau o'r model a gwybodaeth ynglyn â'r ansicrwydd gael ei llunio. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiad a gyfrifir ac a fesurir, dros flwyddyn lawn, heb gymryd fewn i ystyriaeth amseriad y digwyddiadau.

Gofynion ar gyfer dulliau amcangyfrif gwrthrychol
     4. Lle defnyddir dulliau amcangyfrif gwrthrychol, ni chaiff yr ansicrwydd fod yn uwch na 100% .

Safoni
     5. Ar gyfer sylweddau i'w dadansoddi yn y ffracsiwn PM10, mae'r cyfaint samplu yn cyfeirio at amodau amgylchynol.



RHAN 3

Osôn a sylweddau rhagsylweddyn osôn
     6. Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau lle y defnyddir ffynonellau ag eithrio mesuriadau i ychwanegu at wybodaeth a geir o fesuriadau—

     7. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod mapiau yn cael eu llunio sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth.



ATODLEN 8
Rheoliad16(2) Rheoliad 17(2)(d) Rheoliad 19(6) Rheoliad 20(4)


Amcanion ansawdd data




RHAN 1

Llygryddion Grŵp A a PM2.5

Llygryddion Grŵp A (heblaw bensen a charbon monocsid) a PM2.5
     1. Mae amcanion ansawdd data wedi eu nodi yn y tabl a'r paragraffau isod ar gyfer cywirdeb gofynnol y dulliau asesu, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd—

           Sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen Plwm, PM2.5 a PM10
Mesuriadau parhaus                      
Cywirdeb 15% 25%
Lleiafswm y data a gipir 90% 90%
Mesuriadau dangosol                      
Cywirdeb 25% 50%
Lleiafswm y data a gipir 90% 90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir 14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) 14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn)
Modelu                      
Cywirdeb                      
Cyfartaleddau bob awr 50% —60%           
Cyfartaleddau bob diwrnod 50%           
Cyfartaleddau blynyddol 30% 50%
Amcangyfrif gwrthrychol                      
Cywirdeb 75% 100%

     2. Mae cywirdeb y mesuriad wedi ei ddiffinio fel y nodwyd yn yr "Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau" (ISO 1993)[
12] neu mewn ISO 5725-1 "Manwl gywirdeb (gwiredd a thrachywiredd) dulliau a chanlyniadau mesuriad" (ISO 1994). Mae'r canrannau yn y tabl wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod cyfrifo, gan y gwerthoedd terfyn, ar gyfer cyfwng hyder o 95% (bias + dwy waith yr amrywiad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau parhaus gael eu dehongli fel eu bod yn gymwys o gwmpas y gwerth terfyn priodol.

     3. Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r gwerth terfyn, heb gymryd i fewn i ystyriaeth amseriad digwyddiadau.

     4. Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn

     5. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i fesuriadau ar hap gael eu gwneud yn lle mesuriadau parhaus ar gyfer plwm, PM2.5 a PM10 trwy ddulliau y mae cywirdeb yn y cyfwng hyder o 95% mewn perthynas â monitro parhaus wedi ei ddangos i fod o fewn 10% . Mae'n rhaid i samplu ar hap gael ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn.

Bensen a charbon monocsid
     6. Mae'r amcanion ansawdd data yn y tabl canlynol, ar gyfer ansicrwydd dulliau asesu a ganiateir, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd —

           Bensen Carbon monocsid
Mesuriadau sefydlog                      
Ansicrwydd 25% 15%
Lleiafswm y data a gipir 90% 90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir 35% mewn safleoedd cefndir trefol a thrafnidiaeth (wedi eu dosbarthu dros y flwyddyn i fod yn gynrychioliadol o wahanol amodau ar gyfer hinsawdd a thrafnidiaeth); 90% mewn safleoedd diwydiannol           
Mesuriadau dangosol                      
Ansicrwydd 30% 25%
Lleiafswm y data a gipir 90% 90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir 14% (mesuriad un diwrnod yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) 14% (un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn)
Modelu                      
Ansicrwydd:                      
Cyfartaleddau wyth awr            50%
Cyfartaleddau blynyddol 50%           
Amcangyfrif gwrthrychol                      
Ansicrwydd 100% 75%

     7. Rhaid llunio ansicrwydd (ar gyfwng hyder o 95% ) y dulliau asesu yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn "Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau" (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725:1994. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd terfyn, ar gyfer cyfwng hyder o 95% . Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y gwerth terfyn priodol.

     8. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r gwerth terfyn, heb gymryd i fewn i ystyriaeth amseriad y digwyddiadau.

     9. Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u chadw fel rhan o'r drefn.

     10. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i fesuriadau ar hap gael ei wneud yn lle mesuriadau parhaus ar gyfer bensen os yw'r ansicrwydd, gan gynnwys yr ansicrwydd o ganlyniad i samplu ar hap, yn cwrdd â'r amcan ansawdd 25% . Mae'n rhaid i samplu ar hap gael ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn.



RHAN 2

Llygryddion Grŵp B, hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri nwyol llwyr

     11. Mae'r amcanion ansawdd data sydd wedi eu nodi yn y tabl a'r paragraffau isod wedi cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd—

           Benso(a)pyren Arsenig, cadmiwm a nicel Hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri nwyol llwyr Dyddodiad llwyr
Ansicrwydd                                            
Mesuriadau sefydlog a dangosol 50% 40% 50% 70%
Modelu 60% 60% 60% 60%
Lleiafswm y data a gipir 90% 90% 90% 90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir                                            
Mesuriadau sefydlog 33% 50%                      
Mesuriadau dangosol(¹) 14% 14% 14% 33%

(¹) Mae mesuriadau dangosol yn fesuriadau sy'n cael eu perfformio'n llai rheolaidd ond sy'n cyflawni'r amcanion ansawdd data eraill.

     12. Rhaid llunio ansicrwydd (a fynegir ar gyfwng hyder o 95 % ) y dulliau a ddefnyddir i asesu crynodiadau aer amgylchynol yn unol â'r "Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau" CEN (ENV 13005-1999)[
13], y fethodoleg yn ISO 5725:1994, a'r arweiniad a roddir yn yr Adroddiad CEN, "Ansawdd aer — Agweddiad at amcangyfrif ansicrwydd ar gyfer dulliau mesuriad cyfeiriadol aer amgylchynol" (CR 14377:2002E). Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo amseroedd samplu nodweddiadol, ar gyfwng hyder o 95 % . Dylai' ansicrwydd y mesuriadau gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y gwerth targed priodol. Rhaid i'r mesuriadau sefydlog a dangosol gael eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn er mwyn osgoi gogwyddo canlyniadau.

     13. Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibreiddio yn rheolaidd neu wrth iddynt gael eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn. Rhaid cael samplu pedair awr ar hugain ar gyfer mesur benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill. Gyda gofal, gall samplau unigol a gymerwyd dros gyfnod o hyd at un mis gael eu cyfuno a'u dadansoddi fel sampl cyfansawdd, ar yr amod bod y dull yn sicrhau bod y samplau yn sefydlog ar gyfer y cyfnod hwnnw. Y tri cytras benso(b)fluoranthen, benso(j)fluoranthen, benzo(k)fluoranthen lle maent yn anodd eu cydrannu yn ddadansoddol. Mewn achosion o'r fath gellir eu cofnodi fel swm. Argymhellir bod samplu pedair awr ar hugain yn fuddiol hefyd ar gyfer mesur arsenig, cadmiwm a chrynodiadau nicel. Mae'n rhaid i'r samplu gael eu dosbarthu yn gyfartal dros ddiwrnodau'r wythnos a dros y flwyddyn. Ar gyfer mesur cyfraddau dyddodion, argymhellir cymryd samplau misol, neu wythnosol trwy gydol y flwyddyn.

     14. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu ar gyfer defnyddio samplu gwlyb yn unig yn lle samplu swmp os y gellir dangos i'w fodlonrwydd bod y gwahaniaeth rhyngddynt o fewn 10 % . Yn gyffredinol dylid nodi cyfraddau dyddodion mewn µg/m² y diwrnod.

     15. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio lleiafswm maint amser islaw'r hyn a ddangosir yn y tabl, ond nid yn is na 14 % ar gyfer mesuriadau sefydlog a 6 % ar gyfer mesuriadau dangosol ar yr amod ei fod yn fodlon y gellir dangos y bydd y 95 % ansicrwydd ehangedig ar gyfer y cymedr blynyddol, a gyfrifwyd o'r amcanion ansawdd data yn y tabl yn unol ag ISO 11222:2002 — "Penderfynu ar ansicrwydd cyfartaledd amser mesuriadau ansawdd aer" yn cael eu bodloni.



RHAN 3

Osôn a nitrogen deuocsid a asesir mewn pwyntiau samplu osôn

     16. Mae'r amcanion ansawdd data sydd wedi eu nodi yn y tabl a'r paragraffau isod, ar gyfer ansicrwydd a ganiateir o ddulliau asesu, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur, yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrhau ansawdd—

           Ar gyfer osôn, NO a NO2 a asesir mewn pwyntiau samplu osôn
Mesur sefydlog parhaus           
Ansicrwydd mesuriadau unigol 15%
Lleiafswm y data a gipir 90% yn ystod yr haf; 75% yn ystod y gaeaf
Mesur dangosol           
Ansicrwydd mesuriadau unigol 30%
Lleiafswm y data a gipir 90%
Lleiafswm yr amser a gwmpesir >10% yn ystod yr haf
Modelu           
Ansicrwydd           
Cyfartaleddau 1 awr (yn ystod y dydd) 50%
Mwyafswm 8 awr y dydd 50%
Amcangyfrif gwrthrychol           
Ansicrwydd 75%

     17. Mae'n rhaid i'r ansicrwydd (ar gyfwng hyder 95% ) am y dulliau mesur gael eu gwerthuso yn unol â'r egwyddorion sydd wedi eu nodi yn y "Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau" (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725-1 "Manwl gywirdeb (gwiredd a thrachywiredd) dulliau a chanlyniadau mesuriad" (ISO 1994) neu'n gywerth. Rhoddir y canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl ar gyfer mesuriadau unigol, ar gyfartaledd dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor, ar gyfer cyfwng hyder 95% . Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus gael ei ddehongli fel ei fod yn gymwys o gwmpas y crynodiad a ddefnyddir ar gyfer y trothwy priodol.

     18. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu yr amrywiad mwyaf o'r lefelau crynodiad a fesurwyd ac a gyfrifwyd, yn ystod y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r trothwy priodol, heb ystyried amseriad y digwyddiadau.

     19. Ystyr "yr amser a gwmpesir" ("time coverage") yw'r canran o amser a ystyriwyd ar gyfer setlo'r gwerth trothwy pan gaiff y llygrydd ei fesur.

     20. Ystyr "y data a gipir" ("data capture") yw cymhareb yr amser y mae'r offeryn yn cynhyrchu data dilys, i'r amser y mae'r paramedr ystadegol neu werth gyfun sydd i gael ei gyfrifo.



ATODLEN 9
Rheoliad 16(3)(a) Rheoliad 19(6) Rheoliad 20(4)


Dulliau cyfeirio




RHAN 1

Llygryddion Grŵp A

           Dull cyfeirio
Samplo a dadansoddi bensene Dull samplo wedi ei bwmpio ar getrisen sorbent wedi ei ddilyn gan benderfyniad cromatograffig nwy
Dadansoddi carbon monocsid Dull sbectrometrig is-goch sydd ddim yn wasgarol (NDIR)
Samplo plwm Yr un dull cyfeirio ag ar gyfer PM10
Dadansoddi plwm ISO 9855: 1993 Aer amgylchynol — Penderfynu ar gynnwys plwm gronynnol erosolau a gasglwyd mewn ffilterau. Dull amsugniad sbectrosgopeg atomig
Dadansoddi nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen ISO 7996: 1985 Aer amgylchynol — penderfynu ar grynodiadau mas ocsidau nitrogen — dull cemymoleuedd
Samplu a mesur PM10 Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 yw'r un a ddisgrifir yn EN 12341 Ansawdd Aer — Gweithdrefn Prawf Maes i Ddangos Cyfwerthedd Cyfeiriadau Dulliau Samplu ar gyfer y ffracsiwn PM10 o fater gronynnol. Mae'r egwyddor mesur yn seiliedig ar gasglu ar ffilter y ffracsiwn PM10 o fater gronynnol amgylchedd a'r penderfyniad màs grafimetrig
Dadansoddi sylffwr deuocsid ISO/FDIS 10498 (Safonol mewn drafft) Aer amgylchynol — penderfynu ar sylffwr deuocsid — dull fflwroleuedd uwchfioled



RHAN 2

Llygryddion Grŵp B mewn aer amgylchynol

           Dull cyfeirio
Samplu a dadansoddi llygryddion Grwp B ac eithrio benso(a)pyren mewn aer amgylchynol Dull yn seiliedig ar samplu PM10 sy'n gywerth ag EN 12341, wedi ei ddilyn gan dreuliad o'r samplau a dadansoddiad gan Sbectromedreg Amsugno Atomig neu Sbectromedreg Màs ICP
Crynodiadau Benso(a)pyren mewn aer amgylchynol Dull yn seiliedig ar samplu PM10 sy'n gywerth ag EN 12341



RHAN 3

Osôn

  Dull cyfeirio
Dadansoddi osôn Dull ffotometrig UV (ISO FDIS 13964 neu gywerth)
Calibreiddiad offerynnau osôn Y dull ffotomedr UV Cyfeirio (ISO FDIS 13964, VDI 2468, B1.6 neu gywerth)



RHAN 4

Dulliau cyfeirio eraill

           Dull cyfeirio
Samplu a dadansoddi hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn aer amgylchynol Dull yn seiliedig ar samplu PM10 sy'n gywerth ag EN 12341
Samplu a dadansoddi mercwri mewn aer amgylchynol Dull awtomatig yn seiliedig ar Sbectromedreg Amsugno Atomig neu Sbectromedreg Fflwroleuedd Atomig
Samplu a dadansoddi dyddodiad llygryddion Grŵp B, mercwri a hydrocarbonau aromatig polysyclig Dull yn seiliedig ar ddangosiad medryddion dyddodyn silindrog gyda dimensiynau safonol



ATODLEN 10
Rheoliad 18


Sylweddau rhagsylweddyn osôn


Amcanion
     1. Prif amcanion mesuriadau sylweddau rhagsylweddyn osôn yw dadansoddi unrhyw dueddiad mewn rhagsylweddau osôn, gwirio effeithlonrwydd strategaethau gostwng allyriannau, gwirio cysondeb dangosyddion allyriannau a helpu i briodoli ffynonellau allyriannau i grynodiad llygredd.

     2. Nod ychwanegol yw cefnogi dealltwriaeth ffurfiad yr osôn a phrosesau gwasgariad rhagsylweddyn, yn ogystal â chymhwysedd modelau ffotocemegol.

Sylweddau
     3. Mae'n rhaid i fesuriadau sylweddau rhagsylweddyn osôn gynnwys o leiaf nitrogen ocsidau, a chyfansoddion organig anweddol priodol. At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr "cyfansoddion organig anweddol" yw'r holl gyfansoddion organig o ffynonellau anthropogenig a biogenig, heblaw methan, sy'n gallu cynhyrchu ocsidyddion ffotocemegol trwy adweithio gyda nitrogen ocsidau yng ngolau'r haul.

     4. Rhoddir rhestr o gyfansoddion organig anweddol yr argymhellir eu mesur trwy Gyfarwyddeb 2002/3/EC[
14] yn y tabl isod—

Ethan 1-Buten Isopren Ethyl bensen
Ethylen trans-2-Buten n-Hecsane m+p-Sylen
Acetylen cis-2-Buten i-Hecsane o-Sylen
Propan 1.3-Butadiene n-Heptan 1,2,4-Trimeth. Bensen
Propen n-Pentan n-Octan 1,2,3-Trimeth. Bensen
n-Butan i-Pentan i-Octan 1,3,5-Trimeth. Bensen
i-Butan 1-Penten Bensen Fformaldehyd
           2-Penten Toluen Cyfanswm hydrocarbonau sydd ddim yn methan

Dulliau cyfeirio
     5. Y dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi ocsidau nitrogen yw ISO 7996:1985, Aer amgylchynol — penderfynu ar grynodiadau mas nitrogen ocsidau — dull cemymoleuedd.

Safleoedd monitro
     6. Dylid cymryd mesuriadau, yn arbennig mewn ardaloedd trefol a maestrefol, mewn unrhyw safle monitro a ystyrir yn briodol mewn perthynas â'r amcanion monitro yn yr Atodlen hon.



ATODLEN 11
Rheoliad 24(2) a (3)


Gwybodaeth i'r cyhoedd lle mae gormodiant uwchlaw'r trothwyon rhybuddio neu wybodaeth




RHAN 1

Trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid

     1. Mewn achosion lle mae gormodiant uwchlaw'r trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid neu sylffwr deuocsid, dylai'r wybodaeth sydd i'w rhoi i'r cyhoedd gynnwys o leiaf—



RHAN 2

Trothwyon rhybuddio a gwybodaeth ar gyfer osôn

     2. Mewn achosion lle mae—

mae'n rhaid i'r manylion a nodwyd ym mharagraffau 3 i 6, fel lleiafswm, fod ar gael i'r cyhoedd ar raddfa digon mawr.

     3. Gwybodaeth am unrhyw ormodiant uwchlaw a welwyd—

     4. Y rhagolwg am y prynhawn, diwrnod neu ddyddiau canlynol,—

     5. Gwybodaeth am y math o boblogaeth sy'n gysylltiedig, effeithiau posibl ar iechyd ac ymddygiad a argymhellir—

     6. Rhaid i wybodaeth a ddarperir o dan yr Atodlen hon hefyd gynnwys—



ATODLEN 12
Rheoliad 29


Casglu gwybodaeth a meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol




RHAN 1

Gwybodaeth i'w chyflwyno i'r Comisiwn

     1. Mae'n rhaid cael a chasglu'r wybodaeth ganlynol am grynodiadau osôn—

           Math o orsaf Lefel Amser cyfartaleddu / cronni Data dros dro ar gyfer pob mis o fis Ebrill i fis Medi Adroddiad ar gyfer pob blwddyn
Trothwy gwybodaeth Unrhyw un 180µg/m³ 1 awr Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol
                                            Mwyafswm osôn 1-awr bob mis           
Trothwy rhybuddio Unrhyw un 240µg/m³ 1 awr Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad cyfanswm oriau y gormodiant, osôn 1-awr a gwerthoedd NO2 cysylltiedig pan yn ofynnol
Diogelu iechyd Unrhyw un 120µg/m³ 8 awr Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, mwyafswm 8 awr(¹) Ar gyfer pob diwrnod gydag unrhyw ormodiant uwchlaw: dyddiad, mwyafswm 8 awr(¹)
Diogelu llystyfiant Maestrefol, gwledig, cefndir gwledig AOT40(²) = 6,000 µg/m³.h 1 awr, cronedig o fis Mai i fis Mehefin            Gwerth
Diogelu fforestydd Maestrefol, gwledig, cefndir gwledig AOT40(²) = 20,000 µg/m3.h 1 awr, cronedig o fis Ebrill i fis Medi            Gwerth
Deunyddiau Unrhyw un 40 µg/m³ 1 flwyddyn            Gwerth

(¹) Mwyafswm cymedrig 8-awr dyddiol.

(²) Yn y tabl hwn yr un ystyr sydd i "AOT40" ag sydd iddo ym mharagraff 3(d) Rhan 4 Atodlen 1.

     2. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd sicrhau fod y wybodaeth ganlynol yn cael ei llunio—

     3. Bydd data a gasglwyd mewn adroddiadau misol yn cael eu hystyried fel data amodol a bydd angen ei ddiweddaru lle bo angen mewn adroddiadau diweddarach.



RHAN 2

Meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol

     4. Yn y Rhan hon, mae canraddau i gael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r dull a nodwyd yn Penderfyniad y Cyngor 97/101/EC[
15]yn sefydlu cyfnewid cytbwys o wybodaeth a data o rwydweithiau a gorsafoedd unigol sy'n mesur llygredd aer amgylchynol yn yr Aelod wladwriaethau.

     5. Rhaid defnyddio'r meini prawf canlynol ar gyfer gwirio dilysrwydd wrth agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol—

Paramedr Cyfran ofynnol o ddata dilys
Gwerthoedd 1 awr 75% (45 munud)
Gwerthoedd 8 awr 75% o werthoedd (6 awr)
Mwyafswm cymedrig 8 awr bob dydd o gyfartaleddau 8 awr yn rhedeg bob awr 75% o gyfartaleddau 8 awr yn rhedeg bob awr (18 8 awr y diwrnod)
AOT40 90% o'r gwerthoedd 1-awr dros y cyfnod amser a ddiffinnir ar gyfer cyfrifo gwerth AOT40(¹)
Cymedrig bob blwyddyn 75% o'r gwerthoedd 1-awr dros dymhorau yr haf (Ebrill i Medi) a'r gaeaf (Ionawr i Mawrth, Hydref i Rhagfyr) ar wahân
Nifer y gormodiant uwchlaw a'r gwerthoedd mwyafswm y mis 90% o'r gwerthoedd cymedrig 8 awr mwyafswm bob dydd (27 gwerthoedd dyddiol ar gael y mis) 90% o'r gwerthoedd 1-awr rhwng 8:00 a 20:00 Amser Canol Ewrop
Nifer y gormodiant uwchlaw a'r gwerthoedd mwyafswm y flwyddyn Pump o chwe mis yr haf dros dymor yr haf (Ebrill i Medi)

(¹) Mewn achosion lle nad yw pob data mesuredig posib ar gael, rhaid defnyddio'r ffactor canlynol i gyfrifo gwerthoedd AOT40: AOT40 (amcangyfrif) = AOT40 a fesurwyd × (cyfanswm posib yr oriau ÷ nifer y gwerthoedd-yr-awr mesuredig). Yn y fformiwla hon mae'r cyfeiriad at gyfanswm posibl yr oriau yn gyfeiriad at yr oriau o fewn cyfnod y diffiniad AOT40 (hynny yw, 8:00 i 20:00 yn Amser Canol Ewrop o 1 Mai hyd at 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ar gyfer amddiffyn llystyfiant ac o 1 Ebrill hyd at 30 Medi bob blwyddyn ar gyfer amddiffyn coedwigoedd).



ATODLEN 13
Rheoliad 30


Dirymiadau


Rheoliadau sydd wedi eu dirymu Cyfeiriad Yn weithredol o
Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2005 O.S. 2005/1157 (Cy. 74) 15 Mawrth 2007
Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 O.S. 2003/1848 (Cy. 198) 15 Mawrth 2007
Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 O.S. 2002/3183 (Cy. 299)(¹) 15 Mawrth 2007
Rheoliad 6 o Reoliadau Safonau Ansawdd 1989(²), i'r graddau ei fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru O.S. 1989/317(³) 1 Ionawr 2010

(¹) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1157 (Cy. 74).

(²) Mae Rheoliad 6 o O.S. 1989/317 wedi cael ei dirymu, i'r graddau ei bod yn gymwys mewn perthynas â Chymru, gan reoliad 13(2) o O.S. 2002/3183 (Cy. 299) o'r dyddiad a nodir yn nhrydedd golofn y tabl uchod, sy'n golygu na fydd y dirymiad wedi dod yn weithredol erbyn yr adeg y bydd O.S. 2002/3183 (Cy. 299) ei hun wedi cael ei ddirymu.

(³) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3146 mewn perthynas â rheoliad 6.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn—

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys rheoliad 3, sy'n dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") fel yr awdurdod cymwys at ddibenion erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cyrraedd at safonau ansawdd aer mewn perthynas â chrynodiad gwahanol lygryddion mewn aer amgylchynol.

At ddibenion Rhan 2, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol rannu Cymru yn barthau lle gwneir yr asesu a'r rheoli angenrheidiol o ansawdd aer (rheoliad 5).

Yn unol â rheoliad 6, gosodir gwerthoedd terfyn ar gyfer llygryddion "Grŵp A" (bensen, carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol (PM10) a sylffwr deuocsid); gosodir gwerthoedd targed ar gyfer llygryddion "Grŵp B" (cynnwys arsenig, benso(a)pyrene, cadmiwm a nicel, neu eu cyfansoddion, o fewn y ffracsiwn PM10); a gosodir gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer osôn.

Mae Pennod 2 o Ran 2 yn gosod y mesurau y mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol eu dilyn er mwyn sicrhau cyrraedd at y safonau perthnasol. Y mesurau sydd eu hangen yn arferol yw'r rhai sydd wedi eu nodi yn rheoliad 7. Mewn perthynas â bensen neu nitrogen deuocsid, lle y mae crynodiadau yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ynghyd â'r ffin goddefiant sydd wedi ei dynodi, mae rheoliad 8(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella. Hefyd mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella yn sgil rheoliad 8(3) mewn achosion lle y mae crynodiadau osôn yn uwch na'r gwerth targed oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried na fyddai'r gwerth targed yn gyraeddadwy trwy fesurau cymesur. Yn olaf, mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu'r mesurau a nodwyd yn y rheoliad hwnnw mewn achosion lle mae crynodiadau o lygryddion Grŵp B yn uwch na'r gwerth targed perthnasol neu mewn achosion lle y mae crynodiadau o osôn yn cydymffurfio â'r gwerth targed ond yn uwch nag amcan hirdymor.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn a'r gwerthoedd targed a, chyn belled â bod y ffactorau a nodwyd yn y rheoliad hwnnw yn caniatáu, yr amcan hirdymor ar gyfer osôn.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi, ac i'r graddau y mae'n ystyried hynny'n angenrheidiol, iddo roi ar waith gynlluniau gweithredu sy'n dangos y mesurau sydd i'w cymryd mewn achosion lle y bo risg o fynd yn uwch nag unrhyw werth terfyn neu trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid. Mae'n ofynnol hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried paratoi cynlluniau gweithredu lle y bo risg o fynd yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiad llygryddion Grwp A, llygryddion Grŵp B ac osôn ym mhob parth.

Mae rheoliadau 13 i 16 yn rhagnodi'r dulliau asesu sy'n ofynnol neu a ganiateir (yn ôl yr achos) a'r gofynion manwl mewn perthynas â phob dull (er enghraifft, gofynion ynglyn â phwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog).

Yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 17 i 19 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol fonitro neu fesur, yn y drefn honno, PM2.5, rhagsylweddion osôn a hydrocarbonau aromatig polysyclig penodol. Mae Rheoliad 20 yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd y mesuriadau dangosol o'r crynodiad a'r dyddodiad o lygryddion Grŵp B, hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri.

Yn Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 21 i 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd, gan gynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau perthnasol y cyhoedd. Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol cynhyrchu adroddiad blynyddol ar gyfer osôn ac mae rheoliad 27 yn mynnu bod cynlluniau gweithredu a chynlluniau gwella, a gwybodaeth ynglyn a'u gweithredu ar gael. Mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y caiff y cyhoedd gyfrannu at ddatblygu, addasu ac adolygu cynlluniau gwella.

Yn Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 29 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gael a chasglu data ac mae rheoliad 30 yn darparu ar gyfer diddymu Rheoliadau sy'n cael eu disodli gan y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 2000/2812.back

[2] 1972 c.68.back

[3] OJ Rhif L 296, 21.11.96, t. 55.back

[4] OJ Rhif L 163, 29.06.99, t. 41.back

[5] OJ Rhif L 313, 13.12.00, t. 12.back

[6] OJ Rhif L 67, 09.03.02, t.14.back

[7] OJ Rhif L 23, 26.01.05, t. 3.back

[8] OJ Rhif L 257, 10.10.96, t.26.back

[9] Gweithredir y Gyfarwyddeb gan Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/503, 2002/275, 2002/1702, 2003/1699, 2003/3296, 2004/3276, 2005/1448 a 2006/2802 (Cy.241)).back

[10] 1998 c.38back

[11] OJ Rhif L 125, 18.05.94, p.1.back

[12] Gellir prynu copïau o gyhoeddiadau'r Sefydliad Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Farchnata'r Sefydliad Safonau Prydeinig ('BSI') naill ai dros y ffôn (0208 996 9001) neu drwy'r post o BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL, http://www.bsi-global.com back

[13] Cyhoeddiad y Pwyllgor Ewropeaidd ar Safoni ("CEN"), cyfeiriad CEN yw 36, Rue de Stassart, B-1050, Brwsel, Gwlad Belg http://www.cenorm.be back

[14] Mae cyfeiriad llawn ar gyfer y Gyfarwyddeb hon i'w gael yn rheoliad 2(2)(d).back

[15] OJ L 35, 05.02.97, t.14.back



English version



ISBN 978 0 11 091535 7


 © Crown copyright 2007

Prepared 20 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070717w.html