BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 Rhif 728 (Cy.64) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070728w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 6 Mawrth 2007 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2007 |
Y personau, yr ymchwiliadau a'r gweithdrefnau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol
4.
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986[14] ar gyfer ymchwiliad lleol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau cymwys
5.
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679.
Y swm dyddiol safonol ar gyfer gweithdrefnau cymwys
6.
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £640.
Dirymiadau ac arbedion
7.
—(1) Dirymir Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002[15] ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad yr oedd y Rheoliadau hynny 'n gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.
(2) Dirymir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005[16] ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau dyddiol safonol y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol am bob dydd—
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Lleol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £645, a ragnodwyd gan Reoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2780) (Cy.264) ("Rheoliadau 2002") ar gyfer ymchwiliadau'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679. Yr un yw'r swm hwn â'r swm a ragnodwyd yn flaenorol gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/371) (Cy.35) ("Rheoliadau 2005") ar gyfer Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.
Y swm dyddiol safonol mewn perthynas â Gweithdrefnau Cymwys yw £640. Dyma'r tro cyntaf i swm dyddiol safonol gael ei ragnodi ar gyfer Gweithdrefnau Cymwys.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau mewn perthynas â symiau dyddiol safonol yn Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2005, ond maent yn cynnwys arbedion mewn cysylltiad ag Ymchwiliadau Lleol ac Ymchwiliadau Cymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau.
[2] Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgyfnerthu Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran II o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diddymwyd adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno), y mae adran 42(1)(c) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 yn cyfeirio ati, gan Atodlen 3 i Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (p.12).back
[3] Mae adran 69(7) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (p.59) yn darparu bod adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 yn gymwys pan fydd y naill neu'r llall o "the Ministers" wedi'i awdurdodi'n briodol i adennill costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw fel y mae'n gymwys pan fydd Gweinidog wedi'i awdurdodi felly yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Mae adran 69(5) o Ddeddf 1991 yn awdurdodi'r naill neu'r llall o "the Ministers", h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 a Gorchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794) am diffiniad o "the Ministers") i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhelir gan y Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.back
[4] Mae Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 1 iddo, yn darparu i bwerau Gweinidog o dan adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 fod yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y maent yn arferadwy ganddo.back
[7] Gweler y troednodyn i'r diffiniad o "ymchwiliad cymwys" yn rheoliad 2.back
[8] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000, erthygl 4; gweler y cofnod am Ddeddf 1990 yn Atodlen 3 i Orchymyn 2000.back
[9] Gweler y troednodyn i'r diffiniad o " ymchwiliad cymwys" yn rheoliad 2.back
[11] Mewnosodwyd adran 303(1A) yn Neddf 1990 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi.back
[12] O.S.2005/2847 (C.118). Drwy erthygl 2(e) o'r Gorchymyn, daeth y diwygiad i adran 303A o'r Ddeddf a wnaed gan Ddeddf 2004 i rym o ran Cymru ar 12 Hydref 2005. Er hynny, drwy erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw, mae darpariaethau adran 303A fel y'i mewnosodir gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 yn parhau i fod mewn grym mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol y mae'r darpariaethau yn y Ddeddf 1990 sy'n ymwneud â pharatoi, newid a rhoi cynlluniau datblygu unedol newydd yn lle hen rai yn parhau i fod yn gymwys. Effaith gyffredinol y darpariaethau niferus y cyfeirir atynt uchod yw, pan fydd awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu lleol cynhelir archwiliad annibynnol a bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ef. Pan fydd awdurdod cynllunio lleol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu unedol, fodd bynnag, cynhelir ymchwiliad lleol, pan fydd yn briodol, a bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i fod â phŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ef.back
[15] O.S.2002/2780 (Cy.264).back
[16] O.S.2005/371 (Cy.35).back