BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 Rhif 733 (Cy.65) (C.31)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070733w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 733 (Cy.65) (C.31)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 6 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 17(3) o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 —

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Diwrnod Penodedig
    
2. 2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod a benodwyd i adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 ddod i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewn cysylltiad â hwy.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
1].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ebrill 2007 adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006[
2], i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) godi ffi mewn cysylltiad â hwy ar fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[3]. Mabwysiadau a darpar fabwysiadau yw'r rhain y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â hwy fel Awdurdod Canolog o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithrediad mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd 1993.


Notes:

[1] 1998 p.38.back

[2] 2006 p.20.back

[3] 2002 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091527 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 14 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070733w.html