BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 736 (Cy.66)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070736w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 736 (Cy.66)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 6 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 2 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwer a roddwyd iddo gan adran 37(4) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 2 Ebrill 2007.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1968" ("the 1968 Regulations") yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau 1968
     2. —(1) Caiff Rheoliadau 1968 eu diwygio yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2(1) dileer y geiriau "they may request a report from the head teacher in respect of the child,".

    (3) Dirymir Rheoliad 6 o Reoliadau 1968.

    (4) Ar ôl rheoliad 8 mewnosoder y canlynol—

    (5) Yn rheoliad 10(4) (addysg)—

    (6) Yn rheoliad 12, ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol—

    (7) Ar ôl rheoliad 12(6) mewnosoder—

    (8) Ar ôl rheoliad 19 mewnosoder y canlynol—

    (9) Yn rheoliad 27 —

    (10) Yn rheoliad 28 —

    (11) Yn rheoliad 37 —

    (12) Yn rheoliad 38 —

    (13) Ar ôl paragraff 19 o'r Atodiad i Ran 1 o Atodlen 1 mewnosoder y canlynol—



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968 o ran plant naw oed neu drosodd er mwyn codi terfyn uchaf y cyfnod y caiff plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer parhaus heb doriad i bedair awr. Maent hefyd yn estyn yr oriau a ganiateir yn ystod y diwrnod gwaith a chyfanswm yr oriau y caiff y plant hyn fod yn bresennol yn y man lle cynhelir y perfformiad neu'r ymarfer. Maent yn codi'r cyfyngiad sy'n gwahardd rhoi trwydded os yw plentyn wedi gweithio mwy na nifer penodedig o ddyddiau yn ystod y deuddeng mis blaenorol.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn estyn yr addasiadau presennol i'r darpariaethau addysg i bob perfformiad neu weithgaredd. Am bob cyfnod o bedair wythnos, neu os yw'r cyfnod yn llai na phedair wythnos, am y cyfnod hwnnw, bydd y gofynion addysg yn cael eu bodloni os yw'r plentyn yn cael addysg am o leiaf chwe awr yr wythnos, ac os yw gweddill yr oriau addysg gofynnol yn digwydd ar ddyddiau heblaw pan na fyddai'n ofynnol i'r plentyn fynd i'r ysgol fel arfer, yn ddarostyngedig i uchafswm o bum awr o addysg yn digwydd ar unrhyw ddiwrnod.

Mae'r Rheoliadau yn gosod cyfyngiadau ychwanegol ar roi trwyddedau o ran addasrwydd y matron ac yn ei gwneud yn ofynnol cael adroddiad gan bennaeth unrhyw ysgol a fynychir gan y plentyn. Maent yn ychwanegu amodau pellach sy'n gymwys i bob trwydded, yn ei gwneud yn ofynnol darparu'r testun i'r matron ac yn ei gwneud yn ofynnol cadw at bolisiau perthnasol diogelu plant.


Notes:

[1] 1963.p.37. Diwygiwyd Adran 37 gan Reoliadau Plant (Diogelu yn y Gwaith) 1998 (O.S.1998/276). O ran Cymru, trosglwyddwyd y pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S.1968/1728 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygiadau Amrywiol ) 1998 (O.S. 1998/1678).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091528 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 14 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070736w.html