BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 844 (Cy.76)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070844w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 844 (Cy.76)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

     Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 31 Mawrth 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005[3] wedi'u diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)—

    (3) Yn rheoliad 7(a), yn lle is-baragraffau (i) i (iii) rhodder—

    (4) Yn rheoliad 9(3), yn lle'r geiriau ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol" hyd at ddiwedd y paragraff rhodder yn eu lle "heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y trosglwyddir.".

    (5) Yn rheoliad 31(5), yn lle "1 Medi" rhodder "30 Medi".

    (6) Yn rheoliad 36 —

    (7) Ym mharagraff 7, yn lle "(6)" rhodder "(6A)".

    (8) Yn rheoliad 38, hepgorer paragraff (2).

    (9) Yn rheoliad 39(2)(a)(ii), yn lle "yn rhinwedd rheoliad 38(2)" rhodder "o dan erthygl 11(4) o Reoliad y Comisiwn".

    (10) Ym mharagraff 2(1) o Atodlen 2, ar ddechrau is-baragraff (f) ac (ff) mewnosoder "os yw'n dal 4,855 neu ragor o litrau o gwota gwerthiannau uniongyrchol,".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Mawrth 2007, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 (O.S 2005/537) (Cy.47) ("Rheoliadau 2005").

Mae Rheoliadau 2005 yn rhoi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 ar waith sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t. 123) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1406/2006 (OJ Rhif L265, 26.9.2006, t.8), a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t.22) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1468/2006 (OJ Rhif L274, 5.10.2006, t.6) ("Rheoliad y Comisiwn").

Mae rheoliad 2—

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael wedi'i baratoi ac mae copïau ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2005/537 (Cy.47), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/762 (Cy.72).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091538 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 21 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070844w.html