BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 Rhif 969 (Cy.86)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070969w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 969 (Cy.86)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 21 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 21 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100F(3), a 100I(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 254 o'r Ddeddf honno a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Ebrill 2007.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Deddf 1972" ("the 1972 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Hawliau mynediad ychwanegol at ddogfennau ar gyfer aelodau o brif gynghorau
    
2. —(1) Diwygier adran 100F o Ddeddf 1972 (hawliau mynediad ychwanegol at ddogfennau ar gyfer aelodau o brif gynghorau) fel a ganlyn.

    (2) Yn is-adran (1), yn lle "subsections (2) to (2C)" rhodder "subsections (2) to (2E)".

    (3) Yn lle is-adran (2)C rhodder —

    (4) Ar ôl is-adran (2C) rhodder —

    (5) Yn is-adran (3), yn lle "subsections (2) to (2C)" rhodder "subsections (2) to (2E)".

Mynediad at Wybodaeth: gwybodaeth esempt
    
3. Yn lle Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972[3] (Gwybodaeth Esempt) rhodder y testun a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2007



YR ATODLEN
Erthygl 3

          





NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru. Mae'n gwneud newidiadau i Ran 5A (mynediad at gyfarfodydd a dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ("Deddf 1972") ac Atodlen 12A iddi (mynediad at wybodaeth: gwybodaeth esempt), sydd ill dwy yn ymwneud â mynediad at gyfarfodydd a dogfennau prif gynghorau a phwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol y cynghorau hynny.

Mae adran 100A(4) (mynediad i gyfarfodydd prif gynghorau) o Ddeddf 1972 yn benodol yn caniatáu i brif gyngor gau'r cyhoedd allan o gyfarfod pryd bynnag y bo'n debygol y bydd gwybodaeth esempt yn cael ei datgelu i'r cyhoedd fel arall. Diffinnir gwybodaeth esempt yn adran 100I (gwybodaeth esempt a'r pwer i amrywio Atodlen 12A) o Ddeddf 1972 fel gwybodaeth y mae ei disgrifiadau, at ddibenion Rhan 5A, yn ddisgrifiadau a bennir am y tro yn Rhan 1 o Atodlen 12A.

Mae Rhannau 1 i 3 o Atodlen 12A yn gymwys o ran prif gynghorau yn Lloegr. Mae Rhannau 4 i 6 o'r Atodlen honno yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi Rhannau 4 i 6 newydd yn Atodlen 12A.

Yn y Rhan 4 newydd, disodlir rhai o'r disgrifiadau o wybodaeth a restrir yn y Rhan 4 bresennol gan ddisgrifiadau symlach a chliriach.

Yn y Rhan 5 newydd, disodlir rhai o'r cymwysterau gan brawf lles y cyhoedd.

Gwneir hefyd ddiwygiadau canlyniadol i adran 100F (hawliau mynediad ychwanegol at ddogfennau ar gyfer aelodau o brif gynghorau) o Ddeddf 1972.


Notes:

[1] 1972 p.70. Mewnosodwyd adrannau 100F a 100I gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 (p.43), adran 1(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 2006/88 Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2006.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Mewnosodwyd Atodlen 12A gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985, adran 1(2) ac Atodlen 1, Rhan 1 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 2006/88 Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2006.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 1985 c.6.back

[6] 1974 c.46.back

[7] 1992 c.40.back

[8] 1965 c.12, 1967 c.48, 1975 c.41 and 1978 c.34.back

[9] 1986 c.53.back

[10] 1993 c.10.back

[11] S.I. 1992/1492.back

[12] 1992 c.52.back

[13] 1986 c.53.back



English version



ISBN 978 0 11 091557 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070969w.html