BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 1027 (Cy.94)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071027w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1027 (Cy.94)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 28 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef.

     Yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys iddo ef eu bod yn cynrychioli'r buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwynt, fel y gwêl yn briodol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.

Dirymiadau
    
2. Mae'r offerynnau a ddisgrifir yn y golofn gyntaf a'r ail golofn o'r Atodlen yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r Atodlen.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 2


DIRYMIADAU


Yr offeryn a ddirymir Y Cyfeirnod Graddau'r Dirymu
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethau a Waherddir) 1982 O.S. 1982/ 1884 Y cyfan o'r Rheoliadau.
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethaua Waherddir) (Diwygio) 1987 O.S. 1987/ 114 Y cyfan o'r Rheoliadau.
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 O.S. 2001/ 2682 Paragraffau 8 a 9 o Atodlen 3D[3]; a Pharagraffau 19 i 26 o Atodlen 6 [4].



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen, o ganlyniad i ddisodli eu sylwedd gan Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1968 p. 34. Gweler adrannau 8(4) a 50 am y dehongliad o "the Ministers". Cafodd swyddogaethau'r Gweinidogion, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[2] 1998 p.38.back

[3] Mewnosodwyd Atodlen 3D gan O.S. 2002/1898 (yn rheoliad 2(8)).back

[4] Amnewidwyd Atodlen 6 gan O.S. 2003/1726 (yn rheoliad 3(4)).back



English version



ISBN 978 0 11 091565 4


 © Crown copyright 2007

Prepared 10 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071027w.html