BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1028 (Cy.95)
ANIFEILIAID, CYMRU
LLES ANIFEILIAID
Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
28 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
29 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 6(4), (5), (6), (8) a (14) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006[1].
Yn unol ag adran 6(15) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny sydd yn ei farn ef yn briodol am eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae a wnelo'r Rheoliadau hyn â hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "ciper" ("gamekeeper") yw person a gymerir ymlaen gan berson sydd â hawliau saethu i gadw, i ddiogelu neu i feithrin anifeiliaid ac i reoli neu i gynorthwyo gyda rheoli cyrch saethu;
ystyr "cyrch saethu" ("shoot") yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu saethu at ddibenion helwriaeth;
ystyr "dynodiad achub mewn argyfwng" ("emergency rescue identification") yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o gorff sy'n darparu gwasanaeth achub mewn argyfwng;
ystyr "dynodiad CATHEM" ("HMRC identification") yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn un o gyflogeion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
ystyr "dynodiad y gwasanaeth carcharau" ("prison service identification") yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod awdurdodedig naill ai o Wasanaeth Carcharau Ei Mawrhydi neu o sefydliad sydd wedi'i gyflogi i ddarparu gwasanaethau carcharu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr "dynodiad yr heddlu" ("police identification") yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o'r heddlu, neu ei fod wedi'i gyflogi ganddynt mewn modd arall neu wedi'i gontractio i weithio i awdurdod heddlu;
ystyr "dynodiad y lluoedd arfog" ("armed forces identification") yw tystiolaeth fod y person sy'n cyflwyno'r dynodiad yn aelod o un o luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu ei fod wedi'i gyflogi ganddynt mewn modd arall neu wedi'i gontractio i weithio i un o luoedd arfog Ei Mawrhydi;
ystyr "math penodedig o waith" ("specified type of work") yw gwaith mewn cysylltiad â gorfodi'r gyfraith, gweithgareddau lluoedd arfog Ei Mawrhydi, achub mewn argyfwng, rheoli cyfreithlon ar blâu, neu saethu anifeiliaid yn gyfreithlon.
ystyr "meddiannydd tir" ("land-occupier") yw person sy'n meddiannu tir y mae cyrch saethu yn digwydd arno;
ystyr "person sydd â hawliau saethu" ("person with shooting rights") yw perchennog neu lesddeiliad hawliau saethu;
ystyr "swyddog clwb" ("club official") yw person sy'n gwasanaethu fel swyddog o glwb saethu;
ystyr "trefnydd cyrch saethu" ("shoot organiser") yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am drefniadaeth gyfansawdd cyrch saethu;
Gofynion Ardystio
3.
—(1) Caiff milfeddyg ardystio ei fod wedi gweld tystiolaeth fod ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at fath penodedig o waith a'i fod yn gi o fath penodedig—
(a) pan fo wedi'i fodloni fod mam y ci o un neu fwy nag un o'r mathau a bennir yn Atodlen 1;
(b) pan fo'n credu'n rhesymol nad yw'r ci yn fwy na 5 niwrnod oed; ac
(c) pan fo perchennog y ci, neu berson arall y mae'r milfeddyg yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog, wedi dangos y dystiolaeth a bennir ym mharagraff 2 i'r milfeddyg.
(2) Y dystiolaeth yw—
(a) mam y ci;
(b) datganiad wedi'i gwblhau, wedi'i wneud yn Rhan 1 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, ac wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan berchennog y ci neu berson arall y mae'r milfeddyg y cyflwynir y datganiad iddo yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog; ac
(c) un o'r canlynol—
(i) pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran un o luoedd arfog Ei Mawrhydi, dynodiad y lluoedd arfog;
(ii) pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran corff sy'n darparu gwasanaeth achub mewn argyfwng, dynodiad achub mewn argyfwng;
(iii) pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran awdurdod heddlu, dynodiad yr heddlu;
(iv) pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran Gwasanaeth Carcharau Ei Mawrhydi neu ar ran sefydliad sydd wedi'i gyflogi i ddarparu gwasanaethau carcharu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, dynodiad y gwasanaeth carcharau;
(v) pan gaiff y ci ei gyflwyno i'w ardystio ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, dynodiad CATHEM;
(vi) tystiolaeth y bydd perchennog y ci, neu'r asiant neu'r cyflogai i'r perchennog sy'n fwyaf tebygol o fod yn defnyddio'r ci, yn defnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â rheoli cyfreithlon ar blâu;
(vii) tystysgrif gyfredol ar gyfer dryll neu arf tanio a ddyroddwyd i berchennog y ci, neu i'r asiant neu'r cyflogai i'r perchennog sy'n fwyaf tebygol o fod yn defnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â saethu anifeiliaid yn gyfreithlon;
(viii) llythyr gan giper, meddiannydd tir, (neu eu hasiant), person sydd â hawliau saethu, trefnydd cyrch saethu, swyddog clwb, person sy'n cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol y Daeargwn Gwaith, neu gan berson sy'n ymwneud â rheoli cyfreithlon ar blâu, yn datgan ei fod yn adnabod bridiwr y ci sydd i gael tocio'i gynffon, ac fod cwn a gafodd eu bridio gan y bridiwr hwnnw wedi cael eu defnyddio ar ei dir, neu yn ei gyrch saethu, neu at ddifa plâu (yn ôl y digwydd).
(3) Mae'n rhaid rhoi unrhyw ardystiad o dan baragraff (1) ar Ran 2 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2.
Cadarnhau tocio cynffon
4.
Rhaid i filfeddyg sy'n torri ymaith y cyfan o gynffon ci neu unrhyw ran ohoni, ac eithrio at ddibenion rhoi triniaeth feddygol iddo, ardystio'r ffaith honno ar Ran 3 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2.
Dynodi cwn wedi'u tocio
5.
—(1) Er mwyn cael ei ddynodi fel ci is-adran (3) fel sy'n ofynnol gan adran 6(8) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rhaid i gi fod wedi'i ficrosglodynnu—
(a) gan filfeddyg neu gan nyrs filfeddygol yn gweithredu o dan oruchwyliaeth milfeddyg; a
(b) gan ddefnyddio microsglodyn sy'n cydymffurfio naill ai â safon ISO 11784 neu ag Atodiad A i safon ISO 11785 y Gyfundrefn Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion[2].
(2) Dim ond ar ôl i'r perchennog, neu berson arall y mae'r milfeddyg sydd i wneud neu i oruchwylio'r microsglodynnu yn credu'n rhesymol ei fod yn cynrychioli'r perchennog, wneud datganiad wedi'i lofnodi a'i ddyddio ar Ran 4 o dystysgrif yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2 y ceir microsglodynnu ci at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i'r milfeddyg sy'n gwneud neu'n goruchwylio'r microsglodynnu ardystio'r ffaith honno ar Ran 5 o dystysgrif yn y ffurflen a ragnodir yn Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2007
ATODLEN LRheoliad 3(1)(a)
Mathau Penodol o Gwn
Ysbaengwn
O'r bridiau a ganlyn:
Ysaengi Lloegr
Ysbaengi Cymru
Ysbaengi Adara,
ond nid cyfuniadau o fridiau
Daeargwn:
O'r bridiau a ganlyn:
Daeargi Jack Russell
Daeargi Byrgoes
Daeargi Ardal y Llynnoedd
Daeargi Norfolk
ond nid cyfuniadau o fridiau.
Cwn hela, cyfeirio, cyrchu
O'r bridiau a restrir isod:
Brac yr Eidal
Adargi Llydaw
Cyfeirgi Hirflew yr Almaen
Cyfeirgi Byrflew yr Almaen
Cyfeirgi Gwifrflew yr Almaen
Visla Hwngari
Visla Gwifrflew Hwngari
Spinone'r Eidal
Ysbaengi Sbaen
Weimaraner
Griffon Korthals
Cyfeirgi Crychflew Slofacia
Munsterlander Mwyaf
Munsterlander Lleiaf
ATODLEN 2Rheoliadau 3 a 4
Ffurf y Dystysgrif
DEDDF LLES ANIFEILIAID 2006, adran 6
Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cwn Gwaith (Cymru) 2007
Rhan
1 —
Cyflwyno ci i'w Ardystio
(I'w gwblhau gan y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ardystio)
Manylion y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ardystio
1.
Enw a chyfeiriad;
2.
Cysylltiad â'r ci sydd i gael tocio'i gynffon ar [MEWNOSODER Y DYDDIAD] gan y milfeddyg sy'n llofnodi'r dystysgrif yn rhan 2 isod] (dileer yn ôl priodoldeb):
— perchennog y ci;
— person a awdurdodwyd i gynrychioli perchennog y ci.
Manylion y ci a gyflwynir i'w ardystio
3.
Dyddiad geni:
4.
Math y ci (ticier yn ôl priodoldeb):
a. Ysbaengwn o'r bridiau a ganlyn:
Ysbaengi Lloegr
Ysbaengi Cymru
Ysbaengi Adara
b. Daeargwn o'r bridiau a ganlyn:
Daeargi Jack Russell
Daeargi Byrgoes
Daeargi Ardal y Llynnoedd
Daeargi Norfolk
c. Brîd o gi hela, cyfeirio, cyrchu a restrir isod:
— Brac yr Eidal
— Adargi Llydaw
— Cyfeirgi Hirflew yr Almaen
— Cyfeirgi Byrflew yr Almaen
— Cyfeirgi Gwifrflew yr Almaen
— Visla Hwngari
— Visla Gwifrflew Hwngari
— Spinone'r Eidal
— Ysbaengi Sbaen
— Weimaraner
— Griffon Korthals
— Cyfeirgi Crychflew Slofacia
— Munsterlander Mwyaf
— Munsterlander Lleiaf
5.
Math y fam (ticier yn ôl priodoldeb):
a. Ysbaengwn o'r bridiau a ganlyn:
Ysbaengi Lloegr
Ysbaengi Cymru
Ysbaengi Adara
b. Daeargwn o'r bridiau a ganlyn:
Ysbaengi Jack Russell
Ysbaengi Byrgoes
Ysbaengi Ardal y Llynnoedd
Ysbaengi Norfolk
c. Brîd o gi hela, cyfeirio, cyrchu a restrir isod:
— Brac yr Eidal
— Adargi Llydaw
— Cyfeirgi Hirflew yr Almaen
— Cyfeirgi Byrflew yr Almaen
— Cyfeirgi Gwifrflew yr Almaen
— Visla Hwngari
— Visla Gwifrflew Hwngari
— Spinone'r Eidal
— Ysbaengi Sbaen
— Weinmaraner
— Griffon Korthals
— Cyfeirgi Crychflew Slofacia
— Munsterlander Mwyaf
— Munsterlander Lleiaf
Gofynion Ardystio
6.
Mae'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad â (ticier yn ôl priodoldeb):
a. gorfodi'r gyfraith;
b. gweithgareddau lluoedd arfog Ei Mawrhydi;
c. achub mewn argyfwng;
ch. rheoli cyfreithlon ar blâu; neu
d. saethu anifeiliaid yn gyfreithlon.
7.
Pan fo'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad ag un neu fwy o'r dibenion a restrir ym mharagraff (6)(a) i (c), rhaid cyflwyno un neu fwy o'r canlynol gyda'r ffurflen hon (ticier yn ôl priodoldeb):
a. dynodiad y lluoedd arfog;
b. dynodiad achub mewn argyfwng;
c. dynodiad yr heddlu;
ch. dynodiad y gwasanaeth carcharau;
d. dynodiad CATHEM;
8.
Pan fo'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad â rheoli cyfreithlon ar blâu, rhaid cyflwyno'r canlynol gyda'r ffurflen hon:
a. tystiolaeth y bydd perchennog y ci, neu asiant neu gyflogai i'r perchennog yn debygol o ddefnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â'r pwrpas hwnnw; neu
b. tystiolaeth ysgrifenedig gan un o'r canlynol (ticier yn ôl priodoldeb):
i. ciper
ii. meddiannydd tir (neu ei asiant);
iii. person sydd â hawliau saethu;
iv. trefnydd cyrch saethu;
v. swyddog clwb;
vi. person sy'n cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol y Daeargwn Gwaith;
yn datgan ei fod yn adnabod bridiwr y ci sydd i gael tocio'i gynffon, ac fod cwn a gafodd eu bridio gan y bridiwr hwnnw wedi cael eu defnyddio ar ei dir neu ar ei gyrch saethu, neu at ddifa plau (yn ol y digwydd).
9.
Pan fo'r ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad â saethu anifeiliaid yn gyfreithlon, rhaid cyflwyno'r canlynol gyda'r ffurflen hon:
a. tystysgrif gyfredol ar gyfer dryll neu arf tanio a ddyroddwyd i berchennog y ci, neu i asiant neu gyflogai i'r perchennog sy'n debygol o ddefnyddio'r ci at waith mewn cysylltiad â saethu anifeiliaid yn gyfreithlon; neu
b. tystiolaeth ysgrifenedig gan un o'r canlynol (ticier yn ôl priodoldeb):
i. ciper
ii. meddiannydd tir (neu ei asiant);
iii. person sydd â hawliau saethu;
iv. trefnydd cyrch saethu;
v. swyddog clwb;
vi. person sy'n cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol y Daeargwn Gwaith;
vii. person sy'n ymwneud â rheolaeth gyfreithlon ar blâu
yn datgan ei fod yn adnabod bridiwr y ci sydd i gael tocio'i gynffon, ac fod cwn a gafodd eu bridio gan y bridiwr hwnnw wedi cael eu defnyddio, ar ei dir neu ar ei gyrch saethu, neu at ddifa plau (yn ol y digwydd).
Datganiad
Rwyf yn cadarnhau fod yr wybodaeth a roddir uchod a'r dystiolaeth a gyflwynir gyda'r ffurflen hon yn wir ac yn gywir.
Rwyf yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi gau wybodaeth yn ymwybodol i filfeddyg mewn cysylltiad â dyroddi tystysgrif at ddibenion adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Llofnod y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ardystio:
Enw:
Dyddiad:
Rhan
2 —
Ardystio'r ci yn gi gwaith
(I'w gwblhau gan y milfeddyg sy'n ardystio'r ci)
1.
Rwyf wedi'm bodloni bod math y ci a math ei fam wedi'u nodi ym mharagraff 4 a 5 yn eu trefn o Ran 1.
2.
Rwyf wedi gweld y dystiolaeth a gyflwynwyd yn unol â paragraffau 7-9 o Ran 1 uchod, fod y ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad ag un o'r dibenion a bennir ym mharagraff 6 o Ran 1 uchod.
3.
Yn unol ag adran 6(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rwyf yn ardystio fod yr amodau yn adran 6(5) a (6) o'r Ddeddf wedi'u cyfarfod o ran y ci a gyflwynwyd i mi a pharthed yr hwn y cafodd rhan 1 uchod ei gwblhau.
Llofnod y Milfeddyg:
Enw:
Dyddiad:
Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:
Rhan
3 —
cadarnhau tocio cynffon ci
(I'w gwblhau gan y milfeddyg sydd wedi tocio cynffon y ci)
Rwyf yn cadarnhau fy mod ar [dyddiad] wedi tocio cynffon y ci parthed yr hwn y cafodd rhannau 1 a 2 o'r ffurflen hon eu cwblhau.
Llofnod y Milfeddyg:
Enw:
Dyddiad:
Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:
Rhan
4 —
cyflwyno ci i'w ddynodi
(I'w gwblhau gan y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ficrosglodynnu)
1.
Enw a chyfeiriad y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ddynodi:
2.
Cysylltiad â'r ci (dileer yn ôl priodoldeb):
— perchennog y ci;
— person a awdurdodwyd i gynrychioli perchennog y ci
3.
Rwyf yn cadarnhau mai'r un ci yw'r ci yr wyf yn ei gyflwyno heddiw i'w ficrosglodynnu â'r ci a gafodd docio ei gynffon ar [DYDDIAD] a pharthed yr hwn y cafodd rhannau 1 i 3 o'r dystysgrif hon eu cwblhau.
4.
Rwyf yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi gau wybodaeth yn ymwybodol i filfeddyg mewn cysylltiad â dyroddi tystysgrif at ddibenion adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Llofnod perchennog y ci neu'r person a awdurdodwyd i'w gynrychioli:
Enw:
Dyddiad:
Rhan
5 —
cadarnhau microsglodynnu
(I'w gwblhau ar y dyddiad y caiff y ci ei ficrosglodynnu gan y milfeddyg cyfrifol)
1.
Rwyf yn cadarnhau i mi/i nyrs filfeddygol yn
gweithredu o dan fy ngoruchwyliaeth (dileer yn ôl priodoldeb) roi microsglodyn yn y ci a gyflwynwyd i'w ficrosglodynnu.
2.
Rwyf wedi'm bodloni mai'r ci a gyflwynwyd i'w ficrosglodynnu yw'r un parthed yr hwn y cafodd rhannau 1— 4 o'r ffurflen hon eu cwblhau.
3.
Cafodd y microsglodyn ei roi yn y ci ar: [dyddiad]
4.
Y darlleniad ar y microsglodyn yw [MEWNOSODER Y DARLLENIAD AR Y MICROSGLODYN].
Llofnod:
Enw:
Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:
Dyddiad:
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
O dan adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45), gellir esemptio cwn gwaith drwy reoliadau rhag y gwaharddiad ar dorri ymaith y cyfan o gynffon ci neu unrhyw ran ohoni, ac eithrio at ddibenion rhoi triniaeth feddygol iddo.
Mae rheoliad 3 yn gosod y gofynion sydd i'w cadw cyn y caiff milfeddyg ardystio fod y ci yn gi gwaith. Mae rheoliad 3(1)(a) ac Atodlen 1 yn pennu'r mathau o gi y gellir ei ardystio, ac mae rheoliad 3(1)(c) a 3(2) yn disgrifio'r dystiolaeth bellach (ynghylch y tebygolrwydd y bydd y ci yn cael ei ddefnyddio at waith penodol) y bydd yn ofynnol ei ddangos i'r milfeddyg er mwyn sicrhau tystysgrif o'r fath. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i filfeddyg ardystio'r ffaith ei fod wedi tocio cynffon ci. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r modd y mae ci a gafodd docio ei gynffon i gael ei ddynodi drwy ficrosglodynnu. Mae Atodlen 2 yn rhagnodi'r ffurf y mae'r dystysgrif i'w rhoddi ynddi.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
2006 p.45. Diffinnir yr awdurdod cenedlaethol priodol yn adran 62(1) o'r Ddeddf.back
[2]
Ysgrifenyddiaeth Ganolog ISO, Y Gyfundrefn Safonau Rhyngwladol (ISO), 1 rue de Varembé, Case postale 56, CH-1211, Genefa 20, Y Swistir.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091570 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
20 April 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071028w.html