BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1040 (Cy.100)
BWYD, CYMRU
Diwygio'r Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo ef bellach[2].
Yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Mae'r Rheoliadau hyn—
(a) yn dwyn yr enw Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007
(b) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2007; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i "awdurdod bwyd" ("food authority") yr un ystyr â "food authority" yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;
ystyr "bwyd DMN" ("PNU food") yw bwyd at ddefnydd maethol neilltuol—
(a) y mae, oherwydd ei gyfansoddiad arbennig neu y broses o'i gynhyrchu, gwahaniaeth amlwg rhyngddo â bwyd a fwriadwyd i'w fwyta'n arferol, a
(b) sy'n cael ei werthu mewn modd sy'n dangos a ydyw'n addas ar gyfer y diben maethol penodol honedig,
ond nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r dosbarthiadau a ganlyn—
(i) fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol,
(ii) bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc,
(iii) bwyd y bwriedir ei ddefnyddio mewn deietau cyfyngu-ar-ynni er mwyn colli pwysau,
(iv) bwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig,
(v) bwydydd sydd wedi'u bwriadu i ddiwallu ymdrech gyhyrol sylweddol, yn arbennig ar gyfer sbortsmyn, a
(vi) bwydydd ar gyfer pobl sy'n dioddef gan anhwylderau carbohydrad-metaboliaeth (clefyd siwgr);
ystyr "defnydd maethol neilltuol" ("particular nutritional use") yw bodloni gofynion maethol neilltuol—
(a) rhai categorïau o bobl y mae eu prosesau treulio, neu eu metaboledd yn afreolus, neu
(b) rhai categorïau o bobl y mae eu cyflwr seicolegol yn golygu ei bod o fudd arbennig iddynt fwyta, a hynny dan reolaeth, unrhyw sylwedd mewn bwyd, neu
(c) babanod neu bobl ifanc sydd mewn iechyd da;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu (ac eithrio gyda label neu ddeunydd lapio) gyda'r bwriad o werthu;
ystyr "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer defnydd maethol penodol[4].
(2) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb honno.
Cyfyngiad ar werthu
3.
—(1) Ni chaiff neb mewn perthynas â cynnyrch bwyd DMN o fath neilltuol—
(2) At ddibenion paragraff (1), yr awdurdod cymwys yw—
(a) mewn perthynas â bwyd DMN a weithgynhyrchwyd yng Nghymru, neu a fewnforiwyd i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, yr Asiantaeth Safonau Bwyd;
(b) mewn perthynas â bwyd DMN a weithgynhyrchwyd mewn tiriogaeth arall o fewn y Deyrnas Unedig (neu a fewnforiwyd o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig), yr awdurdod sydd wedi'i ddynodi'n briodol o fewn y diriogaeth honno fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb mewn perthynas â'r bwyd.
Datganiad
4.
—(1) Os oes gan yr Asiantaeth seiliau manwl dros sefydlu nad yw deunydd bwyd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol nad yw'n perthyn i un o'r grwpiau a restrir yn Atodiad 1 i'r Gyfarwyddeb yn cydymffurfio ag Erthygl 1(2) o'r Gyfarwyddeb neu ei fod yn peryglu iechyd pobl, caiff atal dros dro neu gyfyngu ar fasnachu yn y cynnyrch hwnnw drwy ddatganiad ysgrifenedig.
(2) Rhaid i ddatganiad o'r fath gael ei gyhoeddi mewn modd sydd ym marn yr Asiantaeth yn addas a rhaid iddo bennu'r cynnyrch dan sylw.
(3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar fasnachu mewn unrhyw gynnyrch bennu'r amodau hynny.
(4) Os oes datganiad mewn grym sy'n atal dros dro fasnachu mewn unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb fasnachu yn y cynnyrch hwnnw.
(5) Os oes datganiad mewn grym yn gosod amodau ar fasnachu mewn unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb fasnachu yn y cynnyrch hwnnw oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
(6) Gellir addasu, atal neu ddirymu datganiad drwy ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.
Gorfodi
5.
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Tramgwyddau a chosbau
6.
Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i reoliad 3(1) neu reoliad 4(4) neu (5), bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
7.
Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn:
(a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
(c) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15 o'r Ddeddf;
(d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yn ystod busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e);
(ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e );
(g) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f);
(ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(h) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(i) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Dirymu
8.
I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, dirymir Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002[5] drwy hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ar waith Erthyglau 9 ac 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd a fwriedir ar gyfer ddefnydd maethol neilltuol, (OJ Rhif L186, 30.6.1989, t.27), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).
2.
Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â bwydydd y mae modd, oherwydd eu cyfansoddiad arbennig neu oherwydd y broses o'u cynhyrchu, gwahaniaethu'n glir rhyngddynt â bwydydd i'w bwyta'n arferol, ac sy'n cael eu marchnata fel rhai addas ar gyfer categorïau o ddefnyddwyr y mae eu prosesau treulio neu eu metaboledd yn afreolus, neu sydd mewn cyflwr ffisiolegol arbennig, neu ar gyfer babanod neu blant ifanc sy'n cael iechyd da, ond nad ydynt yn cael ac na fyddant yn cael eu cwmpasu gan Gyfarwyddebau eraill ar fathau penodol o ddeunyddiau bwyd at ddefnydd maethol neilltuol (cyfeirier at y diffiniad o "fwyd DMN" yn rheoliad 2(1)).
3.
Mae'r Rheoliadau hyn—
(a) yn gwahardd gwerthu cynhyrchion o'r fath onid oes cydymffurfiad â gofynion Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb (hysbysiadau i awdurdodau cymwys o gynhyrchion o'r fath) (rheoliad 3); a
(b) yn galluogi'r Asiantaeth i atal dros dro neu i gyfyngu ar fasnachu mewn cynhyrchion o'r fath drwy ddatganiad ysgrifenedig os oes ganddo seiliau manwl dros sefydlu nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio ag Erthygl 1(2) o'r Gyfarwyddeb (gofynion ar gyfer deunyddiau bwyd at ddibenion maethol neilltuol) neu os yw'n peryglu iechyd pobl (rheoliad 4).
4.
Mae cyfrifoldebau gorfodi, tramgwyddau a chosbau a chymhwyso darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu gosod yn rheoliadau 5, 6 a 7 o'r Rheoliadau hyn.
5.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/333) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 8).
6.
Mae'r darpariaethau parthed labelu a geir yn y Gyfarwyddeb yn cael eu rhoi ar waith gan y Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499).
7.
Mae arfarniad rheoliadol llawn wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Erthyglau 9 ac 11 o'r Gyfarwyddeb yn cael eu trosi. Gellir hefyd gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, p.3).back
[4]
OJ Rhif L186, 30.6.89, t.27, fel y'i diwigiwyd ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1). Disodlwyd Adtodlen 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC gan Gyfarwyddeb 1991/41/EC (OJ Rhif L172, 8.7.99, t.38).back
[5]
O.S. 2002/333.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091579 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
2 May 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071040w.html