BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 1041 (Cy.101)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071041w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1041 (Cy.101)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 9 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ebrill 2007.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
     2. Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[4] yw £20.88 yr wythnos.

Dirymu
     3. Mae rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006[5] drwy hyn wedi'u dirymu.

Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau
     4. Ym mharagraff (2) o reoliad 20A o'r Prif Reoliadau (Terfyn Cyfalaf — Cymru) yn lle'r ffigur "£21,500" rhodder y ffigur "£22,000".

Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau
    
5. Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf — Cymru)—

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
    
6. —(1) Yn lle paragraff 28A o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau rhodder y canlynol—

    (2) Ym mharagraff 28H—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ("y Ddeddf"), ei angen at eu hanghenion personol. O 9 Ebrill 2007 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £20.88 yr wythnos.

Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan y Ddeddf.

Mae'r diwygiadau yn darparu ar gyfer cynnydd yn y terfynau cyfalaf, cynnydd yn y swm o gredyd cynilion sydd i'w ddiystyru ac ar gyfer diwygiad i'r esemptiad sy'n gymwys o ran budd-dal plant.


Notes:

[1] 1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o "the minister" a "prescribed" yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.back

[4] 1948 p.29.back

[5] O.S. 2006/1051.back

[6] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 978 0 11 091566 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 10 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071041w.html