BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1042 (Cy.102)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 40(4), (5), (6) a (9) ac adran 203(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
Enwi, dehongli a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2007.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003[2].
Diwygio'r prif Reoliadau
2.
—(1) Mae'r prif Reoliadau yn cael eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(b), hepgorer y geiriau "Awdurdod Iechyd" lle maent yn ymddangos y tro cyntaf.
(3) Yn rheoliad 4(3), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw ar ôl y geiriau "rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r personau neu'r cyrff a restrir yn rheoliad 3(1)".
(4) Yn rheoliad 5(2)(dd)(v), ar ôl y gair "llesiant" mewnosoder y geiriau "gan gynnwys anghydraddoldebau sy'n ymwneud â hil, anabledd, rhyw, iaith, oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd a chred".
(5) Yn rheoliad 6, hepgorer paragraffau (2) a (3).
(6) Mae rheoliad 7 yn cael ei ddiwygio'n unol â'r darpariaethau canlynol:
(a) ar ôl paragraff (1)(a), mewnosoder yr is-baragraff canlynol "(aa) cynlluniau plant a pobl ifanc o dan adran 26(1) o Ddeddf Plant 2004";
(b) ym mharagraff (1)(c), yn lle'r geiriau "adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999" rhodder "adran 17 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006";
(c) ym mharagraff (2), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw ar ôl y geiriau "cynlluniau a restrir ym mharagraff (1) uchod";
(ch) ym mharagraff (4), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff ar ôl y geiriau "fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth";
(d) ym mharagraff (5), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff ar ôl y geiriau "fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth".
(7) Yn rheoliad 10(4), rhodder y ffigur "3" yn lle'r ffigur "5".
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003 (O.S. 2003/154 (Cy.24)) ("y prif Reoliadau").
2.
Mae'r Rheoliadau hyn—
(a) yn diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau drwy ddileu'r cyfeiriad at "Awdurdod Iechyd" yn y diffiniad o "corff GIG" (rheoliad 2(2));
(b) yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau drwy ddileu'r angen i gyrff cyfrifol ymgynghori cyn llunio eu strategaethau (rheoliad 2(3));
(c) yn ehangu rheoliad 5(2)(dd)(v) o'r prif Reoliadau i gynnwys yr angen i'r strategaeth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n ymwneud ag anabledd, hil, rhyw, iaith, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred (rheoliad 2(4));
(ch) yn diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau i ddileu'r gofynion a fyddai'n cael eu gosod ar gyrff cyfrifol pe baent yn bwriadu peidio ag ymrwymo i drefniadau comisiynu (rheoliad 2(5));
(d) yn diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau i gynnwys yn rheoliad 7(1) gynlluniau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004; rhoi yn lle'r cyfeiriad yn rheoliad 7(1)(c) at adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999 gyfeiriad at adran 17 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a dileu'r gofyniad yn rheoliadau 7(2), 7(4) a 7(5) i gyhoeddi cynlluniau a restrir yn rheoliad 7(1) fel rhan o'r strategaeth (rheoliad 2(6));
(dd) yn diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau i leihau'r cyfnod gweithredol ar gyfer pob strategaeth i 3 blynedd (rheoliad 2(7)).
3.
Mae Arfarniad Rheoliadol am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Uned Strategaeth, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
2006 p.42. Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at y term "Welsh Ministers" i gael eu heffaith tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol, o fewn ystyr y term hwnnw yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43) a pharagraff 10 o Atodlen 3 iddi.back
[2]
O.S. 2003/154 (Cy.24).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091563 0
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
10 April 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071042w.html