BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007 Rhif 1047 (Cy.105)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071047w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1047 (Cy.105)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 2007 
  Yn dod i rym 30 Mawrth 2007 


CYNNWYS


RHAN 1

Cyflwyniad
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Ymestyn y diffiniad o "animals" a "poultry"

RHAN 2

Cludo Anifeiliaid
4. Darpariaeth gyffredinol ynghylch diogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo
5. Cludo
6. Cludwyr
7. Llestri gyrru mewn ac allan
8. Trefnwyr
9. Ceidwaid
10. Canolfannau cynnull
11. Safleoedd rheoli

RHAN 3

Rhanddirymiadau ar gyfer cyfryngau cludo ar y ffordd ar deithiau sydd o dan 12 awr
12. Cymhwyso
13. Rhanddirymu arolygu a chymeradwyo
14. Rhanddirymu'r gofyniad am fynediad parhaus i ddwr
15. Rhanddirymu'r gofyniad am do sydd wedi'i inswleiddio
16. Rhanddirymu'r gofynion ynghylch tymheredd
17. Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch systemau awyru
18. Rhanddirymu'r gofynion ynghylch monitro tymheredd
19. Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch system lywio

RHAN 4

Cymeradwyaethau
20. Yr awdurdod cymwys
21. Cymeradwyaethau, awdurdodiadau etc.
22. Atal cymeradwyaethau, dirymu cymeradwyaethau etc.
23. Cyflwyno sylwadau i berson penodedig

RHAN 5

Amrywiol
24. Pwerau arolygwyr
25. Cydymffurfio â hysbysiadau
26. Dangos cynlluniau
27. Rhwystro
28. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
29. Gorfodi
30. Diwygio
31. Dirymu

  YR ATODLEN — Gorchmynion a ddirymir

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7, 8(1), 37, 38(1), 39, 83(2) a 87(2), (3) a (5)(a) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1], ac a freiniwyd ynddo bellach[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:



RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007. Daw i rym ar 30 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

    (2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Rheoliadau canlynol, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Rheoliadau hynny.

    (3) Y Rheoliadau yw—

    (4) Ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno.

    (5) Ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

    (6) Mae unrhyw gyfeiriad at y Rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3) yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Ymestyn y diffiniad o "animals" a "poultry"
     3. At ddibenion y Ddeddf yn y modd y mae'n gymwys i'r Gorchymyn hwn, mae'r diffiniadau o "animals" a "poultry" yn adran 87 o'r Ddeddf yn cael eu hymestyn i gwmpasu pob anifail asgwrn cefn a phob anifail di-asgwrn-cefn â gwaed oer.



RHAN 2

Cludo Anifeiliaid

Darpariaeth gyffredinol ynghylch diogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo
    
4. —(1) Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail mewn ffordd sy'n peri, neu'n debyg o beri, i'r anifail hwnnw gael ei anafu neu iddo ddioddef yn ddiangen.

    (2) Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail ac eithrio yn y cynwysyddion neu'r cyfryngau cludo, o dan yr amodau (yn benodol gyda golwg ar le, awyru, tymheredd a diogelwch) a chyda'r cyflenwadau hylif ac ocsigen, sy'n briodol ar gyfer y rhywogaeth o dan sylw.

    (3) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid di-asgwrn-cefn â gwaed oer.

    (4) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid asgwrn cefn ac eithrio'r rhai y mae Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn gymwys iddynt.

Cludo
    
5. —(1) Bydd person sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

    (2) Ni chaiff neb dynnu ymaith, difwyno, dileu na newid unrhyw farc a wneir o dan baragraff (3) o erthygl 24 (pwerau arolygwyr);

    (3) Rhaid cadw copïau o'r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 am 6 mis o'r dyddiad y cwblhawyd y daith.

Cludwyr
    
6. Bydd cludwr sy'n methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

Llestri gyrru mewn ac allan
    
7. —(1) Bydd meistr llestr gyrru mewn ac allan sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3.1 Pennod II o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Pennod II yn ymwneud â darpariaethau ychwanegol ar gyfer cludo ar lestri gyrru mewn ac allan) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

    (2) Ni chaiff unrhyw gludwr gludo anifeiliaid ar lestr gyrru mewn ac allan oni bai bod meistr y llestr wedi gwirio'n gyntaf y materion y cyfeirir atynt yn y pwynt hwnnw.

Trefnwyr
    
8. Bydd trefnydd sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r rhwymedigaethau yn Erthygl 5(3) a (4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio i gludo anifeiliaid) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Ceidwaid
    
9. Bydd ceidwad sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (ceidwaid mewn mannau ymadael, mannau trosglwyddo neu gyrchfannau) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Canolfannau cynnull
    
10. Bydd gweithredydd canolfan gynnull sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (canolfannau cynnull) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Safleoedd rheoli
    
11. —(1) Mae'n dramgwydd i berson weithredu safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw.

    (2) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson weithredu neu ddefnyddio safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo yn unol ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.

    (3) Bydd gweithredydd safle rheoli sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—



RHAN 3

Rhanddirymiadau ar gyfer cyfryngau cludo ar y ffordd ar deithiau o dan 12 awr

Cymhwyso
    
12. Yn unol ag Erthygl 18(4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, mae'r rhanddirymiadau yn y Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â chyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir ar gyfer taith nad yw'n hwy na 12 awr er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol ("cyfrwng cludo ar y ffordd").

Rhanddirymu arolygu a chymeradwyo
    
13. At ddibenion Erthygl 18(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, nid oes angen tystysgrif gymeradwyaeth ar gyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir i gludo anifeiliaid ac eithrio equidae domestig neu anifeiliaid domestig o deulu'r ych, teulu'r ddafad, teulu'r afr, neu deulu'r mochyn.

Rhanddirymu'r gofyniad am fynediad parhaus i ddwr
    
14. At ddibenion pwynt 1.4(b) Pennod V o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, yn ystod taith—

Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch to sydd wedi'i inswleiddio
    
15. At ddibenion pwynt 1.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, nid oes angen inswleiddio to ar gyfrwng cludo ar y ffordd.

Rhanddirymu'r gofynion ynghylch tymheredd
    
16. —(1) At ddibenion pwynt 3.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, caniateir i dymheredd ar gyfrwng cludo ar y ffordd ostwng islaw 0°C yn ystod taith—

    (2) Ond pan fo'r tymheredd yn gostwng islaw 0°C, rhaid darparu i foch, sy'n pwyso llai na 30kg ac nad yw eu mam yn mynd gyda hwy ar y daith, ddigon o ddeunydd sarn sy'n briodol i'r rhywogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cynnes a chysurus.

Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch systemau awyru
    
17. O ran y system awyru ar gyfrwng cludo ar y ffordd—

Rhanddirymu'r gofynion ynghylch monitro tymheredd
    
18. Nid yw'n ofynnol cael y systemau monitro tymheredd, cofnodi data a rhybuddio y cyfeirir atynt ym mhwyntiau 3.3 a 3.4 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar gyfrwng cludo ar y ffordd.

Rhanddirymu'r gofyniad ynghylch system lywio
    
19. Nid yw'n ofynnol cael y system lywio y cyfeirir ati ym mhwynt 4.1 Pennod VI o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar gyfrwng cludo ar y ffordd.



RHAN 4

Cymeradwyaethau

Yr awdurdod cymwys
    
20. —(1) Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion rhoi neu ddyroddi—

    (2) At ddibenion y Rheoliad hwnnw, y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys ar gyfer—

    (3) Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—

    (4) Y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau Aelod-wladwriaeth at ddibenion—

ac am ddynodi cyrff yn unol ag Erthyglau 17(2), 18(1) a 19(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005.

Cymeradwyaethau, awdurdodiadau etc.
    
21. O ran unrhyw gymeradwyaethau, awdurdodiadau neu dystysgrifau a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 neu Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97—

Atal cymeradwyaethau, dirymu cymeradwyaethau etc.
    
22. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, tystysgrif gymeradwyaeth neu dystysgrif hyfedredd os yw wedi'i fodloni bod unrhyw un o'r amodau y cafodd y gymeradwyaeth neu'r dystysgrif ei rhoi odano neu y cafodd yr awdurdodiad ei roi odano wedi'i dorri neu fod unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 neu'r Gorchymyn hwn wedi'i thorri.

    (2) O ran ataliad o dan baragraff (1)—

    (3) Yn yr hysbysiad rhaid—

    (4) Pan na fo'r hysbysiad yn effeithiol ar unwaith, a bod sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan erthygl 23, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol tan y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag erthygl 23 oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu lles anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad fod yn effeithiol ar unwaith a'i fod yn rhoi hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

    (5) Pan gaiff ataliad ei gadarnhau, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, tystysgrif gymeradwyaeth neu dystysgrif hyfedredd os caiff ei fodloni na chydymffurfir â'r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 na Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.

    (6) Rhaid peidio â dyroddi hysbysiad o dan baragraff (5) hyd oni fydd y broses yn erthygl 23 (os bydd un) wedi'i chwblhau.

Cyflwyno sylwadau i berson penodedig
    
23. —(1) Caiff person gyflwyno i berson a benodir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol sylwadau ysgrifenedig yn erbyn gwrthod, diwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu dystysgrif neu yn erbyn amod sydd ynddi neu ynddo.

    (2) Rhaid i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno o fewn 21 o ddiwrnodau o gael hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Rhaid i'r person penodedig ystyried y sylwadau a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad terfynol a'i resymau i'r person sy'n cyflwyno'r sylwadau.



RHAN 5

Amrywiol

Pwerau arolygwyr
    
24. —(1) Os yw arolygydd o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cludo, neu i'w cludo, mewn ffordd sydd—

caiff gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, gan roi rhesymau dros y gofynion.

    (2) Caiff arolygydd yn benodol—

    (3) Pan fo'n angenrheidiol at ddibenion adnabod, caiff arolygydd farcio anifail.

    (4) Caiff arolygydd gymryd copïau o unrhyw ddogfen a arolygwyd er mwyn canfod a gydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 neu Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.

    (5) Caiff arolygydd gyflwyno i'r perchennog, neu i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros safle rheoli, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau y mae'r arolygydd o'r farn resymol eu bod yn angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97, neu i gywiro unrhyw doriad o'r Rheoliad hwnnw.

    (6) Yn benodol, caiff arolygydd—

    (7) Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant blaenorol i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, unrhyw Orchymyn arall a wnaed o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu bwynt 8 Atodiad II i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (dychwelyd dogfennau ar ôl cwblhau taith).

    (8) Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni.

    (9) Rhaid i'r person sydd wedi methu â chydymffurfio ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol wrth gymryd camau o'r fath a gellir adennill unrhyw swm o'r fath sy'n ddyledus yn ddiannod.

Cydymffurfio â hysbysiadau
    
25. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn ar draul y person y caiff yr hysbysiad ei gyflwyno iddo, ac eithrio os darperir fel arall yn yr hysbysiad hwnnw.

Dangos cynlluniau
    
26. —(1) Rhaid i berchennog neu siartrwr unrhyw lestr sydd i'w defnyddio ar gyfer cludo anifeiliaid—

    (2) Ond nid oes rhaid i neb ddarparu unrhyw wybodaeth nad oes modd iddo, drwy arfer diwydrwydd rhesymol, gael gafael arni.

Rhwystro
    
27. Ni chaiff neb—

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
28. —(1) Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd o dan y Gorchymyn hwn gan gorff corfforaethol—

bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw'n un o gyfarwyddwyr y corff.

    (3) Ystyr "swyddog" ("officer"), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Gorfodi
    
29. —(1) Yr awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achos penodol, fod unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1) i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Diwygio
    
30. —(1) Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003[5] wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn erthygl 3, hepgorer paragraff (2).

    (3) Hepgorer erthygl 4.

    (4) Yn erthygl 5, hepgorer paragraff (2).

    (5) Yn erthygl 9(4), hepgor ",4".

Dirymu
     31. Mae'r Atodlen (Gorchmynion sydd wedi'u dirymu) yn effeithiol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007



YR ATODLEN
Erthygl 31


Gorchmynion sydd wedi'u dirymu


     1. Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn effeithiol yng Nghymru—



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod gweithrediadau cysylltiedig (OJ Rhif L 3, 5.1.2005. t.1).

Mae'n darparu hefyd ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor 1255/97 ynghylch meini prawf y Gymuned ar gyfer mannau aros (OJ L 174, 2.7.97 t.1).

Mae'n dirymu (i'r graddau y mae'n effeithiol yng Nghymru) Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997, a weithredodd Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17).

Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn yn gorfodi gofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ynglŷn â chludo (erthygl 5), cludwyr (erthygl 6), llestri gyrru mewn ac allan (erthygl 7), trefnwyr (erthygl 8), ceidwaid (erthygl 9) a chanolfannau cynnull (erthygl 10). Mae'n gorfodi hefyd ofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 mewn perthynas â safleoedd rheoli (erthygl 11). Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn dramgwydd i ddefnyddio safle rheoli nas cymeradwywyd ac i weithredu safle rheoli heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw.

Mae Rhan 3 yn darparu rhanddirymiadau ynglyn â'r cyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir ar gyfer teithiau nad ydynt yn hwy na 12 awr er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol (erthyglau 12 i 19).

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer diwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaethau, awdurdodiadau neu dystysgrifau ac ar gyfer sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu (erthyglau 20 i 23).

Rhoddir pwerau i arolygwyr ei gwneud yn ofynnol i berson cyfreithiol gydymffurfio â'r Gorchymyn, gan gynnwys pwer i stopio taith (erthygl 24).

Mae'n ofynnol i berchenogion a siartrwyr llestri a ddefnyddir i gludo anifeiliaid ddangos gwybodaeth, os gofynnir iddynt wneud hynny, i un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol a gall yr wybodaeth honno gynnwys plan o'r llestr (erthygl 26).

Awdurdodau lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 29).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p. 22 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 p.42.back

[2] Swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchmynion y Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a 2004 (O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044 yn y drefn honno).back

[3] OJ L 3, 5.1.2005 t.1.back

[4] OJ L 174, 2.7.97 t.1.back

[5] S.I. 2003/1968 (W.213).back

[6] 1998 p.38.back

[7] O.S. 1975/1024.back

[8] O.S. 1981/1051.back

[9] O.S. 1997/1480.back

[10] O.S. 1998/2537.back

[11] O.S. 1999/1622.back



English version



ISBN 978 0 11 091567 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 10 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071047w.html