BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 1051 (Cy.108)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071051w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1051 (Cy.108)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym
  at ddiben rheoliadau 1 a 3 29 Mawrth 2007 
  at bob diben arall 1 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 21, 24, 123(1) a (2) a 124 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 3 ar 29 Mawrth 2007 ac at bob diben arall ar 1 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau lleol yng Nghymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2003" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003[
2].

Diwygiadau i Reoliadau 2003
     2. Diwygir Rheoliadau 2003 yn unol â pharagraffau (3) a (4).

Ôl-daliad yn sgil tâl anghyfartal — ymdriniaeth cyfrifyddu dros dro
    
3. —(1) Mae paragraff (2) o'r rheoliad hwn, a rheoliad 24A o Reoliadau 2003 a fewnosodir gan y paragraff hwnnw, i'w dirymu a hynny'n effeithiol o 1 Ebrill 2011.

    (2) Ar ôl rheoliad 24 o Reoliadau 2003 (budd-daliadau ymddeol), mewnosoder y rheoliad a ganlyn—

Ad-dalu'n gynnar fenthyciadau a llog ar fenthyciadau
     4. Ar ôl rheoliad 24A o Reoliadau 2003 (ôl-daliad yn sgil tâl anghyfartal)[4], mewnosoder—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 ("Rheoliadau 2003") ac maent yn gymwys o ran awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn Rheoliadau 2003 reoliad newydd, sef rheoliad 24A, sydd i'w ddirymu ar 1 Ebrill 2011. Mae'r rheoliad newydd yn darparu nad oes angen i awdurdod lleol, hyd onid yw'n gorfod talu'r swm hwnnw i'r swyddog neu i'r cyflogai, godi ar gyfrif refeniw swm mewn cysylltiad â thaliad sydd i'w wneud i swyddog neu i gyflogai am waith a wnaed yn y gorffennol ac y cafodd y swyddog neu'r cyflogai dâl anghyfartal amdano.

Mae rheoliad 4 yn mewnosod yn Rheoliadau 2003 reoliadau newydd, sef rheoliadau 24B i 24D. Mae rheoliadau 24B a 24C yn gwneud darpariaeth ar gyfer y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei godi ar gyfrif refeniw neu ei gredydu i gyfrif refeniw mewn cysylltiad â phremiwm neu ddisgownt sy'n deillio o ad-dalu benthyciad yn gynnar gan yr awdurdod. Mae rheoliad 24D yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi rhoi benthyciad i berson gredydu i gyfrif refeniw yr awdurdod cyfanswm y llog y mae i'w dderbyn ym mhob blwyddyn ariannol yn unol â'r cytundeb benthyciad ar gyfer y benthyciad hwnnw.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (Rhif ffôn 02920825111;
e-bost : [email protected]).


Notes:

[1] 2003 p.26.back

[2] O.S. 2003/3239 (Cy.319), a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1010 (Cy.107) ac O.S. 2006/944 (Cy.93).back

[3] 1970 p. 41.back

[4] Caiff rheoliad 24A o Reoliadau 2003 ei fewnosod gan reoliad 3(2) o'r Rheoliadau hyn.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 978 0 11 091571 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 20 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071051w.html