BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 Rhif 1069 (Cy.109)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071069w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1069 (Cy.109)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 23 Ebrill 2007 

Drwy arfer ei bwerau o dan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 23 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau yng Nghymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "unedau" yw unedau cyfeirio disgyblion.

Dirymu
    
2. Dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) 1994[2] a Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Diwygio) 1996[3].

Cymhwyso ac addasu deddfiadau
     3. Mae'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unedau gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.

Datgymhwyso deddfiadau
    
4. Nid yw'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 3


DEDDFIADAU SY'N GYMWYS I UNEDAU (GYDAG ADDASIADAU NEU HEBDDYNT)




RHAN 1

Deddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Addysg 1996
     1. Mae adran 404 o Ddeddf Addysg 1996[
5] yn gymwys o ran yr athro neu'r athrawes â gofal uned fel y mae'n gymwys o ran corff llywodraethu ysgol a gynhelir, ond dim ond o ran disgyblion y darperir addysg uwchradd iddynt yn yr uned.

     2. Mae adran 405 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir gyda'r addasiad fod y geiriau ", except so far as such education is comprised in the National Curriculum," yn cael eu hepgor.

     3. Mae adran 559 o'r Ddeddf honno[6] yn gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
     4. —(1) Mae adran 19 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[7] yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Mae is-adran (1) yn gymwys os bydd yr amgylchiadau a osodir yn adran 15(6) o'r Ddeddf honno ar unrhyw adeg yn gymwys o ran uned.

    (3) Yn is-adran (2) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu ym mharagraff (a), a hepgorer paragraffau (b) a (c).

    (4) Yn is-adran (3) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu.

     5. Mae adran 61 o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad y rhodder yn lle cyfeiriadau at y corff llywodraethu gyfeiriadau at bwyllgor rheoli'r uned neu, yn achos uned sydd heb bwyllgor rheoli, yr awdurdod addysg lleol.

     6. Mae is-adrannau (1), (2) a (4) o adran 62 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran uned fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiadau—

Deddf Addysg 2002
     7. Mae adran 29(3) o Deddf Addysg 2002[8] yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno).

     8. Mae adran 30(4) o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad fod y geiriau "the governing body or (as the case may be)" a "the governing body or" yn cael eu hepgor.

     9. Mae adran 32 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a grybwyllir yn adran 32(1) gyda'r addasiad yn adran 32(1)(b), yn achos uned sydd â phwyllgor rheoli, mai'r awdurdod addysg lleol ynghyd â'r pwyllgor rheoli fydd yn penderfynu amserau'r sesiynau ysgol.

     10. Mae adran 101(1)(d) o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion arbennig.

Deddf Addysg 2005
     11. —(1) Mae Rhan 1 o Ddeddf Addysg 2005[9] yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Hepgorer Pennod 1 a 2, adrannau 36(3)(c), 39(9), 40, 48, 49 a 50 a pharagraff 3(5)(c) yn Atodlen 4.

    (3) Yn lle adran 38(3)(c), rhodder "the local education authority".

    (4) Yn lle adran 39(3)(b), rhodder "teacher in charge of the unit".

    (5) Yn adran 43 ac yn Atodlen 4, o ran uned, ystyr "appropriate authority" yw'r awdurdod addysg lleol.



RHAN 2

Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 1999
     12. Mae rheoliad 2 o Reoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 1999[10] yn gymwys o ran disgybl sy'n mynychu uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n mynychu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
     13. —(1) Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006[11] yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o Ddeddf Addysg 2005 yn gymwys iddynt, gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn lle'r diffiniad o "awdurdod priodol" yn rheoliad 4(1), rhodder "yr awdurdod addysg lleol".

    (3) Yn rheoliad 7(1), hepgorer is-baragraffau (a) i (ch).

    (4) Mae rheoliad 7(1)(dd) yn gymwys i unedau fel y mae'n gymwys i ysgolion uwchradd.

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006
     14. —(1) Mae Rhan 1 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006[12] yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Mae'r ddyletswydd o dan reoliad 4(1) yn ddyletswydd yr awdurdod addysg lleol.

    (3) Yn rheoliad 5—

    (4) Hepgorer rheoliad 6.

    (5) Yn rheoliad 7, hepgorer paragraffau (4)(a) a 5.

     15. —(1) Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9 gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn lle rheoliad 10, rhodder—

    (3) Hepgorer rheoliad 11.

    (4) Yn lle rheoliad 12, rhodder—

    (5) Hepgorer rheoliad 13.

    (6) Yn lle rheoliad 14, rhodder—

    (7) Hepgorer rheoliadau 15 a 17 i 19.

    (8) Yn lle rheoliad 16, rhodder—



ATODLEN 2
Rheoliad 4


DEDDFIADAU A DDATGYMHWYSIR O RAN UNEDAU


Deddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
     1. Nid yw adrannau 86 [
13] a 94[14] o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn gymwys o ran unedau.

Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003
     2. Nid yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003[15] yn gymwys o ran unedau.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarparu addysg addas yn yr ysgol neu heblaw mewn ysgol ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol gorfodol nad ydynt, oherwydd salwch, gwaharddiad o'r ysgol neu fel arall, yn derbyn am unrhyw gyfnod, addysg addas oni wneir trefniadau o'r fath ar eu cyfer. Adnabyddir unrhyw ysgol a sefydlwyd ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sydd wedi'i threfnu'n arbennig i ddarparu addysg ar gyfer plant o'r fath, yn uned cyfeirio disgyblion.

Mae Atodlen 1 i'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau sy'n cymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso gwahanol ddeddfiadau addysg i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Maent yn cymryd i ystyriaeth ddeddfwriaeth addysg a basiwyd, ers i rheoliadau gael ei gwneud ddiwethaf i gymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Mae'r rheoliadau cynt hynny'n cael eu dirymu gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1996 p. 56. Rhoddwyd y pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol: gweler y diffiniad o "regulations" yn adran 579 o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), mae'r pwerau yn arferadwy gan y Cynulliad o ran Cymru.back

[2] O.S. 1994/2103.back

[3] O.S. 1996/2087.back

[4] 1998 p. 38.back

[5] Diwygiwyd Adran 404 gan baragraff 103 o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), a chan adran 148(1) a (6) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21).back

[6] Diwygiwyd adran 559 gan baragraff 171 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[7] 1998 p. 31. Diwygiwyd adran 19 gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraffau 1 a 79 o Atodlen 9 ohoni (p. 21) a chan adran 45 o Ddeddf Addysg 2005.back

[8] 2002 p. 32.back

[9] 2005 p. 18.back

[10] O.S. 1999/1727.back

[11] O.S. 2006/1714 (Cy. 176).back

[12] O.S. O.S. 2006/873 (Cy. 81).back

[13] Diwygiwyd adran 86 gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 3 o Atodlen 4, ac Atodlen 22 Rhan 3 iddi.back

[14] Diwygiwyd adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 8 o Atodlen 4 iddi.back

[15] O.S. 2003/3231.back



English version



ISBN 978 0 11 091561 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 10 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071069w.html