BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Taliadau i Bersonau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 1112 (Cy.117)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071112w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 1112 (Cy.117)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Taliadau i Bersonau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau hyn

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 88 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Taliadau i bersonau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym yn syth ar ôl i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007[
2] ddod i rym ar 1 Ebrill 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     3. Yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn y wyddor, mewnosoder-

Amnewid rheoliad 18 o'r prif Reoliadau
     4. Am reoliad 18 o'r prif Reoliadau (safonau cyffuriau ac offer, a thaliadau amdanynt), amnewidier—

Diwygio rheoliad 18A o'r prif Reoliadau
     5. Yn rheoliad 18A o'r prif Reoliadau (taliadau i fferyllwyr a ataliwyd), hepgorer paragraff (4).

Diwygio rheoliad 22 o'r prif Reoliadau
    
6. Yn rheoliad 22(1)(e) o'r prif Reoliadau (cyhoeddi manylion), yn lle'r geiriau "determinations made by the Health Authority by virtue of regulation 18(1A)" rhodder "determinations made by the Local Health Board as a consequence of regulation 18(g)".

Diwygio rheoliad 24 o'r prif Reoliadau
    
7. Yn rheoliad 24(1) o'r prif Reoliadau (hawliadau a gordaliadau), yn lle'r geiriau "made by the Health Authority by virtue of regulation 18(1A)" rhodder "made by the Local Health Board as a consequence of regulation 18(g).".

Diwygio paragraff 22 o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
    
8. Ym mharagraff 22(4) o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (materion i'w hystyried wrth roi cyfarwyddiadau ynghylch amserau agor fferyllfeydd), yn lle'r geiriau "under the Drug Tariff" rhodder "in accordance with a determination made as a consequence of regulation 18(g)".

Diwygio'r Rheoliadau Symiau Dangosol
    
9. Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Symiau Dangosol (dehongli), yn lle'r diffiniad o "Drug Tariff", rhodder-

Diwygio'r Rheoliadau Swyddogaethau Rhagnodedig
    
10. Yn rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau Swyddogaethau Rhagnodedig (swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru), yn lle is-baragraff (ch) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—

Diwygio'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar
    
11. Yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar (dehongli), yn lle'r diffiniad o "Drug Tariff", amnewidier y diffiniad a ganlyn-



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

Dyddiad



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (O.S.1992/662) ("y prif Reoliadau") ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth arall.

Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn amnewid rheoliad 18 o'r prif Reoliadau. Mae angen yr amnewidiad hwn yn sgil y newidiadau i'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglyn â thaliadau i bersonau sy'n darparu gwasanaethau fferyllol ar ôl i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ddod i rym. Mae rheoliad 18, fel y'i amnewidir, yn cynnwys darpariaethau ynghylch penderfynu ynglyn â thaliadau i bersonau sy'n darparu gwasanaethau fferyllol gan yr awdurdodau sy'n penderfynu.

Mae rheoliad 3 a rheoliadau 5 i 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau ac i is?ddeddfwriaeth berthnasol arall.


Notes:

[1] {d1}{t1}Mae Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) ("Deddf 2006") yn Ddeddf cydgrynhoi sy'n diddymu ac yn ailddeddfu yn ei chyflawnder Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) ("Deddf 1977") ac yn ymgorffori rhai o'r darpariaethau o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19), Deddf Iechyd 1999 (p.8), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) a Deddf Iechyd 2006 (p.8).{d1}{t1}Mae Adrannau 88 a 203(9) a (10) yn cyfateb i adrannau 43A a 126(4) o Ddeddf 1977.{d1}{t1}Mae'r cyfeiriadau at "Welsh Ministers" a swyddogaethau'r Gweinidogion hynny yn Neddf 2006 yn cael eu trin fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a swyddogaethau'r Cynulliad fel y'i sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) yn unol â'r addasiadau a gynhwysir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), sef yn adran 5 a pharagraff 10 o Atodlen 3.{d1}{t1}Bydd cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i swyddogaethau yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn syth ar ôl diwedd yr "initial period" (fel y'i diffinnir yn adran 161(5)) yn unol ag adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[2] O.S. 2007/121 (Cy.11).back

[3] O.S.1992/662.back

[4] O.S.2001/1543 (Csy.108).back

[5] O.S.1997/980; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S.2005/641.back

[6] 2006 p.42.back

[7] Yng Nghymru, cyflawnir swyddogaethau Pwyllgorau Fferyllol Lleol (y darperir ar eu cyfer yn adran 90 o Ddeddf 2006) gan bwyllgorau Fferylliaeth Gymunedol Cymru.back

[8] 1998 p.38back



English version



ISBN 978 0 11 091575 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 24 April 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071112w.html