BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Labordai, Syrcasau a Chwarantîn Adarol) 2007 Rhif 1627 (Cy.137)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071627w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 1627 (Cy.137)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Labordai, Syrcasau a Chwarantîn Adarol) 2007

  Wedi'u gwneud 7 Mehefin 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mehefin 2007 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2007 

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

     Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973[3], mae'r Trysorlys yn cydsynio â gwneud y Rheoliadau hyn.

     Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freinwyd ynddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Labordai, Syrcasau a Chwarantîn Adarol) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007.

Diwygio'r Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006
    
2. Diwygir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006[4] fel a ganlyn.

     3. —(1) Diwygir Rheoliad 1 fel a ganlyn.

    (2) ym mharagraff (2)—

    (3) Ym mharagraff (3)—

    (4) Ym mharagraff (4), yn lle "Commission Decision 2000/666/EC", rhodder "Commission Regulation (EC) No. 318/2007.".

    (5) Mewnosoder paragraff (7) newydd fel a ganlyn—

     4. Ar ôl rheoliad 5(6) mewnosoder:

     5. Yn rheoliad 9—

     6. Yn rheoliad 16, yn lle paragraff (4) rhodder—

     7. Yn rheoliad 18, yn lle paragraff (3), rhodder—

     8. Yn lle rheoliad 19 rhodder—

     9. Yn rheoliad 21, yn lle paragraffau (2) a (3), rhodder—

     10. Yn lle rheoliad 31, rhodder—

     11. Yn rheoliad 34, yn lle paragraff (2) rhodder—

     12. Yn lle rheoliad 35, rhodder—

     13. Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 10, mewnosoder—

     14. —(1) Diwygir Atodlen 5 fel a ganlyn.

    (2) Yn lle Rhan I, rhodder—



    (3) Yn Rhan II, yn lle paragraff 1, rhodder—

     15. —(1) Diwygir Atodlen 7 fel a ganlyn.

    (2) Yn Rhan I, yn lle paragraff 3, rhodder—

    (3) Yn Rhan II, yn lle paragraff 6, rhodder—

     16. Yn lle Atodlen 8, rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    
17. Yn lle'r testun yn nhrydedd golofn y pumed cofnod yn Atodlen 9, rhodder—

Dirymu
    
18. Dirymir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Mewnforio Adar Caeth) 2007[8] drwy hyn.


Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

7 Mehefin 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 16

          





NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536) (Cy.153) ("y prif Reoliadau").

Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005 sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer symud anifeiliaid syrcas rhwng Aelod-wladwriaethau (OJ Rhif L279, 22.10.2005, t. 47). Diwygir Rheoliad 5 o'r prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer dynodiad Gweinidogion Cymru fel awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005, ac ar gyfer ffioedd sydd i'w codi ar gyfer treuliau a dynnwyd wrth gofrestru syrcasau a champau anifeiliaid fel sy'n ofynnol o dan y Rheoliad Comisiwn hwnnw (rheoliad 4). Ychwanegir y Rheoliad Comisiwn at y rhestr o offerynnau sy'n gosod amodau ar symud anifeiliaid o fewn y Gymuned yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (rheoliad 13).

Mae Rheoliadau 5 a 14 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau ac Atodlen 5 iddynt i ddarparu ar gyfer cymeradwyo labordai i wneud profion swyddogol ar gyfer Salmonela mewn dofednod ar gyfer eu hallforio o fewn y Gymuned Ewropeaidd o dan y Cynllun Iechyd Dofednod (cynllun a sefydlwyd o dan reoliad 9 o'r prif Reoliadau ac Atodlen 4 iddynt). Diwygir Atodlen 5 hefyd mewn perthynas â ffioedd ar gyfer cymeradwyaethau gan labordai, i adlewyrchu'r trefniadau newydd hyn, ac i ddarparu ar gyfer codi ffioedd am arolygiadau ac am gyflenwi cyfarpar profi i sicrhau ansawdd pan nad yw costau o'r fath yn cael eu hadennill drwy'r ffi gymeradwyo flynyddol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cymhwyso ac yn gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio adar penodol i'r Gymuned ac amodau cwarantîn gogyfer â hynny (OJ Rhif L84, 24.3.2007, t. 7). Diwygir Rheoliad 16(4) o'r prif Reoliadau fel ei bod yn gwahardd mewnforio adar caeth onid ydynt yn dod o sefydliad bridio a gymeradwywyd o fewn ystyr Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 (rheoliad 6). Adolygir Rheoliad 19 o'r prif Reoliadau ("rhoi adar caeth mewn cwarantîn") i adlewyrchu'r gofynion newydd ar gyfer cwarantîn ac i greu tramgwyddau newydd yn unol â hynny (rheoliad 8). Darperir mesurau i ddelio â phresenoldeb ffliw adar, Clefyd Newcastle, a Chlamydophyla psittaci neu i ddelio ag amheuaeth ohonynt, drwy ddiwygio rheoliad 21 o'r prif Reoliadau (rheoliad 9). Cymhwysir yr amodau mewnforio mewn perthynas ag adar caeth yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 drwy gyflwyno paragraffau ychwanegol yn Rhannau I a II o Atodlen 7 (rheoliad 15). Disodlir Atodlen 8 gan ddarpariaethau newydd yn ymwneud â chymeradwyo canolfannau a chyfleusterau cwarantîn, a ffioedd, gan gynnwys ffioedd newydd ar gyfer cymeradwyaethau o'r fath (rheoliad 16).

Mae Rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn yn ymestyn rheoliad 31 o'r prif Reoliadau i ddarparu bod Gweinidogion Cymru yn dyfarnu ar gyfradd y gellir ei chodi am amser arolygwr sy'n gwneud gwaith arolygu penodol o dan y prif Reoliadau, ac yn ei chyhoeddi. Dichon y codir am rai arolygiadau o labordai o dan y Cynllun Iechyd Dofednod, arolygiadau o ganolfannau a chyfleusterau cwarantîn adarol, a goruchwyliadau milfeddygol swyddogol o adar caeth yn ystod cwarantîn, yn ôl y gyfradd hon.

Cafodd asesiad effaith reoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r trefniadau ar gyfer cymeradwyaethau a ffioedd a gyflwynir ar gyfer cwarantîn adarol, ac â symud anifeiliaid syrcas ac â chymeradwyaethau a ffioedd mewn perthynas â gwaith profi am salmonella a wneir gan labordai o dan y Cynllun Iechyd Dofednod. Gellir cael copïau drwy'r post oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] 1973 p.51. Swyddogaethau a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ( p. 32).back

[4] O.S. 2006/1536 (Cy.153), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2128 (Cy.198) ac O.S. 2006/3452 (Cy.313).back

[5] OJ Rhif L84, 24.3.2007, t. 7.back

[6] OJ Rhif L279, 22.10.2005, t. 47.back

[7] OJ Rhif L295, 25.10.2006, t.1.back

[8] SI 2007/1080 (Cy.127).back



English version



ISBN 978 0 11 091584 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 27 June 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071627w.html