BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 1763 (Cy.153)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071763w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 1763 (Cy.153)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 19 Mehefin 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Mehefin 2007 
  Yn dod i rym 13 Gorffennaf 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973[1], ac a freiniwyd ynddynt bellach:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006[2] fel a ganlyn.

    (2) Yn Atodlen 1, mewnosoder ", neu ran o hynny" ar ôl y geiriau canlynol bob tro y maent yn ymddangos: "am bob 100 o unedau ychwanegol", "am bob 1,000 o unedau ychwanegol", "am bob 10 kg ychwanegol", "am bob 100 kg ychwanegol", "am bob 1,000 kg ychwanegol" ac "am bob 25,000 kg ychwanegol".

    (3) Yn lle Atodlen 2, rhodder—




Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig un o Wenidogion Cymru

19 Mehefin 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy. 253)) ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.

Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn cynnwys darpariaeth am gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Atodlen 2 newydd i'r prif Reoliadau yn lle'r hen un, i roi ei effaith i'r cytundeb diweddaraf mewn perthynas â ffioedd cyfradd ostyngol.


Notes:

[1] 1973 p. 51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).back

[2] O.S. 2006/2832 (Cy. 253).back



English version



ISBN 978 0 11 091586 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 2 July 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071763w.html