BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007 Rhif 1835 (Cy.159)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071835w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 1835 (Cy.159)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 26 Mehefin 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Mehefin 2007 
  Yn dod i rym 27 Mehefin 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].

     Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno, o ran mesurau ym maes milfeddygaeth, i ddiogelu iechyd y cyhoedd[2].

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 27 Mehefin 2007.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005[3] yn unol â pharagraffau (2) i (4).

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —

    (3) Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5 (arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt), rhoddir y geiriau "y rheoliad hwnnw" yn lle'r geiriau "yr adran honno".

    (4) Yn lle'r Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth Gymunedol) rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.


Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

26 Mehefin 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 2(4)


YR ATODLEN A RODDIR YN LLE'R ATODLEN I REOLIADAU CYNHYRCHION BUCHOL (CYFYNGU AR EU RHOI AR Y FARCHNAD) (CYMRU) (RHIF 2) 2005








NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/3296 Cy. 254) drwy—

     2. Rhoes Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 205/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

     3. Mae Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC wedi'i ddiddymu a'i ddisodli bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC (OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74).

     4. Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC wedi'i mynegi mewn termau sydd yn union yr un fath ag Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC ac mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

     5. Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2003/1246. Yn rhinwedd adrannau 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back

[3] O.S. 2005/3296 Cy.254.back

[4] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back

[5] OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74.back

[6] OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1.back

[7] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[8] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back

[9] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[10] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back

[11] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back

[12] OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.back

[13] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62.back

[14] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.back

[15] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60.back

[16] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.back

[17] OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3.back

[18] OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.13.back

[19] OJ Rhif L320, 18.11.2006. t.46.back

[20] OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.47.back

[21] OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1.back

[22] OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.1.back



English version



ISBN 978 0 11 091587 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 July 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071835w.html