BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Iechyd Cyhoeddus (Awyrennau) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 1900 (Cy.161)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071900w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 1900 (Cy.161)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Cyhoeddus (Awyrennau) (Diwygio) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 2 Gorffenhaf 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffenhaf 2007 
  Yn dod i rym 1 Awst 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad Comisiynwyr Cyllid a Thollau ei Mawrhydi[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 13 o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Clefydau) 1984[2]:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Cyhoeddus (Awyrennau) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Awst 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" yw Rheoliadau Iechyd Cyhoeddus (Awyrennau) 1979[
3].

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     2. —(1) Yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli)—

    (2) Hepgorer rheoliad 2(2).

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
    
3. —(1) Hepgorer rheoliad 4(1)(a) a (3) o'r prif Reoliadau (gorfodi a gweithredu rheoliadau).

    (2) Ym mharagraff (4) o reoliad 4, pan ddigwydd y gair y tro cyntaf, hepgorer—

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau
    
4. Yn rheoliad 5(f) o'r prif Reoliadau (penodiadau a dyletswyddau swyddogion awdurdodedig a darparu gwasanaethau gan awdurdodau cyfrifol), yn lle "a sanitary airport" rhodder "a customs airport where such facilities are likely to be needed".

Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
    
5. Hepgorer rheoliad 6 o'r prif Reoliadau (rhestr o'r ardaloedd heintiedig).

Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau
    
6. Yn lle rheoliad 7(4) o'r prif Reoliadau (arolygu awyrennau), rhodder—

Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
    
7. —(1) Yn rheoliad 8(2) o'r prif Reoliadau (archwilio, etc., personau ar awyrennau), mewnosoder "or other danger to public health" ar ôl "infection" —

    (2) Hepgorer paragraffau (3) i (5) o reoliad 8 o'r prif Reoliadau.

Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau
    
8. Yn lle rheoliad 11(1)(b) o'r prif Reoliadau (darparu gwybodaeth, etc., gan gomanderiaid), rhodder—

Diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau
    
9. —(1) Diwygier rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (hysbysu clefyd heintus, etc., ar y fwrdd awyren) yn unol â'r rheoliad hwn.

    (3) Yn lle paragraff (1), rhodder—

    (2) Ar ôl y geiriau "radio message" ym mharagraffau (2) a (3), mewnosoder—

    (4) Hepgorer is-baragraff (4)(a).

    (5) Yn lle paragraff (6), rhodder—

    (6) Ym mharagraff (7), yn lle "Aircraft Declaration of Health" rhodder—

Diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau
    
10. —(1) Diwygier rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (difa llygod mawr ar awyrennau a diheintio awyrennau) yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1), hepgorer "in such manner as he may determine".

    (3) Ym mharagraff (2), hepgorer "in such manner as the officer may determine".

    (4) Ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

Diwygio rheoliad 14 o'r prif Reoliadau
    
11. Yn rheoliad 14(1) o'r prif Reoliadau (dal gafael mewn awyren), yn lle "a disease subject to the International Health Regulations" rhodder "plague, cholera, yellow fever or smallpox".

Diwygio rheoliad 16 o'r prif Reoliadau
    
12. Yn lle rheoliad 16(b) o'r prif Reoliadau (dal gafael mewn awyren) rhodder—

Diwygio rheoliad 17 o'r prif Reoliadau
    
13. Yn rheoliad 17 o'r prif Reoliadau (dal gafael mewn awyren), yn lle'r amod rhodder—

Diwygio rheoliad 20 o'r prif Reoliadau
    
14. Yn lle rheoliad 20(a) o'r prif Reoliadau (personau o ardaloedd heintiedig), rhodder—

Amnewid rheoliad 21 o'r prif Reoliadau
    
15. Yn lle rheoliad 21 (symud personau heintiedig oddi ar awyren pan fo'n ofynnol gan gomander), rhodder—

Amnewid rheoliad 22 o'r prif Reoliadau
    
16. Yn lle rheoliad 22 o'r prif Reoliadau (symud i faes awyr glanweithiol), rhodder—

Diwygio rheoliad 25 o'r prif Reoliadau
    
17. —(1) Yn lle rheoliad 25(1)(c) o'r prif Reoliadau (awyren yn glanio yn rhywle heblaw maes awyr â thollau), rhodder—

Diwygio rheoliad 26 o'r prif Reoliadau
    
18. Yn rheoliad 26 o'r prif Reoliadau (arbed ar gyfer awyrennau penodol)—

Diwygio rheoliad 27 o'r prif Reoliadau
    
19. Yn rheoliad 27(a) o'r prif Reoliadau (archwilio, etc., personau sy'n bwriadu byrddio'r awyren)—

Diwygio rheoliad 28 o'r prif Reoliadau
    
20. Yn rheoliad 28 o'r prif Reoliadau (archwilio, etc., personau sy'n bwriadu byrddio'r awyren) hepgorer—

Diwygio rheoliad 30 o'r prif Reoliadau
    
21. Yn lle rheoliad 30(2) o'r prif Reoliadau (gwyliadwriaeth) rhodder—

Amnewid rheoliad 32 o'r prif Reoliadau
    
22. Yn lle rheoliad 32 o'r prif Reoliadau (ffioedd am wasanaethau), rhodder—

Hepgor rheoliad 35 o'r prif Reoliadau
    
23. Hepgorer rheoliad 35 o'r prif Reoliadau (arbed ar gyfer post).

Diwygio rheoliad 37 o'r prif Reoliadau
    
24. Yn rheoliad 37 o'r prif Reoliadau (arbed ar gyfer deddfiadau sy'n bodoli), yn lle "Article 76 of the Air Navigation Order 1976" rhodder—

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
     25. Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Datganiad o Iechyd Awyren), yn lle'r pennawd rhodder-



Diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
    
26. —(1) Diwygier Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (mesurau ychwanegol o ran clefydau yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol) fel a ganlyn.

    (2) Yn lle'r pennawd i Atodlen 2 rhodder "Additional Measures with respect to some Diseases".

    (3) Yn y dechrau, yn lle "Regulations 2(1), 8(5), 23" rhodder "Regulations 2(1) and 23".

    (4) Yn Rhan I (pla)—

    (5) Yn Rhan III (y clefyd melyn), yn yr is-bennawd, yn lle "infected areas" rhodder "areas infected with yellow fever".

    (6) Yn Rhan IV (y frech wen)—

Hepgor Atodlen 3 i'r prif Reoliadau
    
27. Hepgorer Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (Tystysgrif Ryngwladol o Frechiad neu Ailfrechiad rhag y Frech Wen).


Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Gorffenhaf 2007



Mae'r Comisynwyr canlynol i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi cydsynio bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud


Mike Eland

Dave Hartnett.


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Cyhoeddus (Awyrennau) 1979[
5] ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer rheoli iechyd cyhoeddus awyrennau sy'n cyrraedd meysydd awyr yng Nghymru a Lloegr neu'n ymadael â hwy.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dod i rym ar 1 Awst 2007, ar ôl daw Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 (IHR) Sefydliad Iechyd y Byd yn dod yn effeithiol. (Mae testun llawn IHR 2005 ar gael ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), www.int/est/ihr/IHRWHA58_3-en.pdf).

Mae rheoliad 2 yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) ac yn ychwanegu diffiniadau newydd sy'n adlewyrchu'r IHR.

Mae rheoliad 3 yn hepgor darpariaethau yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (gorfodi a gweithredu rheoliadau) ynglŷn â dyletswyddau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn meysydd awyr cenedlaethol. Mae rheoliad 5 yn darparu bod rheoliad 6 o'r prif Reoliadau (rhestr o ardaloedd heintiedig) yn cael ei hepgor.

Mae rheoliadau 4 a 16 yn dileu cyfeiriadau at "sanitary airport" yn rheoliad 5 a 22 o'r prif Reoliadau am nad yw'r cysyniad bellach yn ymddangos yn yr IHR.

Mae rheoliadau 6 i 14, 17 a 18 yn diwygio darpariaethau ynghylch awyrennau sy'n dod i mewn (RHAN III o'r prif Reoliadau) yng ngoleuni'r IHR ac fel arall. Yn ychwanegol, darperir ar gyfer twbercwlosis yn rheoliad 8, 9 a 15. Mae rheoliadau 19 a 20 yn gwneud diwygiadau sy'n cydweddu â'r IHR o ran awyrennau sy'n ymadael (Rhan IV o'r prif Reoliadau).

Mae rheoliadau 21 a 24 yn diwygio rheoliadau 30 (gwyliadwriaeth) a 37 (arbed ar gyfer deddfiadau sy'n bodoli) yn RHAN V o'r prif Reoliadau. Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth newydd o ran ffioedd gan awdurdod cyfrifol, gan adlewyrchu darpariaethau'r IHR. Caiff yr arbediad ar gyfer post yn rheoliad 35 o'r prif Reoliadau ei hepgor gan reoliad 23. Gwneir diwygiadau i Atodlenni 1 a 2 i'r prif Reoliadau gan reoliadau 25 a 26.

Mae o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan Stephanie Peaper ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ: [email protected].


Notes:

[1] Mae adran 13(4) o Deddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) yn darparu bod rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad y Comisiynwyr Tollau Tramor a Chartref i'r graddau y maent yn ymwneud â gorfodi a gweithredu gan swyddogion cyllid a thollau. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Comisiynwyr Tollau Tramor a Chartref i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau ei Mawrhydi gan adran 5(2) o Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau ei Mawrhydi 2005 (p. 11). Yn ôl adran 50(1) o'r Ddeddf honno, mae cyfeiriad mewn deddfiad at y Comisiynwyr Tollau Tramor a Chartref i'w drin fel cyfeiriad at Gomisiynwyr Cyllid a Thollau ei Mawrhydi.back

[2] 1984 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back

[3] O.S. 1979/1434.back

[4] S.I. 2005/1970. The Air Navigation Order 1976, S.I. 1976/1783, was revoked by S.I. 1980/1965. Article 136 of S.I. 2005/1970 makes equivalent provision to Article 76 of S.I. 1976/1783.back

[5] O.S. 1979/1434.back



English version



ISBN 978 0 11 091598 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 14 August 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071900w.html