BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2190 (Cy.174)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
25 Gorffennaf 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
27 Gorffennaf 2007 | |
|
Yn dod i rym |
28 Awst 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995[3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn lle'r diffiniad o "Directive 92/33/EEC" rhodder—
"
"Directive 92/33/EEC" means Council Directive 92/33/EEC on the marketing of vegetable propagating and planting material other than seed;"[4].
(3) Yn rheoliad 3 (deunyddiau planhigion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt)—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle "Schedule 1" rhodder "Annex II to Directive 92/33/EEC";
(b) ym mharagraff (1)(b), yn lle "Schedule 1" rhodder "that Annex".
(4) Yn rheoliad 8 (gwybodaeth i fynd gyda'r deunyddiau planhigion)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle "Council Directive 77/93/EEC" rhodder "Council Directive 2000/29/EC"[5];
(b) ym mharagraff (4), yn lle "Schedule 1" rhodder "Schedule 2".
(5) Hepgorer Atodlen 1 (genera a rhywogaethau y mae Rheoliadau yn gymwys iddynt).
I. W. Jones
Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dod i rym ar 28 Awst 2007. Maent yn diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 (O.S. 1995/2652) ("y prif Reoliadau"), i ddiweddaru'r rhestr o genera a rhywogaethau deunyddiau planhigion y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt. Mae hyn yn rhoi ei heffaith i Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/124/EC (OJ Rhif L 339, 6.12.2006, t.12) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/33/EEC (OJ Rhif L 157, 10.6.1992, t.1) ar farchnata deunyddiau lluosogi a phlannu llysieuol ac eithrio hadau, drwy estyn cwmpas yr Atodiad hwnnw i Zea Mays L. (popgorn ac india-corn).
Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio, mae rheoliad 2 yn darparu bod y prif Reoliadau yn gymwys i'r rhestr o genera a rhywogaethau yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/33/EEC.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o'r asesiad hwnnw oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1995/2652.back
[4]
OJ Rhif L 157, 10.6.1992, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/124/EC, OJ Rhif L 339, 6.12.2006, t. 12.back
[5]
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/35/EC, OJ Rhif L 88, 25.3.2006, t.9.back
English version
ISBN
978 0 11 091599 9
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
14 August 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072190w.html