BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007 Rhif 2313 (Cy.184)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072313w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2313 (Cy.184)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 4 Awst 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Awst 2007 
  Yn dod i rym 31 Awst 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sy'n arferadwy bellach ganddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 31 Awst 2007.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    
3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006
     4. Mae Rheoliadau 2006 wedi'u diwygio yn unol ag Atodlen 1.

Dirymu a darpariaethau arbed
    
5. Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006 wedi'u dirymu o ran Cymru.

    
6. Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2006 yn parhau i fod yn gymwys.

    
7. Bydd Rheoliadau 2006 yn parhau i fod yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007 ac mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006 cyn belled â bod Rheoliadau 2006 yn ymwneud â blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn y cyfnod hwnnw.

    
8. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007, p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl, 1 Medi 2007.



RHAN 2

GWNEUD CAIS AM GYMORTH A CHYMHWYSTRA

Ceisiadau
    
9. —(1) Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

    (2) Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

    (3) Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw—

    (4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.

Myfyrwyr cymwys
    
10. —(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) ac (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yng Nghanolfan Bologna—

    (4) Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—

    (5) Nid yw paragraff (4)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

    (6) At ddibenion paragraff (4)(b) ac (c) ystyr "benthyciad" yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

    (7) Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

    (8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod—

    (9) Caniateir mynd dros ben y nifer mwyaf o fyfyrwyr cymwys a bennir ar gyfer Sefydliad Ewrop yn is-baragraff (8) os yw'n angenrheidiol gwneud hynny, ym marn Gweinidogion Cymru, i ganiatáu i berson sy'n dod o fewn paragraff 12 Rhan 2 o Atodlen 2 gymhwyso i gael cymorth am flwyddyn academaidd berthnasol.

    (10) At ddibenion is-baragraff (9), ystyr "blwyddyn academaidd berthnasol" yw blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond ar neu cyn 31 Awst 2008.

    (11) Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.

    (12) Er gwaethaf paragraffau (2) i (4) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (13) a (14), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn sefydliad Ewropeaidd—

    (13) Pan fo—

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

    (14) Pan fo—

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

    (15) Nid yw paragraffau (13) a (14) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.

    (16) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.

    (17) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2)(a) neu a enwyd o dan baragraff (3)(a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.

    (18) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (11) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn rhinwedd paragraff (12), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.

    (19) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law—

    (20) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.

Cyrsiau dynodedig
    
11. Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 10 os yw—

Cyfnod cymhwystra
    
12. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y byddai'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol fel arfer yn disgwyl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi ("cyfnod cymhwystra").

    (2) Bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu pan fo'r myfyriwr—

    (3) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos ei fod yn anffit i gael cymorth.

    (4) Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfnod y byddant yn penderfynu arno.

    (5) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol—

Trosglwyddo cymhwystra
    
13. —(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—

    (2) Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

    (3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.



RHAN 3

DARPARU GWYBODAETH

Gwybodaeth
    
14. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

    
15. Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—

     16. Rhaid i'r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn fod ar y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, mae llofnod electronig ar y ffurf a bennir ganddynt yn bodloni'r gofyniad hwn.



RHAN 4

CYMORTH ARIANNOL

Cyffredinol
    
17. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw—

    (2) Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—

    (3) Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

    (4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "blwyddyn o ailadrodd astudiaethau" yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.



PENNOD 1

GRANTIAU AT FFIOEDD I FYFYRWYR CANOLFAN BOLOGNA

Grant at ffioedd
    
18. —(1) Mae myfyriwr Canolfan Bologna yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.

    (3) Er gwaethaf paragraff (2), nid yw'r grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i fod yn fwy na 25,580 ewro.



PENNOD 2

GRANTIAU I FYFYRWYR COLEG EWROP

Grant at ffioedd
    
19. —(1) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.

    (3) 10,800 ewro yw uchafswm y grant at ffioedd.

Grantiau at gostau byw a chostau eraill
    
20. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

    (2) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

    (3) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at gostau byw sy'n hafal i swm (A + B) lle—

    (4) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at fwrdd a llety o 6,000 ewro.

    (5) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am swm sy'n hafal i (A − B) lle—

    (6) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yng Ngholeg Ewrop, i Goleg Ewrop.

    (7) Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau, mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan Goleg Ewrop yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

    
21. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir yn unol â rheoliad 20.



PENNOD 3

GRANTIAU I FYFYRWYR YN YR ATHROFA BRIFYSGOL EWROPEAIDD

Grantiau at gostau byw a chostau eraill
    
22. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

    (2) Nid yw myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

    (3) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 13,000 ewro.

    (4) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

    (5) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, i'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

    (6) Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

    (7) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.

    
23. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (4) i (6) o reoliad 22.



PENNOD 4

GRANTIAU ATODOL

Lwfans myfyrwyr anabl
    
24. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael lwfans myfyrwyr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.

    (2) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael lwfans myfyrwyr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

Swm y lwfans myfyrwyr anabl
    
25. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyrwyr anabl yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr i fod yn gymorth at un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

    (2) Rhaid i swm y lwfans myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na £5,915 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

    (3) Y "mathau o gostau cymwys" yw —

Grant ar gyfer dibynyddion
    
26. —(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

    (2) Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 27 i 31.

Grant dibynyddion mewn oed
    
27. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai—

    (3) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

    
28. —(1) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw—

Lwfans dysgu rhieni
    
29. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso, mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.

    (2) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

    (3) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw £1,435.

Cyfrifo
    
30. —(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr Coleg Ewrop neu'r myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i'w gael o dan reoliadau 27 i 29 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 27 i 29, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr yn cymhwyso i'w chael yn daladwy.

    (3) Os yw (A − B) yn hafal i agregiad y symiau sylfaenol o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael neu'n fwy na'r agregiad hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.

    (4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—

    (5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

    (6) At ddibenion y rheoliad hwn—

     31. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 27 i 30.

Dehongli
    
32. —(1) At ddibenion rheoliadau 27 i 31—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—

    (3) Os yw myfyriwr neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl—

    (4) At ddibenion paragraff (2)—

mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.



RHAN 5

CYFRANIADAU

Cyfraniad y myfyriwr
     33. —(1) Cyfraniad myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 3, os oes unrhyw swm o gwbl.

    (2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.

Cymhwyso cyfraniad y myfyriwr
    
34. —(1) Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 33 gael ei gymhwyso—

     35. —(1) Yn achos myfyriwr Coleg Ewrop, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—

    (2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 20(7), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.

    
36. —(1) Yn achos myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—

    (2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(ch) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 22(6), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.



RHAN 6

TALIADAU

Talu grant at ffioedd
    
37. —(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant at ffioedd y mae myfyriwr yn cymhwyso i'w gael hyd oni fydd cais dilys am daliad wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd.

    (2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y taliadau grant at ffioedd i'r awdurdodau academaidd yn y rhandaliadau ac ar yr adegau y maent o'r farn eu bod yn briodol.

Talu grantiau at gostau byw a chostau eraill a grantiau atodol
    
38. —(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill a'r grantiau atodol y mae myfyriwr yn cymhwyso i'w cael yn y rhandaliadau ac ar yr adegau sy'n briodol yn eu barn hwy.

    (2) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru dalu grant sy'n daladwy o dan reoliad 20(4) neu reoliad 22(3) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod dalu'r grant perthnasol ar eu rhan.

    (3) Pan na ellir gwneud, ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu o grantiau atodol sy'n daladwy i fyfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro mewn cysylltiad â'r grantiau hynny hyd oni wneir yr asesiad terfynol.

    (4) Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad lwfans myfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn cysylltiad â hi.

    (5) Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 15(a) neu yn rheoliad 15(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn peidio â bod yn bresennol ar ei gwrs onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.

    (6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—

onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.

Gordaliadau
    
39. —(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi wrth yr awdurdod academaidd unrhyw ordaliad o grant at ffioedd.

    (2) Os yw Gweinidogion Cymru'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.


Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007



ATODLEN 1
Rheoliad 4


DIWYGIO RHEOLIADAU GRANTIAU DYSGU Y CYNULLIAD (SEFYDLIADAU EWROPEAIDD) (CYMRU) 2006


     1. Yn rheoliad 8(4), yn lle "pharagraff (2)" rhodder "pharagraff (3)"

     2. Yn rheoliad 21(3), yn lle "22,700 ewro" rhodder "24,100 ewro".

     3. Yn rheoliad 25(4)(b), yn lle "12,840 ewro" rhodder "13,000 ewro".

     4. Ym mharagraff 1(6)(a) o Ran 1 o Atodlen 1, yn lle "berson hunan-gyflogedig y Swistir" rhodder "berson cyflogedig Swisaidd y ffin".



ATODLEN 2
Rheoliad 10


MYFYRWYR CYMWYS




RHAN 1

Dehongli
     1. —(1) At ddibenion yr Atodlen hon—

    (2) ystyr "person hunangyflogedig y ffin o'r AEE" ("EEA frontier self-employed person") yw un o wladolion yr AEE—

    (3) ystyr "gweithiwr y ffin o'r AEE" ("EEA frontier worker") yw un o wladolion yr AEE—

    (4) ystyr "person cyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier employed person") yw gwladolyn Swisaidd—

    (5) ystyr "person hunangyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier self-employed person") yw gwladolyn Swisaidd—

    (6) At ddibenion yr Atodlen hon, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal dros blentyn a rhaid dehongli "plentyn" ("child") yn unol â hynny.

    (7) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i'w drin fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio neu yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith—

yn cael ei gyflogi neu wedi bod yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.

    (8) At ddibenion is-baragraff (7), mae gwaith dros dro y tu allan i Gymru, i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio neu i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio yn cynnwys—



RHAN 2

Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
     2. —(1) Person—

    (2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).

     3. Person—

Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros
     4. —(1) Person—

    (2) Person—

    (3) Person—

     5. —(1) Person—

    (2) Person—

    (3) Person—

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd
     6. —(1) Person—

    (2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

     7. Person—

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
     8. —(1) Person—

    (2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ac sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio ac y mae'n un o'i gwladolion neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu yn un o'i gwladolion.

Gwladolion y GE
     9. —(1) Person—

    (2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

     10. —(1) Person—

Plant gwladolion Swisaidd
     11. Person—

Plant gweithwyr Twrcaidd
     12. Person—



ATODLEN 3
Rheoliad 33


CYFRANIADAU'R MYFYRIWR




RHAN 1

Dehongli
     1. —(1) Yn yr Atodlen hon—

    (2) ystyr "myfyriwr cymwys annibynnol" ("independent eligible student") yw myfyriwr Coleg Ewrop—

    (3) Mae unrhyw fyfyriwr Coleg Ewrop sy'n cymhwyso i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan is-baragraff (2)(g) mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.



RHAN 2

Cyfrifo cyfraniad

Incwm yr aelwyd
     2. —(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

    (2) Incwm yr aelwyd—

    (3) Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd mae swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) i'w ddidynnu—

    (4) Y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) yw £1,075.

    (5) At ddiben cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â myfyriwr sy'n rhiant, nid yw incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i'w agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn neu blentyn ei bartner ddyfarndal y cyfrifir incwm yr aelwyd mewn cysylltiad ag ef drwy gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr
     3. —(1) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol myfyriwr, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi'i ddidynnu wrth ganfod beth yw ei incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

    (2) Pan fo'r myfyriwr yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwn at ddiben y paragraff hwn—

Cyfrifo incwm gweddilliol rhiant
     4. —(1) At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy rhiant myfyriwr, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—

i'w gwneud na'u caniatáu.

    (2) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol rhiant, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

    (3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol ("blwyddyn ariannol gyfredol"), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

    (4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol y rhiant gyfartaledd ei incwm gweddilliol ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddynt.

    (5) Os yw rhiant y myfyriwr yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei rhedeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

    (6) Os yw rhiant myfyriwr yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y rhiant hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir dim ond oherwydd—

mae ei incwm trethadwy at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.

    (7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu'r Swistir ac incwm rhiant y myfyriwr at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, sef y gyfradd fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    (8) Os bydd un o rieni'r myfyriwr yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth neu y byddai'n cael ei gymryd i ystyriaeth at ddiben canfod incwm yr aelwyd, yna—

    (9) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm pa riant bynnag sydd fwyaf priodol o dan yr amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru.

    (10) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at agregiad o'r canlynol—

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr
     5. —(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a heblaw am is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 4, mae incwm partner myfyriwr i'w ganfod yn unol â pharagraff 4, ac mae cyfeiriad at y rhiant i'w ddehongli fel cyfeiriadau at bartner y myfyriwr.

    (2) Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir i ystyriaeth incwm y partner wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd.

    (3) Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu gan bum-deg dau a'i luosi gan nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru'n penderfynu mewn cysylltiad â hwy fod y myfyriwr a'i bartner heb fod ar wahân.

    (4) Os oes gan fyfyriwr fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un ohonynt.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant
     6. Mae incwm partner rhiant myfyriwr newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 2(2)(a) i'w ganfod yn unol â pharagraff 5, ac mae cyfeiriadau at bartner y myfyriwr i'w dehongli fel cyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr newydd, ac mae cyfeiriadau at y myfyriwr i'w dehongli fel cyfeiriadau at riant y myfyriwr.

Cyfrifo cyfraniad
     7. —(1) Mae cyfraniad myfyriwr i'w gyfrifo yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Mewn perthynas â myfyriwr Coleg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, myfyriwr Coleg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol a chanddo bartner a myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a chanddo bartner, y cyfraniad yw—

    (3) Mewn perthynas â myfyriwr Coleg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner a myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw

    (4) Nid yw swm y cyfraniad i fod yn fwy na £7,610 os cyfrifir y cyfraniad o dan is-baragraff (2) neu (3).

    (5) Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, nid yw agregiad y cyfraniadau a gyfrifir- o dan is-baragraff (2) neu (3) i fod yn fwy—

    (6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os incwm gweddilliol y canlynol yw incwm yr aelwyd—

Rhannu cyfraniadau
     8. —(1) Os yw cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 7 uchod a bod un neu fwy o'r amodau yn is-baragraff (2) wedi ei fodloni neu eu bodloni, swm y cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r myfyriwr Coleg Ewrop fydd y swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn deg o ystyried—

    (2) Y canlynol yw'r amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod—



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006").

Mae Rheoliadau 2006 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006. Mae Rheoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer cymorth i fyfyrwyr penodol sy'n dilyn cyrsiau yn y sefydliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

Mae Rheoliadau 2006 yn gymwys o ran Cymru.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 2006 er mwyn cynyddu uchafswm y grant ar gyfer ffioedd sy'n daladwy i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau dynodedig yng Nghanolfan Bologna o 22,700 ewro i 24,100 ewro. Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 25(4)(b) o Reoliadau 2006 er mwyn cynyddu swm y grant ar gyfer costau byw sy'n daladwy i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau dynodedig yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd o 12,840 ewro i 13,000 ewro.

Mae rheoliadau 3, 4 a 7 yn cywiro gwallau teipograffyddol a gwallau drafftio yn Rheoliadau 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau dynodedig ym maes addysg uwch yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007.

Mae grant at ffioedd ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yng Nghanolfan Bologna.

Mae grant at ffioedd, grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer hyd at ddau fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop.

Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau'n disgrifio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y grantiau, y weithdrefn ar gyfer gwneud cais a'r dull o gyfrifo swm y grant sy'n daladwy. Mae'r Rheoliadau yn disgrifio hefyd y trefniadau ar gyfer talu'r grantiau ac adennill unrhyw ordaliadau.

Gwneir darpariaeth hefyd yn y Rheoliadau hyn i gydymffurfio ag erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 Cyngor y Gymdeithas dyddiedig 19 Medi 1980 ar ddatblygiad y Gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci.

Crewyd Cyngor y Gymdeithas drwy gytundeb a sefydlodd gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci ac a lofnodwyd yn Ankara ar 12 Medi 1963 gan Weriniaeth Twrci ar y naill law ac Aelod-wladwriaethau'r CEE a'r Gymuned ar y llall. Cafodd y cytundeb ei gwblhau, ei gymeradwyo a'i gadarnhau ar ran y Gymuned gan Benderfyniad y Cyngor 64/732/CEE dyddiedig 23 Rhagfyr 1963 (OJ 1973 p. 113 t. 1).

Mae Erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 Cyngor y Gymdeithas dyddiedig 19 Medi 1980 ar ddatblygu'r gymdeithas yn darparu bod rhaid derbyn plant Twrcaidd sy'n preswylio'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth gyda'u rhieni sydd, neu sydd wedi bod, yn cael eu cyflogi'n gyfreithlon yn yr Aelod-wladwriaeth honno, i gyrsiau addysg gyffredinol, prentisiaeth a hyfforddiant galwedigaethol o dan yr un cymwysterau mynediad addysg â phlant gwladolion yr Aelod-wladwriaeth honno. Gallant fod yn gymwys yn yr Aelod-wladwriaeth honno i elwa ar y manteision y darperir ar eu cyfer o dan y ddeddfwriaeth wladol yn y maes hwn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2006 i'r graddau a nodir yn rheoliadau 4 i 6.


Notes:

[1] 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.back

[2] 1962 p.12; rhoddwyd yn lle adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 y ddarpariaeth a osodir yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p.20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p.11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a osodir yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.back

[3] Gorch. 9171.back

[4] Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG.back

[5] 2002 p. 41.back

[6] O.S. 2006/1794 (Cy.189).back

[7] 1992 p. 4.back

[8] 2002 p. 38.back

[9] 1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3).back

[10] Gorch. 4904.back

[11] Gorch. 2073.back

[12] Gorch. 2183.back

[13] 1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).back

[14] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE1968 (ii) t.475).back

[15] 1988 p. 1.back

[16] 2004 p. 12.back

[17] "Financial Statistics" (ISSN 0015-203X).back



English version



ISBN 978 0 11 091641 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 17 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072313w.html