BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 Rhif 2316 (Cy.187)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072316w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2316 (Cy.187)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 4 Awst 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Awst 2007 
  Yn dod i rym 1 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 26 a 66(1) o Ddeddf Plant 2004[1], ac sydd bellach wedi eu rhoi iddynt hwy [2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 1 Medi 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongliad
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Y gofyniad i baratoi a chyhoeddi Cynllun Plant a Phobl Ifanc
     3. —(1) Rhaid i bob awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn unol â'r Rheoliadau hyn.

    (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "Cynllun Plant a Phobl Ifanc" yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 26 (1) o Ddeddf 2004, yn datgan strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau o ran plant ac o ran personau ifanc perthnasol.

Cyfnod y cynllun
    
4. —(1) Bydd y Cynllun Plant a Phobl Ifanc cyntaf yn cael effaith am y cyfnod sy'n cychwyn ar 1 Awst 2008 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2011.

    (2) Bydd yr ail Gynllun Plant a Phobl Ifanc, a'r rhai dilynol, yn cael effaith am y cyfnod o dair blynedd sy'n cychwyn ar 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fydd cyfnod y cynllun blaenorol yn dod i ben.

Amseriad cyhoeddi'r cynllun
    
5. —(1) Rhaid cyhoeddi'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc cyntaf ar neu cyn 30 Medi 2008.

    (2) Rhaid cyhoeddi'r ail Gynllun Plant a Phobl Ifanc, a'r rhai dilynol, ar neu cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fydd cyfnod y cynllun dan sylw'n cychwyn yn unol â rheoliad 4 (2).

Y dull o gyhoeddi'r cynllun
    
6. Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc drwy—

Ymgynghoriad
    
7. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r ymgynghoriad y mae'n ofynnol ar bob awdurdod i'w gynnal wrth lunio'u Cynllun Plant a Phobl Ifanc.

    (2) Rhaid ymgynghori â'r canlynol ynglŷn[
a] â'r cynllun pan fydd hwnnw ar ei ffurf ddrafft—

    (3) Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ff) i (th) o baragraff (2), dim ond cyrff sy'n gwasanaethu ardal gyfan yr awdurdod, neu unrhyw ran ohoni, yr ymgynghorir â hwy.

    (4) Rhaid i'r awdurdod ymgynghori ynglŷn[d] â'r cynllun drafft am gyfnod o ddim llai na deuddeng wythnos.

    (5) Rhaid i'r awdurdod gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon drafft o'r cynllun at bob ymgynghorai, gan wahodd sylwadaethau arno o fewn cyfnod penodedig.

    (6) Gellir bodloni'r gofyniad ym mharagraff (5) i anfon drafft o'r cynllun at yr ymgynghoreion drwy anfon copïau drwy bost electronig.

Adolygu'r cynllun
     8. —(1) Rhaid i'r awdurdod adolygu eu Cynllun Plant a Phobl Ifanc erbyn 30 Hydref bob blwyddyn, gan gychwyn yn 2009.

    (2) Wrth gynnal adolygiad o'r fath, rhaid i'r awdurdod ymgynghori â pha bynnag bersonau sy'n briodol yn eu barn hwy, gan roi sylw i'r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 26 (5) o Ddeddf 2004.

    (3) Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad, mewn modd sy'n briodol yn eu barn hwy, gan roi sylw i'r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 26 (5) o Ddeddf 2004.


Jane E Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

4 Awst 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod pob awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru yn paratoi cynllun plant a phobl ifanc, yn ymgynghori yn ei gylch, ac yn ei gyhoeddi a'i adolygu. Rhaid i gynllun o'r fath ddatgan strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau o ran plant a phersonau ifanc. Nid yw cynnwys y cynllun yn cael ei ragnodi gan y Rheoliadau, ond bydd yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod gan roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru.

Bydd y Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn disodli'r Cynllun Addysg Sengl yr oedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ei baratoi a'i gyhoeddi o dan Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 (OS 2006/877). Nid yw'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 am nad oes dyletswydd sy'n parhau i gyhoeddi Cynllun Addysg Sengl ar ôl cyhoeddi'r cyfryw gynllun ar 1 Medi 2006 ar gyfer y cyfnod sy'n dod i ben ar 31 Awst 2008.

Mae Rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer paratoi a chyhoeddi cynlluniau bob tair blynedd. Bydd y cynllun cyntaf mewn grym o 1 Awst 2008 ymlaen ac yn cael ei gyhoeddi erbyn 30 Medi 2008.

Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y modd y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi; mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer ymgynghori ynglyn â'r cynllun drafft; ac mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer adolygiad blynyddol o'r cynllun gan yr awdurdod, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ymgynghori pellach.


Notes:

[1] 2004 p.31back

[2] Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu rhoi i Weinidogion Cymru gan weithrediad adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.back

[3] 1998 p.31back

[4] 1993 p.38back

[5] 1990 p.8back

[6] 1996 p.56back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, Fersiwn Saesneg, rheoliad 2, yn y diffiniad o “Children and Young People’s Partnership”, pedwerydd llinell: “…authorities…” dylser darllen, “…authority…”;

Tudalen 4, Fersiwn Cymraeg, rheoliad 7(2), llinell gyntaf: “…ynglyn…” dylser darllen, “…ynglŷn…”;
back

[b] Amended by Correction Slip. Tudalen 5, Fersiwn Cymraeg, rheoliad 7(2)(g), ail linell:“…Ngymru…” dylser darllen, “…Nghymru…”; back

[c] Amended by Correction Slip. Tudalen 5, Fersiwn Cymraeg, rheoliad 7(2)(h), llinell cyntaf: “…is-grwp…” dylser darllen, “…is-grŵp…”; back

[d] Amended by Correction Slip. Tudalen 6, Fersiwn Cymraeg, rheoliad 7(4), llinell cyntaf: “…ynglyn…” dylser darllen, “…ynglŷn…”; a back

Tudalen 6, Fersiwn Saesneg, Union o dan lofnod ygweinidog: “Minster for Children…” dylser darllen, “Minister for Children…”.



ISBN 978 0 11 091610 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 11 September 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072316w.html