BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 2332 (Cy.190)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072332w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2332 (Cy.190)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007

  Gwnaed 7 Awst 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Awst 2007 
  Yn dod i rym 7 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(4) a 2(8) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 7 Medi 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
     3. —(1) Yn rheoliad 3(3)(f) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau "neu berson arall".

    (2) Yn rheoliad 4(1)(b) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau "neu berson arall".

    (3) Yn rheoliad 4A o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau "neu berson arall".


Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Awst 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gwneir y rheoliadau hyn o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac maent yn diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002. Maent yn diwygio'r eithriadau ar gyfer cofrestru fel ysbyty annibynnol, clinig annibynnol ac fel asiantaeth feddygol annibynnol drwy dynnu'r geiriau "neu berson arall" o reoliadau 3(3)(f), 4(1)(b) and 4A.


Notes:

[1] 2000 p.14. Rhoddir y pwerau i'r "appropriate Minister". Ystyr "Appropriate Minister" o ran Cymru yw'r Cynulliad: gweler adran 121(1) o'r Ddeddf. Trosglwyddir y pwerau i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru .2006 (P.32).back

[2] O.S. 2002/325 (Cy.38), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/1703 (Cy.165).back



English version



ISBN 978 0 11 091606 4


 © Crown copyright 2007

Prepared 11 September 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072332w.html