BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tiroedd Comin (Cofrestru Meysydd Tref neu Bentref) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2007 Rhif 2396 (Cy. 198) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072396w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 12 Awst 2007 | ||
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru | 14 Awst 2007 | ||
Yn dod i rym | 6 Medi 2007 |
(3) Pan fo cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo at ddibenion cais, bernir bod unrhyw ofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru anfon unrhyw beth at "y ceisydd" wedi'i fodloni drwy ei anfon at y cyfreithiwr neu, os oes dau neu ragor o bersonau wedi gwneud cais ar y cyd ac nad oes cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo, at y person y gwelir ei enw yn gyntaf ar y ffurflen gais.
(4) Mae gofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru stampio unrhyw ddogfen yn ofyniad iddo osod argraff ei stamp swyddogol arni yn unol â'r disgrifiad yn Rheoliad Cyffredinol 3, sef stamp swyddogol y mae'n rhaid iddo gynnwys y dyddiad a grybwyllir yn y gofyniad neu (os na chyfeirir at ddyddiad) y dyddiad y gosodwyd y stamp.
(5) Caniateir i Ffurflen 44 fod yn y Gymraeg neu'r Saesneg, neu yn y ddwy iaith.
(6) Rhaid i Ffurflen 45 fod yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref
3.
—(1) Rhaid i gais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref gael ei wneud yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i gais—
(3) Rhaid i ddatganiad statudol i ategu cais gael ei wneud—
Y weithdrefn ar ôl i geisiadau ddod i law
4.
—(1) Ar ôl i gais ddod i law, rhaid i'r awdurdod cofrestru—
(2) Rhaid i'r awdurdod cofrestru anfon derbynneb at y ceisydd ar gyfer y cais a honno'n cynnwys datganiad o'r Rhif a roddwyd iddo; ac mae Ffurflen 6, o'i defnyddio at y diben hwnnw, yn ddigonol.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "Ffurflen 6" yw'r ffurflen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol.
Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau y mae adran 15(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys iddynt
5.
—(1) Pan wneir cais o dan adran 15(1) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar ôl i gais ddod i law, rhaid i'r awdurdod cofrestru—
(2) Rhaid i'r dyddiad sydd i'w fewnosod mewn hysbysiad o dan baragraff (1)(a) yn ddyddiad pryd y mae'n rhaid i ddatganiadau ysgrifenedig i wrthwynebu cais gael eu cyflwyno i'r awdurdod cofrestru ganiatáu cyfnod o nid llai na chwe wythnos ar ôl yr olaf o'r canlynol—
(3) Rhaid i bob awdurdod o dan sylw sy'n cael hysbysiad a chopi o gais o dan y rheoliad hwn—
(4) Pan fo'n ymddangos i'r awdurdod cofrestru ar ôl ystyriaeth ragarweiniol nad yw cais wedi'i wneud yn briodol, caiff yr awdurdod ei wrthod heb gydymffurfio â pharagraff (1), ond, os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gallai unrhyw gam gan y ceisydd adfer y cais i drefn, rhaid i'r awdurdod beidio â gwrthod y cais o dan y paragraff hwn heb roi cyfle rhesymol yn gyntaf i'r ceisydd gymryd y cam hwnnw.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr "ardal o dan sylw" yw ardal sy'n cynnwys ardal pob un o'r awdurdodau o dan sylw.
(6) Mae gofyniad i awdurdod cofrestru gyhoeddi hysbysiad mewn unrhyw ardal yn ofyniad iddo beri i'r ddogfen gael ei chyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn ddigonol i sicrhau cyhoeddusrwydd digonol iddo.
(7) Mae gofyniad i arddangos hysbysiad neu gopïau o hysbysiadau yn ofyniad i'w drin, at ddibenion adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (hysbysiadau cyhoeddus)[5], fel pe bai'n hysbysiad cyhoeddus o fewn ystyr yr adran honno.
Ystyried gwrthwynebiadau
6.
—(1) Pan wneir cais o dan adran 15(1) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, cyn gynted ag y gellir ar ôl y dyddiad pryd y mae'n ofynnol i ddatganiadau sy'n gwrthwynebu cais gael eu cyflwyno, rhaid i'r awdurdod cofrestru fwrw ymlaen i ystyried y cais ymhellach, ac i ystyried y datganiadau (os oes rhai) sy'n gwrthwynebu'r cais hwnnw, yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Mae'r awdurdod cofrestru—
(3) Rhaid i'r awdurdod cofrestru anfon copi at y ceisydd o bob datganiad y mae'n ofynnol o dan baragraff (2) i'r awdurdod cofrestru ei ystyried ac o bob datganiad y caniateir i'r awdurdod cofrestru ei ystyried ac y mae'n bwriadu ei ystyried.
(4) Rhaid i'r awdurdod cofrestru beidio â gwrthod y cais heb roi cyfle rhesymol i'r ceisydd ymdrin-
Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau y mae adran 15(8) o Ddeddf 2006 yn gymwys iddynt
7.
Pan wneir cais o dan adran 15(8) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, rhaid i'r awdurdod cofrestru ganiatáu'r cais ar yr amod bod yr awdurdod cofrestru wedi'i fodloni—
Dull cofrestru
8.
—(1) Pan fo'r awdurdod cofrestru yn caniatáu cais, rhaid iddo wneud y gwaith cofrestru angenrheidiol, gan ddilyn mor agos ag y gellir Gofnod Enghreifftiol Rhif 4 gydag unrhyw amrywiadau ac addasiadau y mae eu hangen o dan yr amgylchiadau, ond gan roi yn lle'r geiriau "(Registration provisional.)", y geiriau "(Registration under section 15 of the Commons Act 2006.)".
(2) Mae darpariaethau paragraffau (2) i (6) o Reoliad Cyffredinol 10 yn gymwys i gofrestru o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i gofrestru yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol gyda'r addasiadau canlynol—
(3) Mae darpariaethau rheoliad 9 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Gwrthwynebiadau a Mapiau) 1968[6] (newidiadau ynglyn â mapiau cofrestru dros dro) yn gymwys at ddibenion adran 15 o Ddeddf 2006 fel y maent yn gymwys at ddibenion adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965[7] gyda'r addasiadau canlynol—
(4) Rhaid i bob map newydd a ddefnyddir gael ei stampio gan yr awdurdod cofrestru, a'i lofnodi ar ran yr awdurdod cofrestru, ac mae'n ffurfio rhan o'r gofrestr.
(5) Pan fo'r tir sy'n destun cais eisoes wedi'i gofrestru yn dir comin yn y gofrestr o dir comin, rhaid i'r awdurdod cofrestru, hefyd,-
(6) Pan fo awdurdod cofrestru wedi cofrestru o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo ffeilio'r ffurflen gais ac unrhyw gynllun a dychwelyd pob dogfen arall a gafwyd gyda'r cais i'r ceisydd.
(7) Yn y rheoliad hwn—
Gwybodaeth am benderfynu ar geisiadau, a'r weithdrefn ar ôl i gais gael ei wrthod
9.
—(1) Pan fo'r awdurdod cofrestru wedi penderfynu ar gais ac, os yw wedi caniatáu'r cais, pan yw wedi gwneud y gwaith cofrestru angenrheidiol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ynglyn â'r ffaith—
(2) Rhaid i'r hysbysiad hwnnw gynnwys, pan fo'r awdurdod cofrestru wedi caniatáu'r cais, fanylion y cofrestru a, pan fo wedi gwrthod y cais, y rhesymau dros ei wrthod.
(3) Bernir bod person wedi gwrthwynebu cais at ddibenion paragraff (1) os cyflwynodd y person hwnnw ddatganiad o wrthwynebiad i'r cais y bu'n ofynnol i'r awdurdod cofrestru ei ystyried o dan baragraff (2) o reoliad 6 neu a ystyriodd yr awdurdod cofrestru o dan y paragraff hwnnw.
(4) Pan fo'r awdurdod cofrestru wedi gwrthod cais, rhaid iddo ddychwelyd y ffurflen gais a'r holl ddogfennau a gafwyd gyda hi i'r ceisydd.
Disgrifiadau tir
10.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgrifiad unrhyw dir sy'n destun cais am gofrestru yn faes tref neu bentref.
(2) Rhaid i dir gael ei ddisgrifio at ddibenion unrhyw gais—
(3) Rhaid i unrhyw fap Ordnans sy'n cyd-fynd â chais—
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i "uned yn y gofrestr" yr un ystyr ag sydd i "register unit" yn y Rheoliadau Cyffredinol.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Awst 2007
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r darpariaethau perthnasol yn Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843) ("Rheoliadau 1969") ar gyfer cofrestru meysydd tref neu bentref newydd o dan Ddeddf 1965. Er hynny, mae Rheoliadau 1969 yn parhau mewn grym er mwyn i feysydd newydd a thiroedd comin newydd gael eu cofrestru at y dibenion a bennir yn yr arbedion a geir yn erthygl 4(1) o Orchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2386) (Cy.197) (C.88).
[3] Gweler adran 61(1) o Ddeddf 2006 i gael ystyr "awdurdod cenedlaethol priodol" ("appropriate national authority"), y mae ei swyddogaethau yn arferadwy erbyn hyn, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back
[4] O.S. 1966/1471, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/658, 1968/989, 1969/1843, 1980/1195, 1982/210, 1989/2167, 1990/311, 1994/2567 a 2003/994 (Cy.143) ac fel y'i newidiwyd gan O.S. 1991/2684.back
[6] O.S. 1968/989, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1969/1843, 1970/384 a 1990/311.back
[8] Yn ôl erthygl 4(1) o Orchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2386) (Cy.197) (C.88), mae maes sy'n cydymffurfio â'r meini prawf o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i'w gofnodi yn y gofrestr sy'n cael ei chynnal gan awdurdod cofrestru yn unol â Deddf 1965.back