BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 2438 (Cy.202)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072438w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2438 (Cy.202)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'i wneud 14 Awst 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Awst 2007 
  Yn dod i rym 7 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(4B)(b), 44(9) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2007.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Medi 2007 ond bydd y diwygiad a osodir yn erthygl 2 yn effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006.
    
2. Yn y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006[2], yn Erthygl 2 (Dehongli), yn y diffiniad o "hereditament a eithrir" ("excepted hereditament"), hepgorer paragraff (dd).


Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

14 Awst 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Medi 2007 ond bydd y diwygiad yn erthygl 2 yn effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Arderethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 ("Gorchymyn 2006") yn diffinio hereditamentau a eithrir rhag y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a sefydlir gan y Gorchymyn hwnnw.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r diffiniad o hereditamentau a eithrir yn y Gorchymyn 2006 drwy ddileu'r cyfeiriad at eiddo hunan-ddarpar penodol.


Notes:

[1] 1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) Gorchymyn 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[2] O.S. 2006/3345 (Cy.306).back



English version



ISBN 978 0 11 091631 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 10 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072438w.html