BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2496 (Cy.215)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
28 Awst 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
29 Awst 2007 | |
|
Yn dod I rym |
24 Medi 2007[a] | |
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973[1] ac a freiniwyd bellach ynddynt gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Medi 2007[b].
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "y Rheoliad Ewropeaidd" ("the European Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela ac asiantau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd [2];
ystyr "Rheoliadau 2006" ("the 2006 Regulations") yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006[3];
ystyr "samplau rheoli swyddogol" ("official control samples") yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodlen i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003[4].
Ffioedd
3.
—(1) Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd yn eu barn hwy yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—
(a) cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;
(b) archwilio samplau rheoli swyddogol;
(c) prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ch) prosesu dogfennaeth y gymeradwyaeth yn dilyn cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (c);
(d) prosesu cais adnewyddu blynyddol o labordy a gymeradwyir o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o Reoliad Senedd Ewrop;
(dd) archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(e) gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.
(2) Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan —
(a) y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd o ran y gweithgareddau ym mharagraff 2(a) a (b); a
(b) gweithredydd y labordy o ran y gweithgareddau ym mharagraff (2)(c) i (g).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Weinidogion Cymru godi ffioedd am weithgareddau sy'n ofynnol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Rhestrir y gweithgareddau yn rheoliad 3(1).
Mae asesiad rheoliadol llawn o'r effaith a gaiff y Rheoliadau hyn wedi cael ei lunio ac mae wedi ei atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1973 p.51.back
[2]
OJ Rhif L325, 12.12.2003, p.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 dyddiedig 20 Tachwedd 2006.back
[3]
O.S. 2006/1293 (Cy.127).back
[4]
OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12.back
English version
[a]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 2, Fersiwn Saesneg: yn union uwchben y rhaglith dylser dyddiad dod i rym ddarllen: “24 September 2007”;
Tudalen 2, Fersiwn Cymraeg: yn union uwchben y rhaglith dylser dyddiad dod i rym ddarllen, “24 Medi 2007”;
back
[b]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 2, Fersiwn Saesneg: rheoliad 1(3): dylser dyddiad dod i rym ddarllen, “24 September 2007”; a
Tudalen 2, Fersiwn Cymraeg: rheoliad 1(3): dylser dyddiad dod i rym ddarllen, “24 Medi 2007”.
back
ISBN
978 0 11091608 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
11 September 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072496w.html