BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2611 (Cy.222)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
|
Gwnaed |
6 Medi 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
7 Medi 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Hydref 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1].
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[2], cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Hydref 2007.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae i "awdurdod bwyd" yr ystyr sydd i "food authority" yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr "y Rheoliad" ("the Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd[3].
(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad hwnnw.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliad.
Awdurdodau Cymwys
3.
Yr awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad —
(a) o ran Erthyglau 1(4), 15(2), 16(2) a 18(2) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, a
(b) o ran Erthygl 6(3) yw —
(i) pob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth, a
(ii) y tu allan i'r cyfryw ddosbarthau, pob awdurdod bwyd yn ei ardal.
Gorfodi
4.
Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth a phob awdurdod bwyd o fewn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad.
Tramgwyddau a Chosbau
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1(3) (ynghylch nodau masnach etc) ac i'r mesurau trosiannol a geir yn Erthygl 28, mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau'r Rheoliad a bennir ym mharagraff (2) neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol —
(a) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.
(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau.
(2) Dyma'r darpariaethau a bennir—
(a) Erthygl 3 (gofynion cyffredinol ynghylch pob honiad);
(b) Erthygl 4(3) (cyfyngiadau ar honiadau a all gael eu gwneud am ddiodydd alcoholaidd);
(c) Erthygl 6(2) (gofyniad i gyfiawnhau defnyddio honiadau);
(ch) Erthygl 7 (gofynion ar gyfer gwybodaeth faethol);
(d) Erthygl 8(1) (gofynion ar gyfer honiadau maethol);
(dd) Erthygl 9 (gofynion ar gyfer honiadau cymharol);
(e) Erthygl 10(1), (2) a (3) (gofynion ar gyfer honiadau am iechyd);
(f) Erthygl 12 (gwahardd honiadau penodol am iechyd); ac
(ff) Erthygl 14(2) (gofynion ar gyfer honiadau i leihau risg clefydau).
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
6.
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 34 (terfyn amser ar gyfer erlyn);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Rhwystro swyddogion a darparu gwybodaeth etc
7.
—(1) Bydd unrhyw berson sydd —
(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith; neu
(b) heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano,
yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar na fydd yn hwy na thri mis neu i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i'r ddau.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, yn cydymffurfio'n honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1)(b), gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, yn euog o dramgwydd ac yn atebol —
(a) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.
(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;
(3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd
8.
—(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4] o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ôl paragraff (4) o reoliad 41, mewnosoder y paragraff a ganlyn—
"
(5) Nothing in regulation 40 or in Schedule 6 or 8 operates to prohibit or, as the case may be, restrict a claim made in accordance with the conditions of Regulation (EC) 1924/2006 of the European Parliament and of the Council on nutrition and health claims made on foods[5]".
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
6 Medi 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd, fel y'i cywirwyd gan Gorigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t3), "Rheoliad y GE".
2.
Mae'r Rheoliadau—
(a) yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau penodol Rheoliad y GE (rheoliad 3);
(b) yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);
(c) yn darparu ei bod yn dramgwydd, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol a mesurau trosiannol a bennir yn Rheoliad y GE lle y bo'n berthnasol—
(i) i wneud honiadau am faethiad neu iechyd nad ydynt yn gyffredinol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE ac yn benodol sydd yn gamarweiniol neu wneud honiad o fathau gwaharddedig penodol;
(ii) i wneud honiadau am ddiodydd alcoholaidd ac eithrio i'r graddau cyfyngedig iawn a ganiateir gan Reoliad y GE;
(iii) i wneud honiad na ellir ei gyfiawnhau'n wyddonol;
(iv) i fethu â darparu'r wybodaeth faethol a ragnodwyd wrth wneud honiad am iechyd;
(v) i wneud honiad maethol nad yw'n un o'r rhai a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y GE;
(vi) i wneud honiad maethol cymharol nad yw'n cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE;
(vii) i wneud honiad am iechyd nad awdurdodwyd o dan y gweithdrefnau a ddarperir yn Rheoliad y GE ac nad yw'r wybodaeth benodedig gydag ef yn y labelu neu mewn unrhyw ddull arall o'i gyflwyno;
(viii) i wneud honiad am iechyd o fath a waherddir yn benodol gan Reoliad y GE; neu
(ix) yn achos honiadau am iechyd o ran lleihau risg rhag clefyd, i fethu â rhoi gyda'r honiad y datganiad a ragnodir yn Rheoliad y GE (rheoliad 5).
3.
Mae'r Rheoliadau hefyd—
(a) yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ( rheoliad 6);
(b) yn darparu ei bod, yn ddarostyngedig i derfynau penodol, yn dramgwydd i rwystro, methu â rhoi gwybodaeth neu gamarwain yn fwriadol unrhyw un sy'n gweithredu ac yn gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 7); ac
(c) yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ynghylch y meysydd lle y mae gorgyffwrdd rhwng y Rheoliadau hynny a Rheoliad y GE (rheoliad 8).
4.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back
[3]
Mae testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3).back
[4]
O.S. 1996/1499. Cafwyd diwygiadau ir Rheoliadau hyn, ond nid ydynt yn berthnasol.back
[5]
Ceir testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3).back
English version
ISBN
978 0 11 091627 9
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
9 October 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072611w.html