BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007 Rhif 2626 (Cy.223)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072626w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2626 (Cy.223)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

  Wedi'i wneud 7 Medi 2007 
  Yn dod i rym 12.00 ganol dydd ar 8 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar ganol dydd ar 8 Medi 2007.

Diwygio
    
2. Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003[2] drwy hepgor erthygl 3A.


Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru

7 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966 (Cy.211)) i dynnu ohono'r mesurau brys sy'n cynyddu'r cyfnod segur o 6 diwrnod i 20 o ddiwrnodau ac yn datgymhwyso paragraff 8 o Atodlen 1 a pharagraff 13 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â symudiadau penodol mewn grwp meddiannaeth unigol.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back

[2] O.S. 2003/1966 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/179 (Cy.30), O.S. 2006/1036 (Cy.106) ac O.S. 2007/2475 (Cy.211).back



English version



ISBN 978 0 11 091626 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 5 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072626w.html