BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072747w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif . 2747 (Cy.230)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

  Gwnaed 17 Medi 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Medi 2007 
  Yn dod i rym 11 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy[1].

     Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos i'r Gweinidogion yn rhai cysylltiedig.

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 11 Hydref 2007[a].

Diwygio Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005
     2. —(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005[2] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)—

    (3) Yn rheoliad 18(2)(b), yn lle "the seed satisfies", rhodder "the crop satisfies".

    (4) Yn rheoliad 23—

    (5) Yn Rhan I o Atodlen 1—

    (6) Yn Atodlen 5, yng ngholofn (1) o'r tabl, yn y cofnod sy'n dwyn y Rhif 1, ar ôl "EC" mewnosoder ", third country".

    (7) Yn Atodlen 6, ar ôl paragraff 3, mewnosoder—

    (8) Yn Atodlen 10, yn y tabl, ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ar gyfer "third country officially certified CS seed of a listed variety", mewnosoder y rhes ganlynol—

"third country officially certified pre-basic seed of a listed variety Paragraph 3A of Schedule 1"


Diwygio Rheoliadau Hadau Yd (Cymru) 2005
    
3. —(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Yd (Cymru) 2005[4] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)—

    (3) Yn rheoliad 13(3)(a)(i), (5)(c), (d) ac (e)(ii), ar ôl "EC", mewnosoder ", third country".

    (4) Yn rheoliad 20(2)(b)(i) a (ii), yn lle "the seed satisfies", rhodder "the crop satisfies".

    (5) Yn rheoliad 26—

    (6) Yn Rhan I o Atodlen 1—

    (7) Yn Atodlen 5, yng ngholofn (1) o'r tabl, yn y cofnodion sy'n dwyn y Rhif au 1(a) a 3(a), ar ôl "EC" ym mharagraffau 1(a) a 3(a), mewnosoder ", third country".

    (8) Yn Atodlen 6—

    (9) Yn Atodlen 10, yn y tabl, ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ar gyfer "third country officially certified CS seed of a listed variety", mewnosoder y rhesi a ganlyn—

"third country officially certified pre-basic seed of a component used in the production of a listed hybrid variety Paragraph 8A of Schedule 1
third country officially certified pre-basic seed of a listed variety Paragraph 3A of Schedule 1"


Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005
    
4. —(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005[5] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)—

    (3) Yn rheoliad 10(4)(b)(i) ac (c)(i), yn lle "UK, EC or overseas tested", rhodder "UK, EC, third country or overseas tested".

    (4) Yn rheoliad 13(3)(a)(i), (5)(b) ac (c)(ii), ar ôl "EC", mewnosoder ", third country".

    (5) Yn rheoliad 20(2)(b)(i) a (ii), yn lle "the seed satisfies", rhodder "the crop satisfies".

    (6) Yn rheoliad 26—

    (7) Yn Rhan I o Atodlen 1—

    (8) Yn Atodlen 5, yng ngholofn (1) o'r tabl, yn y cofnod sy'n dwyn y Rhif 1(a), ar ôl "EC" mewnosoder ", third country".

    (9) Yn Atodlen 6, ar ôl paragraff 3, mewnosoder—

    (10) Yn Atodlen 10, yn y tabl, ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod "third country officially certified CS seed of a listed variety", mewnosoder y rhes a ganlyn—

"third country officially certified pre-basic seed of a listed variety Paragraph 3A of Schedule 1"


Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004
    
5. —(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004[6] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1)—

    (3) Yn rheoliad 10(4)(b)(i), (c)(i) a (d)(i), yn lle "UK, EC or overseas tested", rhodder "UK, EC, third country or overseas tested".

    (4) Yn rheoliad 13(3)(a)(i), (5)(c) a (d), ar ôl "EC", mewnosoder ", third country".

    (5) Yn rheoliad 19(2)(b)(i) a (ii), yn lle "the seed satisfies", rhodder "the crop satisfies".

    (6) Yn rheoliad 26—

    (7) Yn Rhan I o Atodlen 1—

    (8) Yn Atodlen 5, yng ngholofn (1) o'r tabl, ar ôl "EC" yn y cofnodion sy'n dwyn y Rhif au 1(a) a 3(a), mewnosoder ", third country".

    (9) Yn Atodlen 6—

    (10) Yn Atodlen 10, yn y tabl, ar ôl y cofnod ar gyfer "third country officially certified CS seed of a listed variety", mewnosoder y rhesi a ganlyn—

"third country officially certified pre-basic seed of a component used in the production of a listed hybrid variety Paragraph 8A of Schedule 1
third country officially certified pre-basic seed of a listed variety Paragraph 3A of Schedule 1".


Diwygio Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005
    
6. —(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Llysiau (Wales) 2005[7] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o "the Vegetable Seed Directive" rhodder y diffiniad a ganlyn—

    (3) Yn lle rheoliad 3, rhodder—

    (4) Yn Atodlen 2, yn lle'r cofnodion sy'n dwyn y Rhif au 27 a 28, rhodder—

    (5) Yn Atodlen 4—

    (6) Yn Atodlen 7, yn y tabl, yn lle'r rhesi sy'n dwyn y Rhif au 27 a 28, rhodder y rhesi a ganlyn—

     " 27. sweet corn or popcorn

20 1000
     28. tomato

10 25
     29. turnip

10 25".


    (7) Yn Atodlen 8, yn y pennawd i baragraff 30, yn lle "Official" rhodder "Supplier's".

    (8) Yn Atodlen 10, yn y tabl, ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ar gyfer "standard seed", mewnosoder y rhes a ganlyn—

"sweet corn and popcorn Regulation 3".


Diwygio Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005
    
7. Diwygir Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005[9] fel a ganlyn.

     8. Yn Atodlen 5, yn y tabl ym mharagraff 13—


Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

17 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau a ganlyn:

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Penderfyniad y Cyngor 2005/834/EC, sy'n diwygio Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC (OJ Rhif L 312, 29.11.2005, t. 51). Maent yn gwneud diwygiadau er mwyn trefnu bod rhai hadau cyn-sylfaenol sydd wedi eu hardystio'n swyddogol mewn trydydd gwledydd yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau diwygiedig, gan ganiatáu i hadau o'r fath gael eu marchnata os ydynt yn bodloni gofynion y Rheoliadau hynny (rheoliadau 2(2)(b) a (5), 3(2)(b) a (7), 4(2)(b) a (7) a 5(2)(b) a (7)). Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau ynglyn â labelu hadau o'r fath (rheoliadau 2(4), 3(6), 4(6) a 5(6)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol pellach.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/124/EC, sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ynglyn â marchnata hadau llysiau (OJ Rhif L 339, 6.12.2006, t. 12). Maent hefyd yn gweithredu rhanddirymiad o'r gofyniad i gymhwyso darpariaethau marchnata Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC mewn perthynas â phedair o rywogaethau ac un isrywogaeth a ganiatawyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/321/EC (OJ Rhif L 119, 9.5.2007, t .48). Maent yn diwygio Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005 er mwyn ychwanegu india-corn neu bopgorn at y rhestr o rywogaethau rheoledig, ac yn gwneud mân ddiwygiadau i rai o enwau ac enwau cyffredin rhywogaethau rheoledig eraill (rheoliad 6(3)). Maent hefyd yn gosod safonau ar gyfer india-corn/popgorn o ran purdeb dadansoddol a chynnwys hadau rhywogaethau eraill o blanhigion, yn ogystal â phwysau lotiau a samplau (rheoliad 6(5) a (6)). Maent hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny (rheoliad 6(4) ac (8)) ac i Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) 2002 (rheoliad 8). Mae mân ddiwygiad yn cael ei wneud hefyd i'r olaf o'r Rheoliadau hynny er mwyn newid y math o ddyfais samplu sy'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â phys y maes.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania yn Aelod-wladwriaethau (rheoliadau 2(2)(a), 3(2)(a), 4(2)(a) a 5(2)(a)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wallau sy'n deillio o ddiwygiadau a wnaed gan Reoliadau Hadau (Cymru) (Diwygiadau ar gyfer Cynnal Profion a Threialu etc.) 2007 (rheoliadau 2(3), 3(5), 4(5), 5(5) a 6(7)).

Nid oes asesiad effaith reoleiddiol llawn wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn.


Notes:

[1] 1964 p.14; cafodd adran 16 ei diwygio gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a chan baragraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, gan O.S. 1977/1112 ac adran 2 o Ddeddf Amaeth 1986. Gweler adran 31(1) am ddiffiniad o "the Minister". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 2, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau ag y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, cafodd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo 1978 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[2] O.S. 2005/3037 (Cy.225) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/119 (Cy.9).back

[3] OJ Rhif L 8, 14.1.2003, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 2005/834/EC (OJ Rhif L 312, 29.11.2005, t.51).back

[4] O.S. 2005/3036 (Cy.224), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/119 (Cy.9).back

[5] O.S. 2005/1207 (Cy.79), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/119 (Cy.9).back

[6] O.S. 2004/2881 (Cy.251), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/119 (Cy.9).back

[7] O.S. 2005/3035 (Cy.223), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/119 (Cy.9).back

[8] OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/124/EC (OJ Rhif L 339, 6.12.2006, t. 12).back

[9] O.S. 2005/3038 (Cy.226), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/119 (Cy.9).back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, Fersiwn Saesneg, yn union o dan teitl yr offeryn, dylai’r dyddiad gwneud ddarllen: “17 September 2007”;

Tudalen 3, Fersiwn Saesneg, yn union o dan y dyddiad gwneud, dylai’r dyddiad gosod ddarllen: “18 September 2007”;

Tudalen 3, Fersiwn Saeasneg, rheoliad1, llinell tri: “…on 9 October 2007.”Dylai ddrllen, “…on 11 October 2007.”; a

Tudalen 3, Fersiwn Cymraeg, rheoliad 1, llinell tri: “…ar 9 Hydref 2007.”Dylai ddarllen, “…ar 11 Hydref 2007.”.
back



ISBN 978 0 11 091638 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 15 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072747w.html