BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 2753 (Cy.232)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072753w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2753 (Cy.232)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

  Gwnaed 18 Medi 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Medi 2007 
  Yn dod i rym 15 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 17(1) a (2), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1].

     Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

     Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[2], cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Hydref 2007.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995[3] yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

    (2) Yn rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi)—

Diwygio Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997
     3. —(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997[5] yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

    (2) Yn rheoliad 4 (labelu, hysbysebu a chyflwyno) hepgorer y geiriau "or to a reduction in the sense of hunger or an increase in the sense of satiety".

Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000
     4. —(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000[6] yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") rhodder y diffiniad canlynol—

Diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002
     5. —(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002[10] yn unol â pharagraff (2).

    (2) Ym mharagraff (5) o reoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) yn lle'r geiriau "1 Ionawr 2007" rhodder y geiriau "1 Ionawr 2010".

Diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004
     6. —(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004[11] yn unol â pharagraff (2).

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") rhodder y diffiniad canlynol—


G Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r Rheoliadau a enwir yn y paragraffau canlynol yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995(O.S. 1995/77, fel y'i diwygiwyd, "Rheoliadau 1995") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1609/2006 sy'n awdurdodi rhoi ar y farchnad fformiwla fabanod a seilir ar hydrolysadau o brotein maidd sy'n dod o brotein llaeth buwch am gyfnod o ddwy flynedd (OJ Rhif L299, 28.10.2006, t.9). Maent yn diwygio Rheoliadau 1995 i ddarparu nad ystyrir bod person wedi mynd yn groes i'r darpariaethau sydd yn rheoliad 2 i Reoliadau 1995 neu wedi methu cydymffurfio â hwy os yw'r gwerthiant, a fyddai fel arall wedi ffurfio toriad yn y darpariaethau hynny neu fethiant i gydymffurfio â hwy ac felly'n dramgwydd, yn werthiant o fformiwla babanod sy'n dod o fewn y rhanddirymiad a osodir yn Rheoliad y Comisiwn(EC) Rhif 1609/2006 (rheoliad 2(2)).

    
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997 (O.S. 1997/2182, fel y'i diwygiwyd, "Rheoliadau 1997") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/29/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/8/EC ynghylch labelu, hysbysebu neu gyflwyno bwydydd a fwriedir ar gyfer deietau cyfyngu-ar-ynni er mwyn colli pwysau (OJ Rhif L139, 31.5.2007, t.22). Maent yn diwygio Rheoliadau 1997 i ddarparu ar gyfer tynnu'r gwaharddiad ar werthu bwydydd penodol lle y mae'r labelu, yr hysbysebu neu'r cyflwyno yn cyfeirio at leihad yn yr ystyr o newyn neu gynnydd yn yr ystyr o syrffed bwyd (rheoliad 3(2)).

    
4. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125), fel y'i diwygiwyd, "Rheoliadau 2000") i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 91/321/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a Chyfarwyddeb 1999/21/EC ar fwyd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania (OJ Rhif L362, 20.12.2006, t.94). Maent yn diwygio Rheoliadau 2000 drwy amnewid diffiniad diwygiedig o "y Gyfarwyddeb" (i gymryd ystyriaeth o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC) yn lle'r diffiniad presennol o "y Gyfarwyddeb" yn rheoliad 2 (dehongli) (rheoliad 4(2)).

    
5. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2939 (Cy.280), fel y'i diwygiwyd, "Rheoliadau 2002") i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/26/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2004/6/EC i ymestyn ei gyfnod cymhwyso (OJ Rhif L118, 8.5.2007, t.5). Maent yn diwygio Rheoliadau 2002 i ddarparu na fydd cyfyngiadau penodol sydd yn y Rheoliadau hynny yn gymwys ar gyfer sylweddau penodol tan 1 Ionawr 2010 (rheoliad 5(2)).

    
6. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004 (O.S. 2004/314 (Cy.32), fel y'i diwygiwyd, "Rheoliadau 2004") i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc (OJ Rhif L339, 6.12.2006, t.16). Maent yn diwygio Rheoliadau 2004 drwy amnewid diffiniad diwygiedig o "y Gyfarwyddeb" (fel ei fod bellach yn cyfeirio at Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC) yn lle'r diffiniad presennol o "y Gyfarwyddeb" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 6(2)).

    
7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).back

[2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[3] O.S. 1995/77, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[4] OJ Rhif L299, 28.10.2006, t.9.back

[5] O.S. 1997/2182, y mae diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[6] O.S. 2000/1866 (Cy.125).back

[7] OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29, fel y'i darllenir gyda'r Corigendwm yn OJ Rhif L2, 5.1.2000, t.79.back

[8] OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33.back

[9] OJ Rhif L362, 20.12.2006, t.94.back

[10] O.S. 2002/2939 (Cy.280).back

[11] O.S. 2004/314 (Cy.32).back

[12] OJ Rhif L339, 6.12.2006, t.16.back



English version



ISBN 978 0 11 091628 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 9 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072753w.html