BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 Rhif 2811 (Cy.238)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072811w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2811 (Cy.238)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 25 Medi 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2007 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 132, 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt[1] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 20 Hydref 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004
    
2. Ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004[3] yn lle'r geiriau "Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf" rhodder "Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005
     3. Ym mharagraff 11 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005[4] yn lle'r geiriau "Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol" rhodder "Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007".

Diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005
     4. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005[5] yn y diffiniad o "Rheoliadau 2005" yn lle'r geiriau "Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005" rhodder "Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.".


Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

25 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi yn lle'r cyfeiriadau at Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 gyfeiriadau at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007 ("y Rheoliadau"). Mae'r Rheoliadau yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC ar gydnabod cymwysterau proffesiynol ac yn disodli Cyfarwyddeb flaenorol y Cyngor ynghylch y Systemau Cyffredinol cyntaf, ail a thrydydd ar gydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi yn lle'r cyfeiriad yn Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 gyfeiriad at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2005.


Notes:

[1] 2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[2] 1998 p.30. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[3] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back

[4] O.S. 2005/1818 (Cy.146).back

[5] O.S. 2005/1227 (Cy.85).back



English version



ISBN 978 0 11 091634 7


 © Crown copyright 2007

Prepared 12 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072811w.html