BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2900 (Cy.251)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Gwnaed |
3 Hydref 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
4 Hydref 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Tachwedd 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu dynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt, yn gwneud yn Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
2.
—(1) Diwygier Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006[3] yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y diffiniad o "buddiolwr" ym mharagraff (1), ar ôl "iddo" mewnosoder "neu berson sydd wedi cymryd drosodd ymrwymiadau'r cyfryw berson",
(b) ar ôl paragraff (1), mewnosoder "(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.".
(3) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—
"
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau gyda grwp a ddetholwyd i weithredu strategaeth ddatblygu leol yn unol ag Erthygl 37 o Reoliad y Comisiwn 1974/2006, er mwyn i'r grwp hwnnw wneud taliadau o gymorth ariannol ar ran Gweinidogion Cymru ac er mwyn i'r grwp hwnnw arfer pwerau adennill yn unol â rheoliad 9".
(4) Yn rheoliad 7(2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
"
(dd) darparu adroddiad rheoli yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn 1975/2006; a
(e) penderfynu a fu diffyg cydymffurfiaeth ai peidio."
(5) Yn rheoliad 7(3), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
"
(dd) os yw'n angenrheidiol at ddibenion paragraff (2)—
(i) arolygu a chyfrif da byw ar y tir, a
(ii) ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd neu i'r buddiolwr, neu i unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr hwnnw, drefnu ar gyfer casglu'r da byw hynny, eu rhoi mewn lloc a'u diogelu."
(6) Yn rheoliad 14(3)—
(a) yn is-baragraff (b) ar ôl y geiriau “y telir cymorth ar eu cyfer) mewnosoder "a rheoliad 16(5) (gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd)",
(b) dileer is-baragraff (c),
(c) yn is-baragraff (ch), ar ôl "iddynt" dileer "." a mewnosoder "; a",
(ch) ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—
"
(d) rheoliad 16(6) (Pwerau'r Cynulliad i adennill etc.) o Reoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001[4].".
(7) Mae paragraff (6)(b) yn adnewyddu'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(3)(c) i'r graddau bod parhau i weithredu'r ddarpariaeth honno'n cael ei arbed gan reoliad 14(2).
(8) Ym mharagraff 2 o'r Atodlen, yn lle "1689" rhodder "1698".
(9) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (7), ychwaneger—
"
8.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.
9.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).".
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006
3.
—(1) Diwygier Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006[5] yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
"
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.".
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (10), ychwaneger—
"
11.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.
12.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3343) (Cy.304). Mae'r diwygiadau yn egluro diffiniad "buddiolwr" (yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2006), diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned (rheoliad 2(1) o Reoliadau 2006 a'r Atodlen iddynt), darparu bod y cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned yn gyfeiriadau at y ddeddfwriaeth honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006), darparu bod Gweinidogion Cymru yn cael gwneud taliadau drwy grwpiau lleol (rheoliad 3(3) o Reoliadau 2006), egluro pwerau arolygwyr (rheoliad 7(2) a (3) o Reoliadau 2006) a gwneud mân newidiadau i'r darpariaethau trosiannol (rheoliad 14(3) o Reoliadau 2006).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3342) (Cy.303). Mae'r diwygiadau yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned (rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006 a'r Atodlen iddynt).
Notes:
[1]
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006 p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2006/3343 (Cy.304).back
[4]
O.S. 2001/3806 (Cy. 314)back
[5]
O.S 2006/3342 (Cy.303).back
English version
ISBN
978 0 11 091649 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
26 October 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072900w.html