BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 3002 (Cy. 259)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073002w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3002 (Cy. 259)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2007

  Gwnaed 18 Hydref 2007 
  Yn dod i rym am 4:45p.m. 18 Hydref 2007 

Mae'r Gorchymyn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriad at Benderfyniad y Comisiwn 2005/393/EC ar barthau gwarchod a gwyliadwriaeth mewn perthynas â'r tafod glas a chymhwyso amodau i symudiadau o'r parthau hyn neu i'r parthau hyn[2] fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

     Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[3] ac adrannau 1, 8(1), 17(1) a 35 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[4] ac a freiniwyd bellach ynddynt[5].

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn—

Diwygio
    
2. Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 wedi ei ddiwygio yn unol â'r Atodlen.


Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2007



YR ATODLEN
Erthygl 2


DIWYGIO GORCHYMYN Y TAFOD GLAS (CYMRU) 2003


     1. Yn erthygl 2 o'r diffiniad o "Prif Swyddog Milfeddygol" ("Chief Veterinary Officer") yn lle'r geiriau "Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig" rhodder y geiriau "a benodir gan Weinidogion Cymru".

     2. Hepgorer erthygl 8(2)(c)

     3. Yn is-baragraff 9(1)(ch) yn lle "." ar ddiwedd yr is-baragraff rhodder ";" a mewnosoder is-baragraff newydd (d) fel a ganlyn—

     4. Yn lle erthyglau 10, 11 a 12 rhodder—

     5. Yn lle erthygl 14 rhodder ——



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003, O.S. 2003/326 (Cy.47) ("Gorchymyn 2003"), sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75 sy'n gosod darpariaethau penodol ar reoli a difa'r tafod glas (y dafod las) (OJ Rhif L327, 22.12.2000, t. 74).

Mae paragraff 1 o'r Atodlen yn diwygio'r diffiniad o "Prif Swyddog Milfeddygol".

Mae paragraff 2 o'r Atodlen yn diwygio erthygl 8 o Orchymyn 2003 drwy hepgor y darpariaethau sy'n ymwneud â difa, claddu neu waredu carcasau.

Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn mewnosod erthygl newydd 9(1)(d) ynglyn â phwerau cigydda.

Mae paragraff 4 o'r Atodlen yn rhoi erthyglau newydd 10 i 12B am barthau sydd i'w datgan gan Weinidogion Cymru os cadarnheir bod y tafod glas (y dafod las) mewn mangre yng Nghymru yn lle erthyglau 10 i 12 yng Ngorchymyn 2003.

Mae erthygl 10 newydd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â pharthau rheoli sydd wedi eu canoli o gwmpas man brigo ac iddynt radiws o 20 cilometr. (Diffinnir y term "man brigo" yn erthygl newydd 10(8)). Caiff Gweinidogion Cymru estyn neu leihau maint parth rheolaeth. Gwaherddir symud anifeiliaid i fangre neu o fangre mewn parth dan reolaeth ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.

Mae erthygl newydd 11 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â pharthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth a ddatgenir gan Weinidogion Cymru. Gwaherddir symud anifeiliaid o barth gwarchod neu o barth gwyliadwriaeth ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.

Mae erthygl 12 newydd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â phwerau arolygwyr mewn parthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth.

Mae erthygl 12A newydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddatgan parthau rheolaeth, gwarchod neu wyliadwriaeth os bydd y tafod glas (y dafod las) yn brigo yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Mae erthygl 12B newydd yn cynnwys darpariaethau am ddatgan parthau.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.


Notes:

[1] 1972, p.68.back

[2] OJ L 130, 24.5.2005, t.22, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/28/EC, OJ L8, 13.1.2007, t.51.back

[3] Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddol 2006 (p.51).back

[4] 1981, p.22.back

[5] Trosglwyddwyd swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back



English version



ISBN 978 0 11 091652 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 29 October 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073002w.html