BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3070 (Cy.264)
ANIFEILIAID, CYMRU
LLES ANIFEILIAID
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (Wales)
|
Gwnaed |
23 Hydref 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
27 Medi 2007 | |
|
Yn dod i rym |
24 Hydref 2007 | |
Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006[1], ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau hynny.
Yn unol ag adran 12(6) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori fel yr ystyrient yn briodol â'r personau hynny yr ymddangosai iddynt oedd yn cynrychioli buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.
Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru; ac maent yn dod i rym ar 24 Hydref 2007.
Diffiniadau a dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro;
ystyr "iâr ddodwy" ("laying hen") yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;
ystyr "llaesodr" ("litter"), mewn perthynas â ieir dodwy, yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n galluogi'r ieir i ddiwallu eu hanghenion etholegol;
ystyr "lle y gellir ei ddefnyddio" ("usable area") yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, nad yw'n cynnwys y lle a gymerir gan nyth, sydd â'i led yn 30 cm o leiaf a goleddf ei lawr heb fod yn fwy na 14% ac sy'n 45 cm o uchder o leiaf;
ystyr "llo" ("calf") yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;
ystyr "mochyn" ("pig") yw anifail o'r rywogaeth y mochyn o unrhyw oedran a gedwir ar gyfer bridio neu besgi;
ystyr "nyth" ("nest") yw lle ar wahân ar gyfer dodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r adar, ar gyfer iâr unigol neu grwp o ieir;
mae i'r ymadrodd "person sy'n gyfrifol" am anifail yr ystyr a roddir i "person responsible" yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
(2) Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Cyfarwyddebau canlynol, yr ystyr sydd iddo yn y Cyfarwyddebau hynny—
(a) mewn perthynas â moch, Cyfarwyddebau 91/630/EEC[2], 2001/88/EC[3] a 2001/93/EC[4];
(b) mewn perthynas â ieir dodwy, Cyfarwyddeb 99/74/EC[5]; ac
(c) mewn perthynas â lloi, Cyfarwyddebau 91/629/EEC[6], 97/2/EC[7] a 97/182/EC[8].
(3) Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn rheoliad 4 neu Atodlen 1, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb 98/58/EC[9], yr un ystyr sydd iddo at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.
Anifeiliaid y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
3.
—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid a ffermir yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "anifail a ffermir" ("farmed animal") yw anifail a fridiwyd neu a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond heb gynnwys—
(a) pysgod, ymlusgiaid neu amffibiaid;
(b) unrhyw anifail tra bo mewn cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad neu weithgaredd diwylliannol neu chwaraeol, neu anifail a fwriedir yn unig i'w ddefnyddio ar gyfer hynny;
(c) anifail arbrofol neu anifail labordy; neu
(ch) anifail sy'n byw yn y gwyllt.
Dyletswyddau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir
4.
—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifail yn cael ei fridio neu ei gadw odanynt yn cydymffurfio ag Atodlen 1.
(2) Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (1), rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir roi sylw i'w—
(a) rhywogaeth;
(b) gradd ei datblygiad;
(c) ei addasiad a'i ddofiad; ac
(ch) ei anghenion seicolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.
Dyletswyddau ychwanegol ar bersonau sy'n gyfrifol am ddofednod, ieir dodwy, lloi, gwartheg, moch neu gwningod
5.
—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am—
(a) dofednod (ac eithrio'r rheini a gedwir yn y systemau cyfeirir atynt yn Atodlenni 2 i 4) a gedwir mewn adeilad sicrhau y cânt eu cadw ar laesodr, neu y gallant bob amser fynd at laesodr sydd wedi ei gynnal yn dda, neu fan sydd wedi ei ddraenio'n dda ar gyfer gorffwys;
(b) ieir dodwy a gedwir mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir gydymffurfio ag Atodlenni 2, 3, 4 a 5, fel y bo'n gymwys;
(c) lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi gydymffurfio ag Atodlen 6;
(ch) gwartheg gydymffurfio ag Atodlen 7;
(d) moch, yn ddarostyngedig i baragraff (2), gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 8 a phan fo'n gymwys, â gofynion Rhannau 3, 4, 5 a 6 o Atodlen 8; neu
(dd) cwningod gydymffurfio ag Atodlen 9.
(2) Mae paragraffau 12, 28, 29 a 30 o Atodlen 8 yn gymwys i bob daliad yr adeiledir o'r newydd, yr ailadeiledir neu y dechreuir ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob daliad arall nid yw'r paragraffau hynny yn gymwys tan 1 Ionawr 2013.
(3) Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn effeithiol.
Codau Ymarfer
6.
—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir —
(a) peidio â gofalu am yr anifail onid yw'n gyfarwydd â'r cod ymarfer perthnasol a bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a
(b) cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw person a gyflogir ganddo, neu a gymerir i weithio ganddo, yn gofalu am yr anifail oni bai bod y person arall hwnnw—
(i) yn gyfarwydd ag unrhyw god ymarfer perthnasol;
(ii) bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a
(iii) ei fod wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y cod hwnnw.
(2) Yn yr adran hon, ystyr "cod ymarfer perthnasol" ("relevant code of practice") yw cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu god ymarfer statudol a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968[10] mewn perthynas â'r rhywogaeth benodol o anifeiliaid a ffermir y mae'r person yn gofalu amdanynt.
Tramgwyddau
7.
Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon —
(a) yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â dyletswydd yn rheoliad 4, 5 neu 6;
(b) yn rhoi unrhyw eitem mewn cofnod neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad neu'n rhoi gwybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu
(c) yn achosi neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod.
Erlyniadau
8.
—(1) Caiff awdurdod lleol ddwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd mai hwy, ac nid yr awdurdod lleol, fydd yn dwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol.
Cosbau
9.
—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 7 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—
(a) i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;
(b) i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol; neu
(c) i'r cyfnod o garchar y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn ogystal â'r ddirwy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).
(2) Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003[11], rhaid deall y cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at 51 wythnos fel cyfeiriad at 6 mis.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2007
ATODLEN 1Rheoliad 4
Amodau cyffredinol y mae'n rhaid cadw anifeiliaid a ffermir odanynt
Staffio
1.
Rhaid i anifeiliaid gael gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.
Arolygu
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio unwaith y dydd o leiaf, i wirio eu bod mewn cyflwr o lesiant.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle nad yw eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddefaint.
(3) Yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn—
(a) yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;
(b) yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; ac
(c) yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8.
3.
Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid bod digon o oleuadau (naill ai sefydlog neu symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.
4.
Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill ai â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.
5.
Rhaid gofalu yn briodol ac yn ddi-oed am unrhyw anifeiliaid sy'n ymddangos yn sâl neu wedi eu hanafu; pan nad ydynt yn ymateb i'r cyfryw ofal, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted ag y bo modd.
6.
Pan fo'n angenrheidiol, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas, gyda gwasarn cysurus a sych pan fo'n briodol.
Cadw cofnodion
7.
Rhaid cadw cofnod —
(a) o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir i anifeiliaid; a
(b) o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a gyflawnir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —
(i) yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;
(ii) yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; neu
(iii) yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8; neu
(iv) mewn unrhyw achos arall, paragraff 2(1) neu (2) o'r Atodlen hon.
8.
Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, a rhaid ei roi ar gael i arolygydd os gofynnir amdano.
Rhyddid i symud
9.
Gan roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol, rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
10.
Pan fo anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid caniatáu lle priodol iddynt ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.
Adeiladau a llety
11.
Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad ag ef, beidio â bod yn niweidiol i'r anifeiliaid a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.
12.
Rhaid i'r llety a'r ffitiadau a ddefnyddir i ddiogelu'r anifeiliaid fod wedi eu hadeiladu a'u cynnal fel nad oes unrhyw ymylon nac allwthiadau miniog sy'n debygol o achosi anaf i anifail.
13.
Rhaid cadw cylchrediad yr aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol yr aer a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i'r anifeiliaid.
14.
Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.
15.
Pan nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo, rhaid darparu golau artiffisial priodol.
16.
Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys rhag olau artiffisial.
Anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau
17.
Pan na chedwir anifeiliaid mewn adeiladau, rhaid eu hamddiffyn pan fo angen a phan fo'n bosibl rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd, a rhaid iddynt gael cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.
Offer awtomatig neu fecanyddol
18.
Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.
19.
Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.
20.
Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —
(a) rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu'r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i'r system fethu; a
(b) rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.
21.
Rhaid i'r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.
Bwyd anifeiliaid, dwr a sylweddau eraill
22.
Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachusol sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn cyflenwad digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i ddiwallu eu hanghenion maethol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.
23.
Rhaid peidio â darparu i anifeiliaid fwyd neu hylif sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a allai beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt, a rhaid darparu bwyd a hylif ar eu cyfer mewn modd nad yw'n peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
24.
Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fo milfeddyg wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.
25.
Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad addas o ddwr a chael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres bob dydd, neu allu diwallu ei angen i yfed digon o hylifau trwy ddulliau eraill.
26.
Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.
27.
—(1) Ni chaniateir rhoi i anifeiliaid unrhyw sylwedd arall, ac eithrio rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffylactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol, oni ddangoswyd mewn astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu trwy ymarfer sefydledig nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.
(2) Yn is-baragraff (1), mae i'r ymadrodd "triniaeth söotechnegol" yr ystyr a roddir i "zootechnical treatment" yn Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC[12] ar wahardd defnyddio sylweddau penodol sy'n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio da byw.
Gweithdrefnau bridio
28.
—(1) Rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint minimal neu fyrhoedlog, neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn achosi anaf parhaol.
29.
Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.
Llonyddu â thrydan
30.
Rhaid peidio â defnyddio cerrynt trydan ar unrhyw anifail er mwyn ei lonyddu.
ATODLEN 2Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw ieir dodwy mewn systemau di-gawell
1.
Rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
2.
Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy—
(a) naill ai bwydwr llinol sy'n rhoi o leiaf 10cm i bob aderyn neu fwydwr crwn sy'n rhoi o leiaf 4cm i bob aderyn;
(b) naill ai cafn yfed di-dor sy'n rhoi o leiaf 2.5cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi o leiaf 1cm i bob iâr;
(c) o leiaf un nyth i bob saith iâr ac, os defnyddir nythod grwp, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;
(ch) clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n darparu o leiaf 15cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20cm o leiaf; a
(d) o leiaf 250 cm2 o arwynebedd o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros un traean o leiaf o arwynebedd y llawr.
3.
Pan fo'r system yn defnyddio pigynnau dwr neu gwpanau, rhaid cael o leiaf un pigyn dwr neu gwpan i bob 10 iâr.
4.
Pan fo gan y system fannau yfed sydd wedi eu plymio, rhaid cael o leiaf ddau gwpan neu ddau bigyn dwr o fewn cyrraedd i bob iâr.
5.
Rhaid i loriau'r gosodiadau fod wedi eu hadeiladu fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau iâr sy'n wynebu ymlaen, ar bob troed i bob iâr.
6.
Os defnyddir systemau lle y gall yr ieir dodwy symud yn rhydd rhwng gwahanol lefelau —
(a) rhaid peidio â chael mwy na phedair lefel;
(b) rhaid i'r uchder rhwng y lefelau fod yn 45 cm o leiaf;
(c) rhaid i'r cyfleusterau yfed a bwydo gael eu dosbarthu mewn ffordd sy'n golygu bod cyfle cyfartal i bob iâr fynd atynt; ac
(ch) rhaid i'r lefelau gael eu trefnu i atal ysgarthion rhag cwympo ar y lefelau islaw.
7.
Os gall ieir dodwy fynd i libart agored —
(a) rhaid cael nifer o dyllau, o leiaf 35 cm o uchder a 40 cm o led, yn arwain yn uniongyrchol i'r man allanol ac yn ymestyn am y cyfan o hyd yr adeilad; a rhaid sicrhau beth bynnag bod cyfanswm o 2 m o agoriad ar gael ar gyfer pob grwp o 1,000 o ieir; a
(b) rhaid i libartau agored —
(i) fod ag arwynebedd sy'n briodol ar gyfer y dwysedd stocio a natur y tir, er mwyn atal unrhyw halogi; a
(ii) wedi'u cyfarparu â chysgod rhag tywydd drwg ac ysglyfaethwyr ac, os oes eu hangen, â chafnau yfed priodol.
8.
Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob m2 o le y gellir ei ddefnyddio.
9.
Os oedd y sefydliad ar 3 Awst 1999 yn gweithredu system lle'r oedd y lle y gellid ei ddefnyddio yn cyfateb i'r arwynebedd tir a oedd ar gael, a'r sefydliad yn dal i weithredu'r system honno ar 25 Mehefin 2002, awdurdodir dwysedd stocio o ddim mwy na 12 iâr am bob m2 tan 31 Rhagfyr 2011.
ATODLEN 3Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw ieir dodwy mewn cewyll confensiynol
1.
Rhaid i bob system cewyll confensiynol (heb eu gwella) gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
2.
Rhaid i systemau cewyll gael o leiaf 550 cm² i bob iâr, o arwynebedd cawell a fesurir mewn plân llorweddol ac y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad, sef yn benodol, heb gynnwys platiau ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff, sy'n tueddu i gyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael, oni osodir hwy heb gyfyngu ar yr arwynebedd y gall yr ieir ei ddefnyddio.
3.
Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad a rhaid i'w hyd fod o leiaf yn lluoswm 10 cm a nifer yr ieir sydd yn y cawell.
4.
—(1) Oni ddarperir pigynnau yfed neu gwpanau yfed rhaid i bob cawell gael sianel yfed ddi-dor o'r un hyd â'r cafn bwydo y cyfeirir ato ym mharagraff 3.
(2) Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell.
5.
Rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt; cyfrifir yr arwynebedd trwy luosi 550 cm² â nifer yr adar a gedwir yn y cawell.
6.
—(1) Rhaid i loriau'r cewyll fod wedi ei hadeiladu fel eu bod yn cynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr.
(2) Rhaid i oleddf y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal a rhaid iddo beidio â bod yn fwy na 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr.
7.
Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.
8.
Ni chaniateir i unrhyw berson adeiladu neu ddechrau defnyddio am y tro cyntaf unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon ar gyfer cadw ieir dodwy.
9.
Ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012, ni chaniateir i unrhyw berson gadw ieir dodwy mewn unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon.
ATODLEN 4Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw ieir dodwy mewn cewyll gwell
1.
Rhaid i'r holl ieir dodwy nas cedwir mewn system ddi-gawell y cyfeirir ati yn Atodlen 2 neu mewn system cewyll y cyfeirir ati yn Atodlen 3 gael eu cadw mewn system cewyll gwell sy'n cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
2.
Rhaid i ieir dodwy gael—
(a) o leiaf 750 cm² o arwynebedd cawell i bob iâr, y mae'n rhaid i 600 cm² ohono fod yn arwynebedd y gellir ei ddefnyddio; rhaid i uchder y cawell heblaw'r uchder uwchben yr arwynebedd y gellir ei ddefnyddio, fod yn 20 cm o leiaf ym mhob pwynt, a rhaid i'r cyfanswm arwynebedd lleiaf mewn unrhyw gawell fod yn 2000 cm2;
(b) mynediad i nyth;
(c) llaesodr fel bod modd pigo a chrafu;
(ch) clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.
3.
Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad ac sydd â'i hyd o leiaf yn lluoswm 12 cm a nifer yr ieir yn y cawell.
4.
Rhaid i bob cawell gael system yfed sy'n briodol ar gyfer maint y grwp; os darperir pigynnau dwr, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob iâr.
5.
Er mwyn hwyluso archwilio, gosod a diboblogi'r ieir rhaid cael ale o 90 cm o led o leiaf rhwng haenau o gewyll a rhaid caniatáu gofod o 35 cm o leiaf rhwng llawr yr adeilad a'r haen isaf o gewyll.
6.
Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.
ATODLEN 5Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i bob system y cedwir ieir dodwy ynddi
1.
Rhaid i bob iâr gael ei harchwilio gan y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol amdanynt o leiaf unwaith y dydd.
2.
Ym mhob system y cedwir ieir dodwy ynddi—
(a) rhaid cadw lefel y swn mor isel ag y bo modd;
(b) rhaid osgoi swn cyson neu sydyn; ac
(c) rhaid i wyntyllau awyru, peiriannau bwydo ac offer arall gael eu hadeiladu, eu lleoli, eu gweithredu a'u cynnal mewn ffordd sy'n peri iddynt wneud cyn lleied o swn ag y bo modd.
3.
—(1) Rhaid cael lefelau golau ym mhob adeilad sy'n ddigonol i ganiatáu i'r ieir weld ei gilydd a chael eu gweld yn eglur, ymchwilio i'w hamgylchoedd yn weledol a dangos lefelau normal o weithgarwch.
(2) Os oes goleuni naturiol, rhaid trefnu'r agoriadau goleuni fel bod y goleuni'n cael ei wasgaru'n gyfartal yn y llety.
(3) Ar ôl y dyddiau cyntaf o ymgyfarwyddo, rhaid i'r gyfundrefn oleuo fod yn gyfryw ag i atal problemau iechyd ac ymddygiad, ac felly rhaid iddi ddilyn rhythm 24-awr a chynnwys cyfnod digonol o dywyllwch di-dor sy'n parhau, yn ddynodol, am oddeutu traean o'r diwrnod.
(4) Os oes modd, dylid darparu cyfnod digonol o lwydoleuo, pan fo'r golau yn cael ei bylu er mwyn i'r ieir setlo heb aflonyddwch nac anaf.
4.
—(1) Rhaid i'r rhannau hynny o'r adeiladau, offer neu lestri sy'n dod i gysylltiad â'r ieir gael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr ac yn rheolaidd a phob tro y diboblogir beth bynnag a chyn dod â llwyth newydd o ieir i mewn.
(2) Tra bo ieir yn y cewyll—
(a) rhaid i'r arwynebau a'r holl offer gael eu cadw'n foddhaol o lân;
(b) rhaid symud ysgarthion ymaith; ac
(c) rhaid symud ieir marw oddi yno bob dydd.
5.
Rhaid cael cyfarpar addas yn y cewyll i atal yr ieir rhag dianc.
6.
Mewn unrhyw lety sy'n cynnwys dwy neu ragor o haenau o gewyll rhaid cael dyfeisiau, neu gymryd mesurau priodol, i ganiatáu archwilio pob haen yn ddidrafferth ac i hwyluso symud ieir oddi yno.
7.
Rhaid i ddyluniad a dimensiynau drws y cawell fod yn gyfryw ag i ganiatáu symud iâr lawndwf oddi yno heb iddi ddioddef yn ddiangen na chael ei niweidio.
ATODLEN 6Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw lloi sy'n cael eu caethiwo ar gyfer eu magu a'u pesgi
Llety
1.
—(1) Rhaid peidio â chaethiwo unrhyw lo mewn côr neu gorlan unigol ar ôl wyth wythnos oed oni fydd milfeddyg yn ardystio bod ei iechyd neu ei ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ynysu er mwyn iddo gael triniaeth.
(2) Rhaid i led unrhyw gôr neu gorlan unigol ar gyfer llo fod o leiaf yn hafal i uchder y llo wrth ei war, a fesurir ar ei sefyll, a rhaid i'r hyd fod o leiaf yn hafal i hyd corff y llo, a fesurir o flaen y trwyn hyd at ben cynffonog y tuber ischii (asgwrn y llosgwrn), wedi'u lluosi â 1.1.
(3) Rhaid i gorau neu gorlannau unigol ar gyfer lloi (ac eithrio y rhai sy'n ynysu anifeiliaid sâl) gael waliau trydyllog sy'n caniatáu i'r lloi gael cysylltiad uniongyrchol, yn weledol a thrwy gyffwrdd.
(4) Ar gyfer lloi a gedwir mewn grwpiau, y lwfans gofod dirwystr y mae'n rhaid iddo fod ar gael ar gyfer pob llo yw —
(a) o leiaf 1.5 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw llai na 150 kg;
(b) o leiaf 2 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 150 kg neu fwy ond llai na 200 kg; ac
(c) o leiaf 3 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 200kg neu fwy.
(5) Rhaid i bob llo allu sefyll, troi o amgylch, gorwedd, gorffwyso a thacluso'i hun heb rwystr.
(6) Rhaid i bob llo a gedwir ar ddaliad y cedwir dau neu fwy o loi arno allu gweld o leiaf un llo arall.
(7) Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys i unrhyw lo a gedwir wedi ei ynysu ar ddaliad ar gyngor milfeddygol, neu yn unol ag is-baragraff (1).
(8) At ddibenion cyfrifo nifer y lloi a gedwir ar ddaliad er mwyn penderfynu a yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw lo a gedwir wedi'i ynysu ar y daliad hwnnw ar gyngor milfeddygol neu yn unol ag is-baragraff (1).
Archwilio
2.
Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad gael ei archwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf ddwywaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
3.
Rhaid i loi a gedwir y tu allan gael eu harchwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
Tenynnau
4.
—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am lo roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno, ac eithrio lloi a gedwir mewn adeilad mewn grwp y caniateir rhoi tennyn arnynt am gyfnod nad yw'n hwy nag awr tra'n eu bwydo â llaeth neu amnewidyn llaeth.
(2) Pan ddefnyddir tenynnau yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â pheri poen nac anaf i'r lloi a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(3) Rhaid i bob tennyn fod wedi ei ddylunio i osgoi'r risg o dagu neu achosi poen neu anaf ac i ganiatáu i'r llo orwedd, gorffwys, sefyll a thacluso'i hun heb rwystr.
Adeiladau â golau artiffisial
5.
Pan gedwir lloi mewn adeilad â golau artiffisial, yna, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol a geir fel arfer rhwng 9.00 am a 5.00 pm.
Glanhau a diheintio
6.
—(1) Rhaid i adeiladau, corau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer lloi gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael eu symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
Lloriau
7.
Pan gedwir lloi mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod —
(a) yn llyfn heb fod yn llithrig;
(b) wedi'u dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r lloi wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;
(c) yn addas ar gyfer maint a phwysau'r lloi; ac
(ch) yn ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.
Gwasarn a man gorwedd
8.
—(1) Rhaid darparu gwasarn priodol ar gyfer pob llo.
(2) Rhaid i bob llo gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd yn lân, yn gysurus ac wedi'i draenio'n ddigonol ac nad yw'n effeithio'n andwyol ar y lloi.
(3) Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad a lloi a gedwir mewn cytiau neu adeileddau dros dro gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n cael ei gynnal yn dda â gwasarn sych.
Cynlaeth buchol
9.
Rhaid i bob llo gael cynlaeth buchol cyn gynted â phosibl ar ôl ei eni a beth bynnag o fewn y chwe awr gyntaf o'i fywyd.
Gofynion dietegol ychwanegol
10.
—(1) Rhaid darparu bwyd sy'n cynnwys digon o haearn i sicrhau lefel hemoglobin gwaed o 4.5 mmol/litr o leiaf ar gyfer pob llo.
(2) Rhaid darparu lleiafswm o ddogn dyddiol o fwyd ffibraidd ar gyfer pob llo dros 2 wythnos oed, gan gynyddu'r swmp yn unol â thyfiant y llo o leiafswm o 100g pan yw'n 2 wythnos oed hyd at leiafswm o 250g pan yw'n 20 wythnos oed.
Safnrwymo
11.
Rhaid peidio â safnrwymo lloi.
Bwydo
12.
—(1) Rhaid bwydo pob llo o leiaf ddwywaith y dydd.
(2) Pan letyir lloi mewn grwp heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy gan system fwydo awtomatig, rhaid i bob llo gael mynd at fwyd ar yr un adeg â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.
Dwr yfed
13.
—(1) Rhaid darparu cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres ar gyfer pob llo bob dydd.
(2) Rhaid darparu dwr ffres ar gyfer lloi bob amser—
(a) mewn tywydd poeth; neu
(b) pan fyddant yn sâl.
ATODLEN 7Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw gwartheg
1.
Pan gedwir gwartheg godro sy'n llaetha neu'n bwrw lloi mewn adeilad, rhaid iddynt allu mynd bob amser i fan gorwedd sydd wedi'i ddraenio'n dda ac sy'n cynnwys gwasarn.
2.
Rhaid i gorlan neu fuarth mewn adeilad a ddefnyddir ar gyfer gwartheg sy'n bwrw lloi fod o faint sy'n caniatáu i berson ofalu am y gwartheg
3.
Rhaid i wartheg sy'n bwrw lloi ac a gedwir mewn adeilad gael eu cadw ar wahân i dda byw eraill, ac eithrio gwartheg sy'n bwrw lloi.
ATODLEN 8Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw moch
RHAN
1
Dehongli
1.
Yn yr Atodlen hon—
ystyr "baedd" ("boar") yw mochyn gwryw ar ôl ei flaenaeddfedrwydd, a fwriedir ar gyfer bridio;
ystyr "banwes" ("gilt") yw mochyn benyw a fwriedir ar gyfer bridio ar ôl ei blaenaeddfedrwydd a chyn porchella;
ystyr "hwch" ("sow") yw mochyn benyw ar ôl iddi borchella y tro cyntaf;
ystyr "mochyn magu" ("rearing pig") yw mochyn o ddeg wythnos hyd at ladd neu serfio;
ystyr "porchell" ("piglet") yw mochyn o'i enedigaeth hyd at ei ddiddyfnu; ac
ystyr "porchell diddwyn" ("weaner") yw mochyn o'i ddiddyfnu hyd at ddeng wythnos oed.
RHAN
2
Amodau ychwanegol cyffredinol
Archwilio
2.
Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan y perchennog neu berson arall sy'n gyfrifol am y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
Tenynnau
3.
Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am fochyn roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno ac eithrio pan fo o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.
4.
—(1) Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 3, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(2) Rhaid i bob tennyn fod yn ddigon hir i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 5(2)(a) a (d) a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.
Llety
5.
—(1) Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.
(2) Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —
(a) sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;
(b) cael lle y gall orffwyso ynddo sy'n lân, yn gysurus ac wedi ei ddraenio'n ddigonol;
(c) gweld moch eraill, ac eithrio—
(i) pan fo'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol; neu
(ii) yn ystod yr wythnos cyn yr amser porchella disgwyliedig ac yn ystod porchella, pan ganiateir cadw hychod a banwesod o olwg moch eraill;
(ch) cynnal tymheredd cysurus; a
(d) cael digon o le fel y gall yr holl anifeiliaid orwedd ar yr un pryd.
6.
—(1) Rhaid i ddimensiynau unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi ei sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mesurir hyd y mochyn o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bo'n sefyll â'i gefn yn syth.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn benyw am y cyfnod sy'n cychwyn saith diwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi borchella ac yn diweddu pan fydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan—
(a) tra bo o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;
(b) at ddibenion serfio, ffrwythloni artiffisial neu gasglu semen;
(c) tra bo'n cael ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;
(ch) at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;
(d) tra bo'i lety yn cael ei lanhau; neu
(dd) tra bo'n aros i'w lwytho ar gyfer ei gludo,
ar yr amod nad yw'r cyfnod y cedwir y mochyn felly yn hwy nag y bo'i angen at y diben hwnnw.
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd i mewn iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i mewn i'r cyfryw gôr neu gorlan o gôr neu gorlan y cedwir y mochyn ynddo heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.
Adeiladau â golau artiffisial
7.
Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau o ddwyster 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1.
Atal ymladd
8.
—(1) Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.
(2) Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu gwahanu oddi wrth y grwp.
Glanhau a diheintio
9.
—(1) Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
Gwasarn
10.
Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.
Lloriau
11.
Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau—
(a) fod yn llyfn heb fod yn llithrig;
(b) gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;
(c) fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac
(ch) os na ddarperir llaesodr, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.
12.
—(1) Pan ddefnyddir lloriau estyll concrit ar gyfer moch a gedwir mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn —
(a) 11 mm ar gyfer perchyll;
(b) 14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;
(c) 18 mm ar gyfer moch magu; ac
(ch) 20 mm ar gyfer banwesod ar ôl eu serfio a hychod.
(2) Rhaid i led isaf yr estyll fod yn—
(a) 50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn; a
(b) 80 mm ar gyfer moch magu, banwesod ar ôl serfio a hychod.
Bwydo
13.
—(1) Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.
(2) Pan letyir grwp o foch heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy trwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid yn unigol, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.
Dwr yfed
14.
Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.
Gwella'r amgylchedd
15.
Er mwyn galluogi gweithgarwch chwilota a thrin pethau yn briodol, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad ydynt yn andwyol i iechyd yr anifeiliaid.
Gwahardd defnyddio'r system blwch-chwysu
16.
Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd lle y cynhelir tymereddau a lleithder uchel (a adwaenir fel y "system blwch-chwysu").
Lefelau swn
17.
Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle y maent yn agored i swn cyson neu sydyn.
18.
Rhaid osgoi lefelau swn uwchlaw 85 dBA yn y rhan o unrhyw adeilad lle y cedwir moch.
RHAN
3
Baeddod
19.
Rhaid lleoli ac adeiladu corlannau baeddod fel y gall y baedd droi o amgylch a chlywed, gweld ac arogli moch eraill, a rhaid iddynt gynnwys mannau gorffwys glân.
20.
Rhaid i'r man gorffwys fod yn sych ac yn gysurus.
21.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i arwynebedd dirwystr lleiaf y llawr ar gyfer baedd fod yn 6 m2.
(2) Pan ddefnyddir corlannau baeddod hefyd ar gyfer serfio naturiol, rhaid i arwynebedd y llawr fod yn 10m2 o leiaf a rhaid iddo fod yn rhydd rhag unrhyw rwystrau.
RHAN
4
Hychod a Banwesod
22.
Rhaid rhoi triniaeth i hychod torrog a banwesod, os bydd angen, rhag parasitiaid allanol a mewnol.
Porchella
23.
Rhaid glanhau hychod torrog a banwesod yn drylwyr cyn eu rhoi mewn cratiau porchella.
24.
Yn yr wythnos cyn yr adeg y disgwylir iddynt borchella rhaid rhoi digon o ddeunydd nythu addas i hychod a banwesod onid yw hynny'n annichonadwy yn dechnegol oherwydd y system slyri a ddefnyddir.
25.
Yn ystod y porchella, rhaid cael lle dirwystr y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso porchella yn naturiol neu gyda chymorth.
26.
Mewn corlannau porchella lle cedwir hychod neu fanwesod yn rhydd, rhaid cael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau porchella.
Lletya mewn grwpiau
27.
Rhaid cadw hychod a banwesod mewn grwpiau ac eithrio yn ystod y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod porchella disgwyliedig a'r diwrnod y cwblheir diddyfnu'r perchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll sy'n cael eu maethu).
28.
Rhaid i hyd ochrau'r gorlan lle y cedwir y grwp fod yn fwy na 2.8 m, ac eithrio pan fo'r grwp yn cynnwys chwe unigolyn neu lai, ac os felly rhaid i hyd ochrau'r gorlan beidio â bod yn llai na 2.4 m.
29.
Pan gedwir banwesod a/neu hychod mewn grwpiau, rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch, yn eu trefn, fod yn 1.64 m2 o leiaf a 2.25 m2 o leiaf. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o chwe unigolyn neu lai, rhaid cynyddu yr arwynebedd llawr dirwystr 10% . Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o 40 neu ragor o unigolion, caniateir lleihau yr arwynebedd llawr dirwystr 10% .
30.
Ar gyfer banwesod ar ôl serfio a hychod torrog, rhaid i ran o'r arwynebedd sy'n ofynnol o dan baragraff 29, ac yn hafal i 0.95 m2 o leiaf am bob banwes ac 1.3 m2 o leiaf am bob hwch, fod yn llawr solet di-dor sydd ag uchafswm o 15% ohono wedi ei neilltuo ar gyfer agoriadau draenio.
31.
Ar ddaliadau o 10 hwch neu lai, caniateir cadw hychod a banwesod yn unigol, ar yr amod bod eu llety yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 5 a 6 o'r Atodlen hon.
32.
Yn ychwanegol at ofynion paragraff 13 o'r Atodlen hon, rhaid i hychod a banwesod gael eu bwydo trwy ddefnyddio system sy'n sicrhau y gall pob unigolyn gael digon o fwyd hyd yn oed pan fo cystadleuwyr am y bwyd yn bresennol.
33.
Rhaid rhoi cyflenwad digonol o swmpfwyd neu fwyd ffibr uchel yn ogystal â bwyd ynni uchel i bob hwch dorrog hesb a banwes, i fodloni eu chwant bwyd a'u hangen i gnoi.
RHAN
5
Perchyll
34.
Pan ddefnyddir system crât porchella, rhaid darparu ffynhonnell gwres a man gorwedd solet, sych a chysurus i'r perchyll, i ffwrdd oddi wrth yr hwch lle gall pob un ohonynt orffwys ar yr un pryd.
35.
Rhaid i ran o arwynebedd y llawr lle cedwir y perchyll, ac sy'n ddigon mawr i ganiatáu i'r anifeiliaid orffwys gyda'i gilydd ar yr un pryd, fod yn solet neu wedi ei gorchuddio â mat neu o dan laesodr gwellt neu ddeunydd addas arall.
36.
Pan ddefnyddir crât porchella, rhaid i'r perchyll gael digon o le i'w galluogi i sugno yn ddidrafferth.
37.
Yn ddarostyngedig i baragraff 38, rhaid peidio â diddyfnu perchyll oddi wrth yr hwch pan fyddant yn iau nag 28 diwrnod oed oni fyddai peidio â gwneud hynny yn andwyol i les neu iechyd yr hwch neu'r perchyll.
38.
Caniateir diddyfnu perchyll hyd at saith diwrnod ynghynt na'r cyfnod a bennir ym mharagraff 37 os symudir hwy i lety arbenigol—
(a) sy'n cael ei wagio, ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr cyn cymryd grwp newydd i mewn; a
(b) sydd ar wahân i adeiladau lle y cedwir hychod eraill.
RHAN
6
Perchyll diddwyn a moch magu
39.
Cyn gynted ag y bo modd ar ôl diddyfnu, rhaid cadw perchyll diddwyn a moch magu mewn grwpiau sefydlog, gyda chyn lleied ag y bo modd o gymysgu.
40.
Os oes rhaid cymysgu moch sy'n anghyfarwydd â'i gilydd —
(a) dylid gwneud hynny os yn bosibl cyn diddyfnu neu cyn pen un wythnos ar ôl diddyfnu neu, fel arall, pan fo'r moch mor ifanc ag y bo modd; a
(b) rhaid rhoi digon o gyfleoedd iddynt ddianc a chuddio rhag moch eraill.
41.
Rhaid i'r arfer o ddefnyddio meddyginiaeth tawelu i hwyluso cymysgu gael ei gyfyngu i amodau eithriadol, a hynny yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg.
42.
Os oes arwyddion o ymladd difrifol, rhaid ymchwilio i'r achosion ar unwaith a chymryd camau priodol.
43.
Rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob porchell diddwyn neu fochyn magu a gedwir mewn grwp fod o leiaf yn—
(a) 0.15 m² ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn 10 kg neu lai;
(b) 0.20 m² ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 10 kg, ond yn llai na neu'n hafal i 20 kg;
(c) 0.30 m² ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 20 kg ond yn llai na neu'n hafal i 30 kg;
(ch) 0.40 m² ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 30 kg ond yn llai na neu'n hafal i 50 kg;
(d) 0.55 m² ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 50 kg ond yn llai na neu'n hafal i 85 kg;
(dd) 0.65 m² ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 85 kg ond yn llai na neu'n hafal i 110 kg; ac
(e) 1.00 m² ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 110 kg.
ATODLEN 9Rheoliad 5
Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw cwningod
1.
Rhaid i unrhyw gytiau neu gewyll y cedwir cwningod ynddynt—
(a) bod o faint digonol i ganiatáu i'r cwningod symud o gwmpas ac i fwyta ac yfed yn ddidrafferth, ac i ganiatáu iddynt i gyd orwedd ar eu hochrau yr un pryd; a
(b) o uchder digonol i ganiatáu i'r cwningod eistedd yn gefnsyth ar eu pedwar troed heb i'w clustiau gyffwrdd â nenfwd y cwt neu'r cawell.
2.
Pan gedwir cwningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod lle iddynt gysgodi rhag y tywydd, gan gynnwys cysgod rhag golau uniongyrchol yr haul.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli yn bennaf (gyda diwygiadau):
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir 2001 (OS 2001/2682 (Cy.223));
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 (OS 2002/1898 (Cy. 199));
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003 (OS 2003/1726 (Cy.189)); ac
Adran 7 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968[13].
Diddymir y ddeddfwriaeth uchod yr un pryd ag y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu deddfwriaeth Gymunedol a weithredwyd yn flaenorol gan y tair set o Reoliadau y cyfeirir atynt uchod (OS 2001/2682 (Cy.223); 2002/1898 (Cy.199) a 2003/1726 (Cy.189)). Y rhannau o ddeddfwriaeth Gymunedol y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i'w gweithredu yw—
Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio[14];
Cyfarwyddeb y Cyngor 99/74/EC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy[15];
Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu lloi[16], fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC[17] a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC[18]; a
Chyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu moch[19], fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC[20] a Chyfarwyddeb y Cyngor 2001/93/EC[21].
Mae'r Rheoliadau hyn (a'r ddeddfwriaeth Gymunedol a weithredir ganddynt) yn adlewyrchu'r rhwymedigaethau a gynhwysir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 10 Mawrth 1976 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 98), o'i ddarllen ynghyd â'r Protocol Diwygio i'r Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 6 Chwefror 1992 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 145).
Gwneir y Rheoliadau o dan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006[22] ac maent yn gymwys i bob anifail a gedwir at ddibenion ffermio, yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol a nodir yn rheoliad 3(2).
Mae rheoliad 4(1) yn pennu'r egwyddor gyffredinol bod rhaid i bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir gymryd camau rhesymol i sicrhau y cedwir yr anifeiliaid mewn amodau sy'n cydymffurfio ag Atodlen 1. Mae'r egwyddor hon yn gymwys i'r holl anifeiliaid asgwrn cefn (ac eithrio dyn) sy'n cael eu bridio neu eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond nid yw hyn yn cynnwys pysgod, ymlusgiaid nac amffibiaid.
Mae i'r ymadrodd "person sy'n gyfrifol" am anifail yr ystyr a roddir i "person responsible" yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, sy'n cynnwys person sy'n gyfrifol am anifail ar sail barhaol neu dros dro, person sydd ag anifail o dan ei ofal, perchennog anifail a pherson sy'n gyfrifol am blentyn o dan 16 mlwydd oed sy'n ymgymryd â gofal gwirioneddol neu reolaeth wirioneddol dros yr anifail.
Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer yr amodau y mae'n rhaid cadw pob anifail a ffermir ynddynt (rheoliad 4(1) ac Atodlen 1), ac ar gyfer amodau ychwanegol penodol sy'n gymwys i'r anifeiliaid canlynol a ffermir—
ieir dodwy mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir dodwy, a gedwir mewn—
— systemau di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 2);
— cewyll confensiynol (batri) (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 3);
— cewyll gwell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 4);
— pob system cewyll a di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 5);
ieir dodwy, p'un ai mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir ai peidio (rheoliad 5(1)(a));
lloi (rheoliad 5(1)(c) ac Atodlen 6);
gwartheg (rheoliad 5(1)(ch) ac Atodlen 7);
moch (rheoliad 5(1)(d) ac Atodlen 8); a
chwningod (rheoliad 5(1)(dd) ac Atodlen 9).
Ni chaniateir adeiladu systemau cewyll confensiynol newydd na chewyll batri newydd na'u defnyddio am y tro cyntaf (paragraff 8 o Atodlen 3), a gwaherddir hwy ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012 (paragraff 9 o Atodlen 3).
Mae rheoliad 6 yn gosod rhwymedigaethau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir, i fod yn gyfarwydd â chodau ymarfer ac i sicrhau bod y codau ar gael iddynt tra'n gofalu am anifeiliaid, ac i sicrhau bod gan gyflogeion hefyd yr un wybodaeth a modd i gyrchu'r wybodaeth honno.
Mae rheoliad 7(a) yn ei gwneud yn dramgwydd i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, beidio â chydymffurfio â naill ai'r ddyletswydd gyffredinol i gydymffurfio ag Atodlen 1 neu ag unrhyw un o'r dyletswyddau ychwanegol i gydymffurfio ag Atodlenni 2 i 9 fel y bo'n gymwys. Mae'r rheoliad hefyd yn creu tramgwydd pan na chyflawnir unrhyw un o'r dyletswyddau yn rheoliad 6 mewn perthynas â chodau ymarfer.
Cyflawnir tramgwydd o dan reoliad 7(b) os gwneir cofnod ffug neu os rhoddir gwybodaeth ffug.
Y gosb uchaf am dramgwydd o dan reoliad 7(a) neu (b) carchariad am 6 mis a/neu ddirwy ar lefel 4 o'r raddfa safonol (sef £2,500 ar hyn o bryd). Pan ddaw adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003[23] i rym, bydd y cyfnod hwyaf yn y carchar yn cynyddu i 51 wythnos.
Mae arfarniad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau ohono o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
2006 p.45. Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back
[2]
OJ Rhif L340, 11.12.91, t 33back
[3]
OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 1back
[4]
OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 36back
[5]
OJ Rhif L203, 3.8.99, t 53back
[6]
OJ Rhif L340, 11.12.91, t 28back
[7]
OJ Rhif L25, 28.1.97, t 24back
[8]
OJ Rhif L76, 18.3.97, t 30back
[9]
OJ Rhif L221, 8.8.98, t 23back
[10]
1968 p. 34.back
[11]
2003 p. 44.back
[12]
OJ Rhif L125, 23.5.96, t.3.back
[13]
1968 p. 34.back
[14]
OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23back
[15]
OJ Rhif L203, 3.8.99, t 53back
[16]
OJ Rhif L340. 11.12.91, t 28back
[17]
OJ Rhif L25, 28.1.97, t 24back
[18]
OJ Rhif L76, 24.2.97, t 30back
[19]
OJ Rhif L340, 11.12.91, t 33back
[20]
OJ Rhif L316, 1.12.2001back
[21]
OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 36back
[22]
2006 p. 45.back
[23]
2003 p. 44.back
English version
ISBN
978 0 11 091659 0
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
20 November 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073070w.html