[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3153 (Cy.269)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007
|
Gwnaed |
4 Tachwedd 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
5 Tachwedd 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Rhagfyr 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dyddiad prisio
2.
1 Ebrill 2008 yw'r diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 (Prisio ar gyfer ardrethu annomestig) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion rhestrau ardrethol annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar gyfer Cymru ar 1 Ebrill 2010.
Dirymu
3.
Dirymir Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002[2] i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.
4 Tachwedd 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Yn rhinwedd adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 Rhan III, rhaid i restrau ardrethu annomestig gael eu llunio ar 1 Ebrill ym mhob pumed flwyddyn ar ôl 1990.
At ddibenion llunio rhestr o'r fath mae gwerth ardrethol hereditament annomestig i gael ei benderfynu ar y diwrnod y mae'n rhaid llunio'r rhestr neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2008 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerth ardrethol hereditament annomestig at ddibenion rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2010.
Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002.
Notes:
[1]
1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.back
[2]
O.S. 2002/3186 (Cy.302).back
English version
ISBN
978 0 11 091666 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
19 November 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073153w.html