BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau, a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 Rhif 3160 (Cy.271)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073160w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3160 (Cy.271)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau, a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007

  Gwnaed 5 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21B o Ddeddf Landlord a Thenant 1985[1], adran 178 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[2] ac adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[3] ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy[4], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau, a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

Cymhwyso
    
2. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan gyflwynir, ar 30 Tachwedd 2007, neu ar ôl hynny, hawliad am daliad gwasanaeth[5] mewn cysylltiad ag annedd[6].

    (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anheddau yng Nghymru sydd yn ddarostyngedig i les[7].

    (3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys—

Ffurf a chynnwys crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau
     3. Pan fo'r Rheoliadau hyn yn gymwys rhaid i'r crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau sy'n gorfod mynd gyda hawliad am daliad gwasanaeth fod yn ddarllenadwy ar ffurf deipiedig neu argraffedig o o leiaf 10 pwynt, a rhaid iddo gynnwys—

Darpariaethau trosiannol
    
4. Mae'r darpariaethau canlynol yn gymwys pan fo galwad i dalu ("yr alwad i dalu cyntaf") i dalu taliadau gwasanaeth wedi'i ddyroddi cyn 30 Tachwedd 2007—


Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu cynnwys y crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid sy'n ymwneud â thaliadau gwasanaeth y mae'n rhaid iddo fynd gydag unrhyw hawliad am daliadau o'r fath a wneir gan landlord o dan adran 21B o Ddeddf Landlord a Thenant 1985. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer mân faterion o ran ffurf y crynodeb.

Mae Rheoliad 4 yn gwneud darpariaethau trosiannol yn ymwneud â hawliadau am daliadau gwasanaeth a anfonir at denantiaid cyn 30 Tachwedd 2007.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Uned y Sector Preifat, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729181) neu gan
[email protected].


Notes:

[1] 1985 p.70. Mewnosodwyd adran 21B gan adran 153 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15).back

[2] 2002 p.15.back

[3] 1993 p.38.back

[4] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21B, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau dywededig eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back

[5] I gael ystyr "service charge" gweler adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p.70). Diwygiwyd adran 18 gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p.31) ac adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back

[6] I gael ystyr "dwelling" gweler adran 38 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.back

[7] I gael ystyr "lease" gweler adran 36 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.back



English version



ISBN 978 0 11 091668 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 30 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073160w.html