BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Taliadau Gweinyddol (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2007 Rhif 3162 (Cy.273)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073162w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3162 (Cy.273)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Gweinyddol (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2007

  Gwnaed 5 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007 

Mae Gweinidogion Cymru[1], drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 4(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[2] ac adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[3] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gweinyddol (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan gyflwynir, ar 30 Tachwedd 2007, neu ar ôl hynny, hawliad am daliad gweinyddol[
4] mewn perthynas ag annedd[5] yng Nghymru.

Ffurf a chynnwys crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau
     2. Rhaid i'r crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau sy'n gorfod mynd gyda hawliad am daliad gweinyddol fod yn ddarllenadwy ar ffurf deipiedig neu argraffiedig o o leiaf 10 pwynt, a rhaid iddo gynnwys—


Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu cynnwys y crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid sy'n ymwneud â thaliadau gweinyddol y mae'n rhaid iddo fynd gydag unrhyw hawliad am daliadau o'r fath a wneir gan landlord. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer mân faterion o ran ffurf y crynodeb.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Gyfarwyddiaeth Dai, Uned y Sector Breifat, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729181), neu gan
[email protected].


Notes:

[1] Mae'r pwerau a roddir gan baragraff 4(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) yn arferadwy gan yr awdurdod gwladol priodol. Diffinnir "Appropriate national authority" yn adran 179(1) o'r Ddeddf honno a'i ystyr o ran Cymru yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[2] 2002 p. 15.back

[3] 1993 p. 38.back

[4] I gael ystyr "administration charge" gweler paragraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back

[5] I gael ystyr "dwelling" gweler adran 38 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70).back



English version



ISBN 978 0 11 091656 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 13 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073162w.html