BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007 Rhif 3164 (Cy.275)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073164w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3164 (Cy.275)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007

  Gwnaed 5 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007 

O ran Cymru, Gweinidogion Cymru[1] yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1(2)(e) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983[2], a thrwy arfer y pwerau hynny maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran pob datganiad ysgrifenedig a roddir ar ôl 30 Tachwedd 2007 ynghylch cytundeb—

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn—

Datganiad ysgrifenedig: gofynion rhagnodedig
    
3. Y gofynion y mae'n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 1(2) o Ddeddf 1983 (yn ychwanegol at ofynion adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983); yw—

Dirymu
    
4. Dirymir Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) 1983[5] o ran Cymru.


Jocelyn Davies
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 3


DATGANIAD YSGRIFENEDIG O DAN DDEDDF CARTREFI SYMUDOL 1983


PWYSIG — DARLLENWCH Y DATGANIAD HWN YN OFALUS A'I GADW MEWN MAN DIOGEL. MAE'N GOSOD Y TELERAU Y BYDD GENNYCH YR HAWL I GADW'CH CARTREFI SYMUDOL AR Y SAFLE ARNYNT AC YN DWEUD WRTHYCH AM YR HAWLIAU A RODDIR I CHI YN ÔL Y GYFRAITH. OS OES UNRHYW BETH NAD YDYCH YN EI DDEALL DYLECH GEISIO CYNGOR (ER ENGHRAIFFT GAN GYFREITHIWR NEU O GANOLFAN CYNGOR AR BOPETH)



RHAN 1

Darpariaethau Rhagarweiniol a Thelerau Datganedig (ac eithrio'r rhai hynny a bennir yn Rhan 5)









RHAN 2

Gwybodaeth ynglyn â'ch hawliau

Deddf Cartrefi Symudol 1983
     1. Gan y bydd gennych gytundeb â pherchennog safle fydd yn rhoi'r hawl i chi gadw'ch cartref symudol ar ei safle ac i fyw ynddo fel eich cartref, bydd gennych hawliau penodol o dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983, yn effeithio'n enwedig ar ddiogelwch eich tenantiaeth, gwerthu'ch cartref a'r adolygiad o ffi'r llain.

Telerau goblygedig
     2. Bydd yr hawliau hyn, sydd wedi'u cynnwys yn y telerau goblygedig a osodir yn Rhan 3 o'r datganiad hwn, yn gymwys yn awtomatig ac ni ellir eu diystyru, cyhyd â bod eich cytundeb yn parhau i fod yn un y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo.

Telerau datganedig
     3. Os nad ydych yn fodlon ar unrhyw un neu fwy o delerau eich cytundeb arfaethedig (fel a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) dylech eu trafod â'r perchennog, a ddichon gytuno i'w newid.

Yr hawl i herio
     4. Os gwnewch y cytundeb ac yna eich bod yn anfodlon â'r telerau datganedig ynddo gellwch eu herio yn y modd a eglurir ym mharagraff 5. Ond rhaid i chi wneud hynny o fewn chwe mis i'r dyddiad y gwnaethoch y cytundeb neu i'r dyddiad y cawsoch y datganiad ysgrifenedig, p'un bynnag yw'r diweddaraf. Os ydych yn dymuno herio'ch cytundeb, efallai y byddech am ymgynghori â chyfreithiwr neu â chanolfan cyngor ar bopeth.

     5. Gellir gwneud her naill ai yn y llys sirol neu gerbron cymrodeddwr. Gellwch—

Gall perchennog y safle hefyd fynd i'r llys neu at gymrodeddwr i ofyn i'r cytundeb gael ei newid yn y ddwy ffordd hyn.

     6. Fe all y bydd un o delerau datganedig y cytundeb yn darparu ar gyfer penodi cymrodeddwr. Oni fydd felly, mae modd o hyd i chi a pherchennog y safle gytuno yn ysgrifenedig i benodi cymrodeddwr i setlo anghydfod rhyngoch.

     7. Rhaid i'r llys neu'r cymrodeddwr wneud gorchymyn ar delerau a ystyrir ganddo ef yn deg ac yn ecwitïol yn yr amgylchiadau.

Telerau pellach
     8. Dyma'r materion a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983—

Terfyn amser
     9. Os nad oes cais wedi ei wneud i'r llys neu i gymrodeddwr o fewn chwe mis o'r dyddiad pan wnaethoch y cytundeb neu o'r dyddiad pan gawsoch y datganiad ysgrifenedig, p'run bynnag yw'r diweddaraf, byddwch chi a pherchennog y safle wedi ymrwymo i delerau'r cytundeb ac ni fydd modd eu newid oni bai bod y ddau ohonoch yn cytuno.

Telerau annheg
     10. Os ydych yn ystyried fod unrhyw un o delerau'r cytundeb arfaethedig (fel a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) yn annheg, gellwch, yn unol â darpariaethau Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr 1999[
6], wneud cwyn i'r Swyddfa Masnachu Teg neu unrhyw gorff cymwys[7].



RHAN 3

Telerau goblygedig

O dan Ddeddf 1983, bydd telerau penodol yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn eich cytundeb. Gosodir y telerau goblygedig hyn yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983. Gosodir hyn isod ac mae'n cynnwys y diwygiadau a wnaed i Atodlen 1 gan Ddeddf Tai 2004 a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2007[8]. Mae'r rhifo yn dilyn yr hyn a ddefnyddir yn Neddf 1983 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2004 a Gorchymyn 2007.





PART 4

Supplementary Provisions

Part 3 of Schedule 1 to the 1983 Act sets out provisions which supplement those in Part 1 of Schedule 1. These are set out below.





PART 5

Express terms of the agreement

This part of the written statement sets out other terms of the agreement which may be agreed between you and the site owner in addition to the implied terms.

(Terms to be inserted by site owner.)



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, o ran Cymru, yn cymryd lle Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) 1983, sy'n cael eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae adran 1(2) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 ("Deddf 1983") yn darparu bod rhaid i berchennog y safle, cyn gwneud cytundeb y mae adran 1 o Ddeddf 1983 yn gymwys iddo, roi datganiad ysgrifenedig i ddarpar feddiannydd cartref symudol. Mae adran 1 yn gymwys i bob cytundeb sy'n rhoi hawl i berson osod cartref symudol ar safle gwarchodedig ac i'w feddiannu fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa. Caiff "protected site" ei ddiffinio yn adran 5(1) o Ddeddf 1983.

Mae adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983 yn ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad ysgrifenedig;

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad ysgrifenedig yn cynnwys deunydd sy'n ychwanegol at yr hyn sy'n ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) a'i fod yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen. Mae pum Rhan i'r Atodlen:

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datganiadau ysgrifenedig a roddir ar ôl 30 Tachwedd 2007 ynghylch safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.


Notes:

[1] Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back

[2] 1983 p.34. Amnewidiwyd adran 1 gan adran 206(1) o Ddeddf Tai 2004 (p.34). O ran Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod gwladol priodol; gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 5(1) o Ddeddf 1983, fel y'i diwygiwyd gan adran 206(3) o Ddeddf 2004.back

[3] Am y diffiniad o "mobile home" gweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983.back

[4] Am y diffiniad o "protected site" gweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983.back

[5] O.S. 1983/749.back

[6] O.S. 1999/2083.back

[7] Am y diffiniad o "qualifying body" gweler O.S. 1999/2083.back

[8] O.S. 2007/3151 (Cy.268).back

[9] I gael ystyr "the court", gweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983.back



English version



ISBN 978 0 11 091663 7


 © Crown copyright 2007

Prepared 20 November 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073164w.html