BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007 Rhif 3230 (Cy.282)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073230w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3230 (Cy.282)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007

  Gwnaed 9 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 4 Rhagfyr 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy[2] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 4 Rhagfyr 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2007" ("the 2007 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007[3].

Diwygio Rheoliadau 2007
     3. Mae Rheoliadau 2007 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    
4. Yn rheoliad 61D (1) (a) (i), yn lle'r ffigur "£1,150", rhodder y ffigur "£905".

    
5. Yn rheoliad 61D (1) (b), yn lle'r ffigur "£250", rhodder y ffigur "£1,025".

    
6. Yn rheoliad 61DD (1) (b) a rheoliad 61DD (1) (c), yn lle'r ffigur "£15,700" rhodder y ffigur "£15,715".

    
7. Yn rheoliad 61DD (1)(ch), yn lle'r ffigurau "£15,700" a "£23,680" rhodder y ffigurau "£15,715" a "£23,700" yn eu trefn.

    
8. Yn rheoliad 61DD(1) (d), yn lle'r ffigur "£23,680", rhodder y ffigur "£23,700".

    
9. Yn rheoliad 61DD (1)(dd), yn lle'r ffigurau "£23,680" a "£24,280" rhodder y ffigurau "£23,700" a "£24,315" yn eu trefn.

    
10. Yn rheoliad 61DD (1)(e), yn lle'r ffigurau "£24,280", "£26,180" a "£9.50" rhodder y ffigurau "£24,315", "£26,265" a "£2.00" yn eu trefn.

    
11. Yn rheoliad 61DD (1)(f) a rheoliad 61DD (1) (ff), yn lle'r ffigur "£26,180" rhodder y ffigur "£26,265".

    
12. Yn rheoliad 61DD (2)(a), yn lle'r ffigurau "£7.60" a "£15,700", rhodder y ffigurau "£15.81" a "£15,715" yn eu trefn.

    
13. Yn rheoliad 61DD (2) (b), yn lle'r ffigur "£1,150" ble bynnag y mae'n ymddangos, rhodder y ffigur "£905".

    
14. Yn rheoliad 61F (6) (a), yn lle'r ffigur "£12,420", rhodder y ffigur "£12,425".

    
15. Yn rheoliad 61F (6) (b), yn lle'r ffigur "£4,905", rhodder y ffigur "£4,910".

    
16. Yn rheoliad 61F (1) (ch), yn lle'r ffigur "£1,640" rhodder y ffigur "£1,645".

    
17. Yn rheoliad 65(3), yn lle "rheoliad 70" rhodder "rheoliad 63".


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau , un o Weinidogion Cymru

9 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007 ("y Prif Reoliadau").

Diwygiadau i Reoliadau 2007
Mae Rheoliadau 2007 yn darparu ar gyfer cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau dynodedig addysg uwch mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n cychwyn ar 1 Medi 2007 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2007 o ran darparu cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig a osodir yn y rheoliadau newydd 61D (cymorth at grantiau dysgu o bell), 61DD (swm y cymorth) a 61F (lwfans dysgu o bell myfyrwyr anabl).

Mae rheoliadau 4 i 16 yn diwygio'r ffigurau yn rheoliadau 61D, 61DD a 61F o Reoliadau 2007.


Notes:

[1] 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[3] O.S. 2007/1045 (Cy.104) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2312 (Cy.183) ac O.S. 2007/2851 (Cy. 248 ).back



English version



ISBN 978 0 11 091684 2


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 December 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073230w.html