BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Blociau Fflatiau Penodol) (Addasiadau i Ddeddf Tai 2004 a Darpariaethau Trosiannol ar gyfer HMOs adran 257) (Cymru) 2007 Rhif 3231 (Cy.283)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073231w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 3231 (Cy.283)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Blociau Fflatiau Penodol) (Addasiadau i Ddeddf Tai 2004 a Darpariaethau Trosiannol ar gyfer HMOs adran 257) (Cymru) 2007

  Gwnaed 12 Tachwedd 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Tachwedd 2007 
  Yn dod i rym 5 Rhagfyr 2007 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 61(5), 146(3)(a) a 250(2) o Ddeddf Tai 2004[1] ac a freiniwyd bellach[2] yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Blociau Fflatiau Penodol) (Addasiadau i Ddeddf Tai 2004 a Darpariaethau Trosiannol ar gyfer HMOs adran 257) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i HMOs adran 257[
3] yng Nghymru.

Addasiadau i Ran 2 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth)
     2. Mae darpariaethau Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn cael effaith mewn perthynas ag HMO adran 257, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn rheoliadau 3 i 10.

    
3. Yn adran 61 (gofyniad i HMOs gael eu trwyddedu), ar ôl is-adran (6) ychwaneger—

     4. Yn adran 64 (rhoi neu wrthod trwydded), hepgorer is-adran (3)(a) ac yn lle is-adran (4) rhodder—

     5. Yn adran 65 (profion ynghylch addasrwydd at amlfeddiannaeth)—

     6. Yn adran 67 (amodau'r drwydded) ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

     7. Yn adran 73 (canlyniadau eraill rhedeg HMOs sydd heb eu trwyddedu: gorchmynion ad-dalu rhent), yn is-adran (10)—

     8. Yn adran 75 (canlyniadau eraill rhedeg HMOs sydd heb eu trwyddedu: cyfyngiadau ar derfynu tenantiaethau)—

     9. Yn adran 78 (mynegai o ymadroddion sydd wedi'u diffinio: Rhan 2) yn y cofnod sy'n ymwneud â pherson sydd â rheolaeth, yn lle'r cyfeiriad at adran 263(1) a (2), rhodder cyfeiriad at adran 61(7).

    
10. Yn Atodlen 4—

Addasiad i Ran 4 o'r Ddeddf (darpariaethau rheoli ychwanegol mewn perthynas â lletyau preswyl)
    
11. Mae adran 139 o'r Ddeddf (cyflwyno hysbysiadau gorlenwi) yn cael effaith mewn perthynas ag HMO adran 257 fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ddiwedd paragraff 1(b)—

Addasiad i adran 263 o'r Ddeddf
    
12. —(1) Mae adran 263 o'r Ddeddf (ystyr "person having control" a "person managing" etc) yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ôl is-adran (1)—

Diddymu Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985: darpariaethau trosiannol
    
13. —(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007[7] ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008, ni fydd diddymu adrannau 346, 346A, 346B, 347, 348, 348A i 348G, 350, 351 a 395 i 397 o Ddeddf Tai 1985[8] ("Deddf 1985") yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gynllun cofrestru—

i'r graddau y mae'r cynllun hwnnw'n gymwys i floc fflatiau perthnasol a addaswyd ac sydd wedi'i gofrestru neu y mae'n ofynnol iddo gael ei gofrestru o dan y cynllun hwnnw.

    (2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008, caiff y ffi ganiataol uchaf sy'n daladwy adeg cofrestru, neu ailgofrestru, bloc fflatiau perthnasol a addaswyd ei chyfrifo fel un pumed o'r ffi y gallai'r awdurdod tai lleol sy'n gweithredu'r cynllun cofrestru ei chodi.

    (3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008—

    (4) O ran apêl a ddygir o dan is-adran (2) o adran 357 o Ddeddf 1985 cyn 5 Rhagfyr 2007, ni fydd penderfyniad llys i amrywio, neu i beidio â dirymu, cyfarwyddyd o dan adran 354 o'r Ddeddf honno yn cael effaith.

    (5) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2008—

    (6) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr 2007 ac sy'n dod i ben ar 5 Rhagfyr 2009 ni fydd diddymu adrannau 375 i 377A a 378 o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd cyn 5 Rhagfyr 2007 o dan adran 352 neu 372 o'r Ddeddf honno ynghylch bloc fflatiau perthnasol a addaswyd.

    (7) Yn y rheoliad hon, ystyr "bloc fflatiau perthnasol a addaswyd" ("relevant converted block of flats") yw adeilad neu ran o'r adeilad sydd—


Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Tachwedd 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Rhan 2 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) a Rhan 4 (darpariaethau rheoli ychwanegol mewn perthynas â lletyau preswyl) o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") ac adran 263 o'r Ddeddf ym maes ei gweithrediad at ddibenion y Rhannau hynny, mewn perthynas â thy amlfeddiannaeth (HMO) y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo ("HMO adran 257").

Mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys i adeilad neu ran o adeilad a droswyd yn fflatiau hunangynhwysol, ac sydd wedi'u ffurfio o'r fflatiau hynny, os nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r addasu yn cydymffurfio â safonau adeiladu priodol a'u bod yn dal i beidio â chydymffurfio â hwy, a bod llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhwysol wedi'u perchen-feddiannu. Mae fflat wedi'i berchen-feddiannu os yw wedi'i feddiannu gan berson y mae les wedi'i rhoi iddo am gyfnod o fwy nag 21 o flynyddoedd neu gan berson y mae ganddo'r ystad rydd-ddaliol yn y bloc fflatiau a addaswyd, neu gan aelod o aelwyd person o fewn y naill neu'r llall o'r ddau ddisgrifiad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau yn addasu, at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf, mewn cysylltiad ag HMO adran 257—

Mae'r rheoliadau hyn yn addasu hefyd adran 139 o'r Ddeddf mewn cysylltiad â chyflwyno hysbysiadau gorlenwi mewn cysylltiad ag HMOs adran 257(rheoliad 11).

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol hefyd mewn cysylltiad ag HMOs adran 257 a gofrestrwyd o'r blaen mewn cynllun cofrestru o dan Ran 11 o Ddeddf Tai 1985 (rheoliad 13). Diddymwyd Rhan 11 o'r Ddeddf gan Orchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1535) (Cy. 152) ar 16 Mehefin 2006 mewn cysylltiad â phob HMO ac eithrio HMOs adran 257. Darparodd y Gorchymyn hwnnw y byddai diddymiad Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 yn dod yn weithredol mewn cysylltiad ag adeilad neu ran o adeilad sy'n HMO adran 257 ac yn dy amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985 ar y dyddiad y daw rheoliadau a wnaed o dan adran 61(5) i rym.

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar swyddogaethau trwyddedu awdurdod lleol o dan Ran 2 o'r Ddeddf mewn perthynas â fflat sydd wedi'i leoli o fewn HMO adran 257.

Lluniwyd asesiad rheoleiddiol llawn o effaith yr offerynnau statudol i ategu darpariaethau'r Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedu HMOs a thrwyddedu dethol lletyau preifat eraill a rentir a gorchmynion rheoli (Rhannau 2, 3 a Phennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf) yn Chwefror 2006 ac mae ar gael o Uned y Sector Preifat, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ffôn 01685 729193, neu anfoner neges e-bost at huw.mclean@wales.gsi.gov.uk.


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 61(5), 146(3) a 250(2) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r "appropriate national authority" yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.back

[2] Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.back

[3] I gael ystyr "section 257 HMO" gweler adrannau 61(5) a 146(4) o'r Ddeddf. I gael ystyr "HMO" gweler adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf.back

[4] 2002 p.15.back

[5] 1987 p.31. Mae adran 24 wedi'i diwygio gan Ddeddf Tai 1996 (p. 31) a Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back

[6] Gweler Atodlen 3 i O.S. 2006/1715 (Cy.177) sy'n rhagnodi safonau o dan adran 65(4).back

[7] O dan baragraff 2(1) o Ran 2 o'r Atodlen i Ddeddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1535 (Cy. 152)), yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 16 Mehefin 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(5) o'r Ddeddf yn dod i rym, ni chafodd diddymiad adrannau penodol a oedd wedi'u cynnwys yn Rhan 11 o'r Ddeddf Tai, y rhoddwyd effaith iddo gan y Gorchymyn hwnnw, effaith mewn perthynas â "bloc fflatiau perthnasol a addaswyd". Mae "bloc fflatiau perthnasol a addaswyd" wedi'i ddiffinio yn y Gorchymyn hwnnw fel adeilad neu ran o'r adeilad sy'n floc fflatiau a addaswyd ac y mae adran 257 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo ac yn dy amlfeddiannaeth at ddibenion Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985. Mae'r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol bellach mewn perthynas â'r cyfryw floc fflatiau perthnasol a addaswyd.back

[8] 1985 p. 68.back



English version



ISBN 978 0 11 091688 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 4 December 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073231w.html