Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 No. 3294 (Cy. 290)


BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 No. 3294 (Cy. 290)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073294_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007

Gwnaed

19 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

14 Rhagfyr 2007

TREFNIANT Y RHEOLIADAU

Go to Preamble

  1. RHAN 1

    MATERION RHAGARWEINIOL

    1. 1. Enwi, cychwyn a chymhwyso

    2. 2. Dehongli

  2. RHAN 2

    Y PRIF DDARPARIAETHAU

    1. 3. Awdurdodau cymwys

    2. 4. Cyfnewid a darparu gwybodaeth

    3. 5. Sicrhau gwybodaeth

    4. 6. Pwer i ddyroddi codau arferion a argymhellir

    5. 7. Monitro camau gorfodi

    6. 8. Pwer i ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi

    7. 9. Pwerau mynediad ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi

    8. 10. Ystyr "awdurdod gorfodi" ac ymadroddion cysylltiedig

    9. 11. Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9

    10. 12. Yr hawl i apelio

    11. 13. Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)

    12. 14. Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall

    13. 15. Arbenigwyr y Comisiwn

    14. 16. Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol

    15. 17. Gweithredu a gorfodi

    16. 18. Pwerau mynediad

    17. 19. Rhwystro, etc. swyddogion

    18. 20. Cosbau

    19. 21. Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

  3. RHAN 3

    RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

    1. 22. Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau

    2. 23. Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid

    3. 24. Cyfrifoldebau gorfodi bwyd

    4. 25. Swyddogaethau'r Comisiynwyr

    5. 26. Gohirio, gweithredu a gorfodi

    6. 27. Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol

    7. 28. Gwirio cynhyrchion

    8. 29. Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill

    9. 30. Hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 a 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)

    10. 31. Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30

    11. 32. Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31

    12. 33. Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

    13. 34. Costau

    14. 35. Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig

    15. 36. Dadansoddi etc. samplau

    16. 37. Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd

    17. 38. Rhwystro etc. swyddogion (mewnforion)

    18. 39. Tramgwyddau a chosbau

    19. 40. Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)

  4. RHAN 4

    ADENILL TREULIAU

    1. 41. Treuliau sy'n codi oddi wrth reolaethau swyddogol

    2. 42. Treuliau sy'n codi o ran cymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn

  5. RHAN 5

    GORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

    1. 43. Tramgwyddau oherwydd bai person arall

    2. 44. Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

    3. 45. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

    4. 46. Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd

    5. 47. Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

    6. 48. Cyflwyno dogfennau

    7. 49. Dirymu

    1. ATODLEN 1

      DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

    2. ATODLEN 2

      DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

    3. ATODLEN 3

      DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

    4. ATODLEN 4

      AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

    5. ATODLEN 5

      AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Dynodwyd Gweinidogion Cymru at ddibenion adran 2(2) o Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd(2) a pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(3) a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd(4).

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5),bu ymgynghori agored a thryloyw wrth lunio'r Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1 MATERION RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007, deuant i rym ar 14 Rhagfyr 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr "yr Asiantaeth" ("the Agency") yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i "awdurdod bwyd" ("food authority") yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr "awdurdod bwyd anifeiliaid" ("feed authority") yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(6) iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ddosbarth yn ôl y digwydd;

ystyr "awdurdod cymwys" ("competent authority") yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, wedi'i ddynodi at ddibenion unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliad 882/2004;

ystyr "awdurdod gorfodi perthnasol" ("relevant enforcement authority") yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn;

mae i "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41"), "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002"), "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004"), "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2005"), "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005"), "Rheoliad 2073/2005" ("Regulation 2073/2005"), "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005"), a "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yr ystyr a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;

mae i "cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol" ("relevant feed law") yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 2;

mae i "cyfraith bwyd berthnasol" ("relevant food law") yr ystyr a roddir i hynny yn Atodlen 3;

mae i "cynhyrchu sylfaenol" yr ystyr sydd i "primary production" yn Rheoliad 852/2004;

ystyr "y Darpariaethau Mewnforio" ("the Import Provisions") yw Rhan 3 o'r Rheoliadau ac Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae "mangre" ("premises") yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

ystyr "y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol" ("the Official Control Regulations") yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliad 882/2004; ac

ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") –

(a)

o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod at ddibenion rheoliad 14; a

(b)

o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithredu a gorfodi rheoliad 17 gan yr awdurdod hwnnw.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3) Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliad 882/2004 yn ôl y digwydd.

(4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu priodoli–

(a) drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(7) i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(8) i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'r cyfeiriad hwnnw yn ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u priodoli iddo.

RHAN 2 Y PRIF DDARPARIAETHAU

Awdurdodau cymwys

3.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys mewn perthynas â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

(2) Pan ddynodir yr awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1), dim ond ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl y digwydd, y mae'r dynodiad yn rhychwantu.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), mae unrhyw gorff a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

(4) Pan ddynodir yr awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3), dim ond ei ardal, y mae'r dynodiad yn rhychwantu.

(5) Pan ddynodir yr Asiantaeth yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) neu (3) at ddibenion Erthygl 31(1) o Reoliad 882/2004, nid yw'r dynodiad ond yn rhychwantu cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(9) yn rhinwedd rheoliad 5(1)(a) o'r Rheoliadau hynny.

(6) Pan ddynodir yr Asiantaeth yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, nid yw'r dynodiad ond yn rhychwantu, o ran Erthygl 31(2)(a) i (e), y sefydliadau a'r gweithgareddau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi mewn cysylltiad â hwy Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.

Cyfnewid a darparu gwybodaeth

4.–(1) At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau RhSFAB (Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd) eraill ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a roddir arnynt gan Reoliad 882/2004, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau RhSFAB eraill unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(2) At ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(3) Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol â'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion hwyluso gwaith gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.

(4) Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bwer arall sydd gan awdurdodau cymwys gan neu o dan ddeddfwriaeth Gymunedol i ddatgelu gwybodaeth.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "awdurdodau RhSFAB eraill" yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 882/2004 ac eithrio'r awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn.

Sicrhau gwybodaeth

5.–(1) At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan Reoliad 882/2004 ac at ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i gorff rheoli–

(a) darparu i'r awdurdod cymwys unrhyw wybodaeth y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall y corff rheoli ei rhoi; neu

(b) rhoi ar gael i'r awdurdod cymwys eu harolygu unrhyw gofnodion y mae ganddo sail resymol dros gredu eu bod yn cael eu dal gan y corff rheoli neu eu bod o fewn ei reolaeth mewn ffordd arall (ac os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2) Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).

(3) Mae person sydd –

(a) yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1) a hynny heb esgus rhesymol; neu

(b) ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath, yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn o bwys neu'n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(4) At ddibenion paragraff (1), mae'r term "corff rheoli" ("control body") yn cynnwys unrhyw aelod o gorff rheoli, unrhyw swyddog i gorff rheoli neu unrhyw un o gyflogeion corff rheoli.

Pwer i ddyroddi codau arferion a argymhellir

6.–(1) Fel canllawiau i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd, caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi codau arferion a argymhellir ynghylch–

(a) swyddogaethau a roddwyd i'r awdurdodau hynny yn rhinwedd eu swyddogaeth fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004; neu

(b) gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio;

a rhaid gosod y cyfryw godau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi iddynt gael eu dyroddi.

(2) Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

(3) Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau cymwys gan neu o dan Reoliad 882/2004, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid ac awdurdod bwyd–

(a) rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

(b) cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.

(4) Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.

(5) Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

(6) Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Monitro camau gorfodi

7.–(1) Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurdodau gorfodi o ran gorfodi rheoliadau archwilio penodol.

(2) Mae'r swyddogaeth honno yn cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed ar gyfer awdurdodau gorfodi yn gyffredinol neu ar gyfer awdurdodau penodol) mewn perthynas â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.

(3) Rhaid i bob adroddiad blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn i orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer ac ar ei pherfformiad o ran –

(a) unrhyw safonau o dan baragraff (2) sy'n gymwys i'r gweithgareddau hynny; a

(b) unrhyw amcanion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau hynny a bennir yn y datganiad o amcanion ac arferion o dan adran 22 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999(10).

(4) Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaniateir i'r adroddiad hwnnw gynnwys canllawiau ynghylch y camau y cred yr Asiantaeth y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.

(5) Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo –

(a) i drefnu i gyhoeddi'r adroddiad, neu wybodaeth benodedig sy'n ymwneud â'r adroddiad, yn y modd a bennir yn y cyfarwyddyd; a

(b) i hysbysu'r Asiantaeth, o fewn y cyfnod a bennir felly, o ba gamau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad.

(6) Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel petai'n wybodaeth a gafwyd drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

Pwer i ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi

8.–(1) At ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi, caiff yr Asiantaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a grybwyllir ym mharagraff (2) –

(a) darparu i'r Asiantaeth unrhyw wybodaeth y mae ganddi sail resymol dros gredu y gall y person hwnnw ei rhoi; neu

(b) rhoi ar gael i'r Asiantaeth eu harolygu unrhyw gofnodion y mae ganddi sail resymol dros gredu eu bod yn cael eu dal gan y person hwnnw neu eu bod o fewn ei reolaeth mewn ffordd arall (ac os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2) Gall gofyniad o dan baragraff (1) gael ei osod–

(a) ar yr awdurdod gorfodi neu ar unrhyw aelod o'r awdurdod, unrhyw swyddog i'r awdurdod neu ar un o gyflogeion yr awdurdod; neu

(b) ar berson sy'n ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth archwilio berthnasol (a honno'n ddyletswydd y gellir ei gorfodi gan awdurdod gorfodi) neu unrhyw swyddog i'r person hwnnw neu unrhyw un o'i gyflogeion.

(3) Caiff yr Asiantaeth gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddi yn unol â gofyniad o dan baragraff (1)(b).

Pwerau mynediad ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi

9.–(1) Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) at ddibenion cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.

(2) Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerwyd gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.

(3) Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd tra'n arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).

(4) Caiff person awdurdodedig –

(a) mynd i mewn i unrhyw fangre a grybwyllir ym mharagraff (5) ar unrhyw adeg resymol er mwyn arolygu'r fangre neu unrhyw beth a geir ynddi;

(b) cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir ar y fangre honno;

(c) arolygu a chopïo unrhyw gofnodion a geir ar y fangre honno (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy);

(ch) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol ar y fangre honno ddarparu iddo unrhyw gyfleusterau, unrhyw gofnodion neu wybodaeth ac unrhyw gymorth arall y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

(5) Y fangre y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddi yw –

(a) unrhyw fangre sydd wedi'i meddiannu gan yr awdurdod gorfodi;

(b) unrhyw labordy neu fangre debyg lle mae gwaith sy'n gysylltiedig â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i gyflawni i'r awdurdod gorfodi; ac

(c) unrhyw fangre arall (nad yw'n dy annedd preifat) y mae gan y person awdurdodedig sail resymol dros gredu ei bod yn fangre y mae pwerau gorfodi'r awdurdod gorfodi yn arferadwy (neu wedi bod yn arferadwy) ar ei chyfer.

(6) Mae'r pwer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pwer i fynd ag unrhyw berson arall y mae'n barnu ei fod yn briodol gydag ef.

(7) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig –

(a) dangos ei awdurdodiad cyn arfer unrhyw bwerau o dan baragraff (4); a

(b) darparu dogfen sy'n enwi unrhyw sampl a gymerwyd, neu ddogfennau a gopïwyd, o dan y pwerau hynny.

(8) Os bydd person, sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(9) Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth (mewn perthynas â'i pherfformiad o ran gorfodi'r darpariaethau hynny).

(10) Yn y rheoliad hwn ystyr "person awdurdodedig" yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.

Ystyr "awdurdod gorfodi" ac ymadroddion cysylltiedig

10.–(1) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr "deddfwriaeth archwilio berthnasol" yw cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol y mae'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys ar eu cyfer yn unol â pharagraffau (1) a (3) o reoliad 3 yn y drefn honno ond nid yw'n cynnwys deddfwriaeth berthnasol fel y diffinnir "relevant legislation" yn adran 15 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(2) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr "awdurdod gorfodi" yw'r awdurdod y mae deddfwriaeth archwilio berthnasol i'w gorfodi drwyddo ac mae'n cynnwys yr Asiantaeth ei hun os yr awdurdod gorfodi ydyw mewn perthynas â hi ond nid yw'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd; ac mae "gorfodi" o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys gweithredu unrhyw ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth honno.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 7 i 9 (sut bynnag y mae wedi'i fynegi) at berfformiad awdurdod gorfodi o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys cyfeiriad at allu'r awdurdod hwnnw i'w gorfodi.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9

11. Bydd person sydd –

(a) yn fwriadol yn rhwystro person rhag arfer pwerau o dan baragraff (4)(a), (b) neu (c) o reoliad 9;

(b) yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1) o reoliad 8 neu baragraff (4)(ch) o reoliad 9; neu

(c) gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn darparu gwybodaeth y mae'r person hwnnw yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, neu sydd yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

Yr hawl i apelio

12.–(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef–

(a) Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth);

(b) Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn); neu

(c) Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth),

apelio i lys ynadon.

(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(11) fydd yn gymwys i'r trafodion.

(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.

(5) Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei thynnu'n ôl neu ei gwrthod, caiff y gweithredydd busnes bwyd a oedd, yn union cyn bod y gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl neu wedi'i gwrthod, yn defnyddio'r sefydliad o dan sylw, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod cymwys er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, oni bai–

(a) bod yr amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i dynnu'r gymeradwyaeth yn ôl neu ei gwrthod wedi dod i ben heb fod apêl wedi'i chyflwyno; a

(b) pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi'i chyflwyno, bod yr apêl wedi'i phenderfynu'n derfynol neu wedi'i gollwng.

(6) Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd os yw –

(a) gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid, hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad;

(b) gorchymyn gwahardd, hysbysiad gwahardd brys, gorchymyn gwahardd brys neu orchymyn rheoli brys wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad yn unol ag adran 11, 12 neu 13 o'r Ddeddf;

(c) cymeradwyo'r sefydliad wedi'i atal yn unol ag Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004; neu

(ch) y sefydliad wedi'i atal rhag gweithredu ar ôl cyflwyno hysbysiad camau cywiro.

(7) Yn y Rheoliad hwn mae i bob un o'r termau "gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid", "hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid", "gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid" a "hysbysiad camau cywiro" yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)

13. Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 12(1) apelio i Lys y Goron.

Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall

14. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef at ddibenion cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad 882/2004.

Arbenigwyr y Comisiwn

15.–(1) Pan fo swyddog gorfodi yn mynd i mewn i fangre at ddibenion gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, caiff y swyddog fynd ag arbenigydd o'r Comisiwn gydag ef er mwyn galluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad 882/2004.

(2) Ym mharagraff (1) ac ym mharagraff 5(b) o reoliad 17 ystyr "swyddog gorfodi" yw swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol.

Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol

16. Os bydd person yn mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 14 neu 15 ac yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth gyflawni ei ddyletswydd.

Gweithredu a gorfodi

17.–(1) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5 yw'r awdurdod cymwys a osododd y gofyniad ar y corff rheoleiddiol o dan sylw o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

(2) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliadau 9 a rheoliad 11 yw'r Asiantaeth.

(3) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 16 yw'r awdurdod y cymerodd ei swyddog y person a wnaeth y datgeliad i'r fangre o dan sylw .

(4) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 18 yw'r awdurdod a awdurdododd y person a aeth i mewn i'r fangre ac a ddatgelodd yr wybodaeth.

(5) Yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 19–

(a) pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 14, yw'r awdurdod cymwys y cymerodd ei swyddog awdurdodedig gydag ef aelod o staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall;

(b) pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 15, yw'r awdurdod y cymerodd ei swyddog gorfodi gydag ef un o arbenigwyr y Comisiwn; ac

(c) pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 18, yw'r awdurdod gorfodi perthnasol yr arferodd ei swyddog awdurdodedig bwerau o dan y rheoliad hwnnw.

Pwerau mynediad

18.–(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi perthnasol ac eithrio'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol–

(a) i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre y mae gan yr awdurdod hwnnw'r cyfrifoldeb gorfodi drosti yn unol â rheoliad 17; a

(b) i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal yr awdurdod neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel ty annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(2) Bydd gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn–

(a) darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre y mae gan yr Asiantaeth gyfrifoldeb gorfodi drosti yn unol â rheoliad 17; a

(b) darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel ty annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(3) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai–

(a) bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b) y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(4) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(6) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw), a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig–

(a) caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b) caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol ei gael.

(7) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bwer a roddwyd gan baragraff (6)–

(a) cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Rhan hon o'r Rheoliadau; a

(b) pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(8) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(9) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(12), i fynd i mewn i unrhyw fangre–

(a) lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

(b) sydd wedi'i lleoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.

Rhwystro, etc. swyddogion

19.–(1) Bydd unrhyw berson sydd–

(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad 14, 15 neu 18; neu

(b) yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad 14, 15 neu 18 unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau,

yn euog o dramgwydd.

(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)–

(a) yn darparu gwybodaeth y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b) yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Cosbau

20.–(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored–

(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9, neu reoliad 11 neu reoliad 16 yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 19 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

21. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18, ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben–

(a) tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

RHAN 3 RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau

22. Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau–

ystyr "awdurdod gorfodi" ("enforcement authority") yw'r awdurdod gorfodi bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod gorfodi bwyd;

ystyr "awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru" ("outside Wales enforcement authority") yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;

nid yw "bwyd anifeiliaid" ("feed") yn cynnwys ychwanegion o fath a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(e) neu baragraff 4(d) o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth i anifeiliaid(13) neu unrhyw rag-gymysgedd sydd wedi'i ffurfio'n unig o gyfuniad o'r ychwanegion hynny;

ystyr "y Comisiynwyr" ("the Commissioners") yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr "cynnyrch" ("product") yw bwyd anifeiliaid neu fwyd y mae ei fewnforio wedi'i reoleiddio gan Erthygl 15 o Reoliad 882/2004 (bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn cwmpas Cyfarwyddeb 97/78/EC) ac mae'n cynnwys y cynhyrchion bwyd cyfansawdd hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC sy'n gosod y rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC(14), sy'n cynnwys rhestr gyfyngedig yn unig o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac sydd o'r herwydd wedi'u heithrio o ddarpariaethau Cyfarwyddeb 98/78/EC gan Erthygl 3(1) o'r Penderfyniad hwnnw;

ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer"), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio;

ystyr "y tiriogaethau perthnasol" ("the relevant territories") yw'r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn Atodiad I i Reoliad 882/2004.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid

23. Cyfrifoldeb yr awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ddosbarth, yn ôl y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd

24. Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.

Swyddogaethau'r Comisiynwyr

25. Rhaid i'r Comisiynwyr gyflawni'r swyddogaethau a roddir i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd.

Gohirio, gweithredu a gorfodi

26.–(1) Pan fo–

(a) cynnyrch o drydedd wlad wedi dod i mewn i Gymru;

(b) archwiliad gan yr awdurdod tollau o'r cynnyrch hwnnw wedi'i gwblhau neu wedi'i ohirio hyd nes iddo gyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig;

(c) swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle daeth y cynnyrch i mewn i Gymru wedi dyroddi ar sail resymol awdurdodiad sy'n cadarnhau–

(i) y dylid gohirio archwilio'r cynnyrch at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio hyd nes y bydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yng Nghymru, neu

(ii) y dylai'r archwiliad hwnnw ddigwydd pan fydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfwriaeth sydd mewn grym yno ynghylch cynhyrchion a fewnforir; ac

(ch) person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),

daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.

(2) Rhaid i'r ymgymeriad–

(a) datgan cyrchfan y cynnyrch; a

(b) cadarnhau–

(i) bod y cynhwysydd sy'n cynnwys y cynnyrch wedi'i selio ac na fydd yn cael ei agor nes iddo gyrraedd y gyrchfan,

(ii) bod agor y cynhwysydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, yr awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru os nad yw'r gyrchfan yng Nghymru, a

(iii) y bydd y cynhwysydd ar gael yn y gyrchfan honno i'w archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio neu, yn ôl y digwydd, deddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig.

(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid i'r swyddog hwnnw–

(a) (os yw cyrchfan y cynnyrch yng Nghymru) hysbysu'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man hwnnw neu (os yw cyrchfan y cynnyrch mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig) hysbysu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru–

(i) nad yw'r cynnyrch (a ddisgrifir yn y fath fodd ag i ganiatáu iddo gael ei adnabod) wedi'i archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio, a

(ii) os yw archwiliad gan yr awdurdod tollau wedi'i ohirio, o'r ffaith honno; a

(b) anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).

(4) Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.

(5) Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff 1(ch).

Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol

27.–(1) Gwaherddir y canlynol–

(a) cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd anifeiliaid penodedig sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid â'r gofynion hynny;

(b) cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd anifeiliaid penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad a hwnnw'n fwyd anifeiliaid sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid;

(c) cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd penodedig sy'n methu â chydymffurfio

(i) â gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii) â gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004; ac

(ch) cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio â–

(iii) gofynion diogelwch bwyd; neu

(iv) gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004.

(2) Yn y rheoliad hwn–

(a) ystyr "bwyd anifeiliaid penodedig) yw bwyd anifeiliaid sy'n gynnyrch;

(b) ystyr "bwyd penodedig" yw bwyd sy'n gynnyrch.

Gwirio cynhyrchion

28.–(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004.

(2) Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004, rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni'r gwiriadau hynny.

(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag Erthygl 16, bydd gan y swyddog hwnnw hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.

Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill

29.–(1) Mae gan awdurdod gorfodi bŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004 os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.

(2) Yr awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004.

Hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 a 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)

30.–(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 18 neu 19(1) o Reoliad 882/2004, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid hwnnw neu'r bwyd, ar ôl i'r swyddog wrando ar weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid hwnnw neu weithredydd y busnes bwyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 19.

(2) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno cymryd unrhyw un o'r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(1)(a) a (b) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid hwnnw neu'r bwyd hwnnw, ar ôl i'r swyddog wrando ar weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid hwnnw neu weithredydd y busnes bwyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 19.

(3) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dymuno arfer unrhyw un o'r pwerau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(2) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd, yn ôl y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd hwnnw.

Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 30

31.–(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 apelio i lys ynadon.

(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fydd yn gymwys i'r trafodion.

(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi effaith i ddyfarniad y llys.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 31

32. Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl i'r llys hwnnw o dan reoliad 31(1) apelio i Lys y Goron.

Risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

33.–(1) Pan fo Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddo neu ganddi sail resymol dros amau, fod bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff y naill neu'r llall ohonynt, yn ôl y digwydd, drwy ddatganiad ysgrifenedig atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu osod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.

(2) Bydd datganiad o'r fath yn ysgrifenedig ac fe'i cyhoeddir yn y modd y gwêl Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yn dda a bydd yn pennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

(3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.

(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff unrhyw berson gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

(6) Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei dirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

Costau

34. Rhaid i gostau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi y mae'r gweithredydd busnes bwyd anifeiliaid neu'r gweithredydd busnes bwyd yn atebol iddynt o dan Erthygl 22 o Reoliad 882/2004 gael eu talu gan y gweithredydd busnes bwyd anifeiliaid neu gan y gweithredydd busnes bwyd neu eu cynrychiolwyr wrth gael gorchymyn ysgrifenedig i wneud i hynny oddi wrth yr awdurdod gorfodi.

Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig

35. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw –

(a) prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

(b) cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd–

(i) sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu

(ii) y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan neu o dan reoliad 37;

(c) cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

(ch) cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.

Dadansoddi etc. samplau

36.–(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 35–

(a) ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;

(b) ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.

(2) Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono–

(a) i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu

(b) i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

(4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd, yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

(5) Rhaid i ddadansoddydd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio–

(a) os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

(b) os yw'r sampl wedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

(6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

(7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

(8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos–

(a) dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

(b) dogfen a ddarparwyd iddo gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.

(9) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal dan sylw, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

(10) Mae'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau)(15) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi o dan reoliad 35 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

(11) Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990.

Pwerau mynediad swyddogion awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd

37.–(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol–

(a) i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio o ran bwyd yn cael neu wedi cael ei thorri ar y fangre;

(b) i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno; ac

(c) i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel ty annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

(2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai–

(a) bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b) y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig–

(a) caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b) caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

(6) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bwer a roddwyd gan baragraff (5)–

(a) cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio; a

(b) pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(7) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre–

(a) lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

(b) sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honno.

Rhwystro etc. swyddogion

38.–(1) Bydd unrhyw berson sydd–

(a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith; neu

(b) yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)–

(a) yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b) yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Tramgwyddau a chosbau

39.–(1) Bydd unrhyw berson sydd–

(a) yn mynd yn groes i baragraff (5) o reoliad 26, rheoliad 27 neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 33, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy; neu

(b) yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd i'r person hwnnw o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Darpariaethau Mewnforio yn agored–

(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 38 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)

40. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, sy'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 39(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben–

(a) tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

RHAN 4 ADENILL TREULIAU

Treuliau sy'n codi oddi wrth reolaethau swyddogol

41. Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 28 o Reoliad 882/2004 gan y gweithredydd wrth gael gorchymyn i wneud hynny gan yr awdurdod cymwys.

Treuliau sy'n codi o ran cymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn

42. Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar fusnes bwyd anifeiliaid neu ar fusnes bwyd yn unol ag Erthygl 40(4) o Reoliad 882/2004 gael eu talu gan y busnes bwyd anifeiliaid neu gan y busnes bwyd wrth gael gorchymyn i wneud hynny gan yr awdurdod cymwys.

RHAN 5 GORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

Tramgwyddau oherwydd bai person arall

43. Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

44.–(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir–

(a) o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b) pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

45.–(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol–

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2) Ym mharagraff(1)(a) ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd

46. Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

47.–(1) Ni fydd swyddog i gorff perthnasol yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo–

(a) wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; a

(b) o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2) Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth ym mharagraff (1) fel pe bai'n rhyddhau unrhyw gorff perthnasol rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.

(3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i gorff perthnasol mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog –

(a) wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; ond

(b) y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff yr corff indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4) I'r graddau y mae awdurdod bwyd yn gorff perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

(5) Yn y rheoliad hwn ystyr "corff perthnasol" yw corff sy'n gweithredu–

(a) fel awdurdod cymwys;

(b) fel awdurdod fel y'i diffinnir yn rheoliad 22; neu

(c) fel awdurdod gorfodi perthnasol.

Cyflwyno dogfennau

48.–(1) Caniateir i unrhyw ddogfen, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i berson, gael ei chyflwyno–

(a) drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

(b) yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu

(c) yn achos unrhyw berson arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

(2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel "meddiannydd" y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac–

(a) drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

(b) os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Dirymu

49. Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006(16) wedi'u dirymu.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Tachwedd 2007

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1 DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglyn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(17);

ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(18);

ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(19) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(20), fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005, yn cael ei wirio;

ystyr "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi bwyd ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden (21);

ystyr "Rheoliad 2073/2005" ("Regulation 2073/2005")_yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(22);

ystyr "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(23); ac

ystyr "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(24).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2 DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

ystyr "cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol" ("relevant feed law") yw –

(a)

Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(25) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

(b)

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999(26);

(c)

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(27);

(ch)

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid.

(d)

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(28);

(dd)

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(29).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3 DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

ystyr "cyfraith bwyd berthnasol" ("relevant food law") yw –

(a)

cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â –

(i)

rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(30),

(ii)

rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Bwydydd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 2005(31),

(iii)

cymhwyso rheolau y caniateir cydnabod arbenigedd traddodiadol a warentir odanynt ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir(32),

(iv)

cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(33),

(v)

rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(34) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(35),

(vi)

rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(36), a

(vii)

rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid –

(aa)

o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(37), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a

(bb)

o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(38), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth;

(viii)

y materion a reolir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(39) i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau er mwyn atal, rheoli a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(40)

(b)

cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cysylltiad â bwyd; ac

(c)

cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4 AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Eitem Yr awdurdod cymwys Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1. Yr Asiantaeth Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2. Yr awdurdod bwyd anifeiliaid Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 5 AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Eitem Yr awdurdod cymwys Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1. Yr Asiantaeth Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2. Yr awdurdod bwyd Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/590 (Cy.66)). Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn–

(a) darperir bod dod â chynhyrchion bwyd anifeiliaid a bwyd penodol i Gymru wedi ei wahardd a bod person sy'n mynd yn groes i'r gwaharddiad hwnnw yn euog o dramgwydd;

(b) darperir bod rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad pan fydd yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol–

(i) yn achos amheuaeth neu ddiffyg cydymffurfiaeth neu oherwydd bod amheuaeth ynghylch beth yw'r llwyth neu i le y mae'r llwyth yn mynd, neu

(ii) oherwydd nad yw'r bwyd anifeiliaid neu'r bywd yn cydymffurfio â chyfraith bwyd;

(c) darperir bod person sy'n mynd yn groes neu'n methu â chydymffurfio â rhwymedigaethau penodol sy'n ymwneud â gwirio cynhyrchion y daethpwyd â hwy i Gymru yn euog o dramgwydd;

(ch) darperir y caniateir i awdurdodau cymwys godi am dreuliau yr eir iddynt pan fydd y treuliau yn codi o reolaethau swyddogol ychwanegol neu yn codi oddi wrth gymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn Ewropeaidd; a

(d) mae'r diffiniadau o "cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol" a "cyfraith bwyd berthnasol" yn Atodlenni 2 a 3 yn y drefn honno wedi'u hadolygu.

2. Mae'r Rheoliadau hyn, yn yr un modd ag O.S. 2006/590 (Cy.66), sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EC) 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a rheolau ynghylch iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei wirio (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1791/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1), o ran "cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol" a "cyfraith bwyd berthnasol", sy'n dermau a ddiffinnir yn Atodlenni 2 a 3 yn y drefn honno. Mae testun diwygiedig y Rheoliad EC/882/2004 hwn wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.9).

3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gwaharddiadau ar gyflwyno i Gymru fwydydd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol a hynny yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3) ac fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwnnw wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3) y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.9).

4. Mae'r Rheoliadau hyn –

(a) yn darparu ar gyfer dynodi cyrff penodedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 3);

(b) yn darparu ar gyfer cyfnewid a darparu gwybodaeth gan awdurdodau cymwys (rheoliad 4);

(c) yn galluogi awdurdod cymwys i'w gwneud yn ofynnol i gorff rheoleiddiol ddarparu gwybodaeth a sicrhau bod cofnodion ar gael a darparu bod person –

(i) sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu i sicrhau bod cofnodion ar gael, neu

(ii) ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

(ch) yn galluogi y Gweinidogion Cymru i ddyroddi codau arfer a argymhellir i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd (rheoliad 6);

(d) yn rhoi'r swyddogaeth o fonitro perfformiad awdurdodau gorfodi o ran gorfodi deddfwriaeth benodol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 7);

(dd) yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y pwer, at ddibenion cyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwn–

(i) i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu ac i gofnodion fod ar gael (rheoliad 8); a

(ii) i awdurdodi unigolion (a gaiff drwy hynny arfer pwerau penodol, gan gynnwys pwer mynediad) (rheoliad 9);

(e) yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn rheoliadau 7 i 9 (rheoliad 10);

(f) yn darparu bod person sydd –

(i) yn rhwystro person sy'n arfer pwerau i fynd i mewn i fangre, i gymryd samplau neu i arolygu a chopïo cofnodion,

(ii) yn methu â chydymffurfio â gofynion i ddarparu gwybodaeth neu sicrhau bod cofnodion ar gael neu ddarparu cyfleusterau, cofnodion, gwybodaeth neu gymorth arall, neu

(iii) yn darparu tystiolaeth anwir neu gamarweiniol, ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â'r cyfryw ofyniad,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 11);

(ff) yn darparu hawl i apelio ynglyn â phenderfyniad yr awdurdod cymwys ynghylch cymeradwyo sefydliadau penodol a wneir o dan Erthygl 31 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliadau 12 a 13);

(g) yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd â staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 14);

(ng) yn darparu y caiff "swyddog gorfodi", a ddiffinnir yn rheoliad 15(2), pan fydd yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, fynd ag un o arbenigwyr y Comisiwn gydag ef i alluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 15);

(h) yn darparu bod person sy'n mynd i mewn i fangre o dan y pwerau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (g) neu (ng) ac sy'n datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol yn euog o dramgwydd oni bai ei fod yn gwneud hynny wrth gyflawni ei ddyletswydd (rheoliad 16);

(i) yn pennu pa awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 5(3), 9(8), 11, 16, 18(8) a 19 (rheoliad 17);

(j) yn darparu pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig yr awdurdodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i) (rheoliad 18);

(l) yn creu'r tramgwydd o rwystro swyddog sy'n gweithredu i roi rheoliad 14, 15 neu 18 ar waith(rheoliad 19);

(ll) yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran 2 y Rheoliadau hyn (rheoliad 20);

(m) yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan reoliad 18(8) (rheoliad 21);

(n) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn ac Erthyglau 15 i 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004, a ddiffinnir gyda'i gilydd yn rheoliad 2(1) fel "y Darpariaethau Mewnforio" (rheoliadau 23 a 24);

(o) yn darparu bod y Comisiynwyr dros Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflawni'r swyddogaethau a roddwyd i'r gwasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 25);

(p) yn darparu dros ohirio gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio nes bod y cynnyrch wedi cyrraedd ei gyrchfan (rheoliad 26);

(ph) yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 (fel a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod) yn gwahardd cyflwyno i Gymru fwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol oni chaiff amodau penodedig eu bodloni (rheoliad 27);

(r) yn darparu ar gyfer gwirio cynhyrchion a gyflwynir i Gymru (rheoliad 28);

(rh) yn darparu bod gan awdurdod gorfodi bwer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac yn darparu mai'r awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o'r Rheoliad hwnnw (rheoliad 29);

(s) yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi pan fo'r swyddog hwnnw yn dymuno cymryd mesurau penodol neu arfer pwerau penodol o dan Erthygl 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd) (rheoliad 30);

(t) yn darparu hawl i apelio mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad o dan reoliad 30 (rheoliadau 31 a 32);

(th) yn darparu bod y Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth, drwy ddatganiad ysgrifenedig, yn atal neu'n gosod amodau ar gyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch o drydedd wlad os yw naill ai'r Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall neu os yw'n rhesymol iddo neu iddi amau bod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi ei gyflwyno neu a allai gael ei gyflwyno i Loegr o'r drydedd wlad honno'n debygol o fod yn risg difrifol i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd (rheoliad 33);

(u) yn darparu bod costau a ddynir gan yr awdurdod gorfodi y mae'r gweithredydd busnes bwyd anifeiliaid neu gweithredydd busenss bwyd yn atebol iddynt o dan Erthygl 22 Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 yn daladwy gan y gweithredydd busnes bwyd anifeiliaid neu gweithredydd busnes bwys neu eu cyrychiolwyr (rheoliad 34);

(w) yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau o fwyd at ddibenion gweithredu a gorfodi'r "Darpariaethau Mewnforio", a ddiffinnir yn rheoliad 22 (rheoliadau 35 a 36);

(y) yn darparu pwerau mynediad ar gyfer swyddogion awdurdodedig i awdurdod bwyd o ran gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio (rheoliad 37);

(aa) yn creu tramgwydd o rwystro swyddog sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith (rheoliad 38);

(bb) yn creu tramgwyddau o ran mynd yn groes i reoliadau penodedig neu fethu â chydymffurfio â hwy a methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Darpariaethau Mewnforio ac yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 39);

(cc) yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 40);

(chch) yn darparu bod costau a godir gan awdurdod cymwys yn unol ag Erthygl 28 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 yn daladwy gan y gweithredydd (Rheoliad 41);

(dd2) yn darparu bod costau a godir gan awdurdod cymwys yn unol ag Erthygl 40(4) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 yn daladwy gan y busnes bwyd anifeiliaid neu'r busnes bwyd (Rheoliad 42);

(dddd) yn darparu, pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bod y person arall yn euog o'r tramgwydd (rheoliad 43);

(ff2) yn darparu ei bod yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd (rheoliad 44);

(ffff) yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bydd y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 45);

(gg) yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw, y bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 46);

(ngng) yn darparu ar gyfer amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 47);

(hh) yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 48); ac

(ii) yn dirymu Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/590 (Cy.66)) (rheoliad 49).

5. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1972 p.68 Back [1]

(2)

O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r ddau ddynodiad arall y cyfeiriwyd atynt i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

O.S. 2005/2766. Back [3]

(4)

O.S. 2003/1246 Back [4]

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. fel y'i diwygiwyd ddiwethaf drwy wneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran Rhif au ac enwau Panelau Gwyddonol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [5]

(6)

1970 p. 40. Back [6]

(7)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16). Back [7]

(8)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen ynghyd â pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [8]

(9)

O.S. 2006/31 (Cy. 5), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/1534 (Cy. 151) ac O.S. 2007/373 (Cy.33). Back [9]

(10)

1999 p. 28. Back [10]

(11)

1980 p. 43. Back [11]

(12)

1981 p. 22. Back [12]

(13)

OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29. Back [13]

(14)

OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6. Back [14]

(15)

O.S. 1990/2463, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [15]

(16)

O.S. 2006/590 (Cy.66) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1704 (Cy.166) ac O.S. 2007/196 (Cy.15) Back [16]

(17)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12). Back [17]

(18)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3). Back [18]

(19)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ No. L226, 25.6.2004, p.22), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 diwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cynor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L281, 25.10.2007, p.8). Back [19]

(20)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 diwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006. Back [20]

(21)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17. Back [21]

(22)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda chorigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 a OJ Rhif L283, 14/10.2006, t62. Back [22]

(23)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir eu bwyta gan bobl. Back [23]

(24)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1246/2007 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran estyn cyfnod trosiannol a roddir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir ei fwyta gan bobl. Back [24]

(25)

1970 p. 40. Back [25]

(26)

O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297), O.S. 2004/1749 (Cy.186), O.S. 2004/3091 (Cy.265), O.S. 2006/116 (Cy.14) ac O.S. 2006/617 (Cy.69). Back [26]

(27)

O.S. 2004/3221 (Cy.277) a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1323 (Cy.97) ac O.S. 2007/3173 (Cy.278). Back [27]

(28)

O.S. 2005/3368 (Cy.265) a ddiwigiwyd gan O.S. 2006/3256 (Cy. 296) Back [28]

(29)

O.S. 2006/116 (Cy. 14) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/590 (cy.66), O.S. 2006/617 (cy. 69), O.S. 2006/2928 (Cy. 263) ac O.S. 2006/3256 (Cy.296). Back [29]

(30)

O.S. 1997/1729, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3590, O.S. 2004/147, O.S. 2005/3254 (W.247) ac O.S. 2006/755. Back [30]

(31)

O.S. 2005/3286, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/985, O.S. 2006/1742, O.S. 2006/2922, O.S. 2007/971 ac O.S. 2007/2083. Back [31]

(32)

OJ Rhif L93, 31.3.2006, t.1 Back [32]

(33)

OJ Rhif L93, 31.3. 2006, t.12. Back [33]

(34)

O.S. 2003/2821. Back [34]

(35)

O.S. 2004/1604, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2003 ac O.S. 2006/2075. Back [35]

(36)

O.S. 2001/1360 (Cy.88). Back [36]

(37)

O.S. 1996/3124, diwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S 2002/129 (Cy.17), O.S. 2003/3229 (Cy.309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144) O.S. 2005/1310 (Cy.92) ac O.S. 2006/2407. Back [37]

(38)

O.S. 2007/376 (Cy.36). Back [38]

(39)

O.S. 2006/1226 (Cy. 117). Back [39]

(40)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf wrth wneud yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif 1923/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau er mwyn atal, rheoli a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.1). Back [40]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073294_we_1.html