BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2007 No. 3343 (Cy. 295)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073343_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

23 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

27 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a (2), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 27 Rhagfyr 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007.

(2) Ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle "1.001" rhoddir "1.002".

(3) Yn lle Atodlen 4, rhoddir yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Tachwedd 2007

Rheoliad 2

YR ATODLEN

"SCHEDULE 4 ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 53,800
Bridgend 103,400
Caerphilly 131,700
Carmarthenshire 140,300
Cardiff 250,100
Ceredigion 63,300
Conwy 88,700
Denbighshire 75,800
Flintshire 117,200
Gwynedd 93,600
Isle of Anglesey 54,400
Merthyr Tydfil 42,900
Monmouthshire 68,700
Neath Port Talbot 107,900
Casnewydd 107,000
Pembrokeshire 91,500
Powys 103,600
Rhondda Cynon Taf 182,000
Abertawe 180,900
Torfaen 70,500
Vale of Glamorgan (The) 95,000
Wrexham 102,800"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992").

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy –

(1)

1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]

(2)

O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280), 2005/3345 (Cy.259) a 2006/3347 (Cy.307) Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073343_we_1.html