BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007 No. 3379 (Cy. 301) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/wsi_20073379_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
27 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
23 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 23 Rhagfyr 2007.
2.–(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3) wedi'u diwygio (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (13) mewnosoder y canlynol –
"(14) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a), it is to be a defence to prove that –
(a) the food concerned was sold before 23 December 2008 or marked or labelled before that date; and
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2(3) of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2007(4) had not been in operation when the food was sold.".
(3) Yn Atodlen AA1 (cynhwysion alergenig) –
(a) ar ôl paragraff (2) mewnosoder "2(a). Molluscs and products thereof";
(b) ar ôl paragraff (6) mewnosoder "6(a). Lupin and products thereof".
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r prif Reoliadau yn rhychwantu Prydain Fawr gyfan.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn Rhif 2006/142/EC (OJ Rhif L368, 23.12.2006, tt.110-111) sy'n diwygio Atodiad IIIa i Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhestru'r cynhwysion y mae'n rhaid iddynt ymddangos o dan bob amgylchiad ar labelu bwydydd. Mae dau gynhwysyn newydd wedi'u hychwanegu at y rhestr honno.
3. Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30, o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]
O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2000/1232 (Cy.66), 2003/832 (Cy.104), 2004/249 (Cy.26), 2731 (Cy.238), 3022 (Cy.261), 2005/1309 (Cy.91), 3236 (Cy.241). Back [3]
O.S. 2007/3379 (Cy.301). Back [4]