BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">GORCHYMYN DEDDF GOFAL PLANT 2006 (CYCHWYN RHIF 1) (CYMRU) 2008 No. 17 (Cy. 6)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080017_we_1.html

[New search] [Help]


 

GORCHYMYN DEDDF GOFAL PLANT 2006 (CYCHWYN RHIF 1) (CYMRU) 2008

Wedi'i wneud

8 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(1), ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofal Plant 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Gofal Plant 2006.

Cychwyn

2. Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 31 Ionawr 2008:–

(a) Adrannau 22 i 29, mewn perthynas â swyddogaethau cyffredinol Awdurdodau Lleol yng Nghymru;

(b) Adran 30 (dehongli Rhan 2);

(c) Adran 101 (darparu gwybodaeth am blant: Cymru);

(ch) Adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989).

3. Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2008:–

(a) Adran 103(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau paragraff 28 o Atodlen 2 y nodir yn Erthygl 3(b) isod;

(b) Paragraff 28 o Atodlen 2.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

8 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wneir o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 o ran Cymru.

Mae Erthygl 2 yn nodi darpariaethau Deddf Gofal Plant 2006 sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2008. Mae Erthygl 3 yn nodi darpariaethau Deddf Gofal Plant 2006 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2008 i'r graddau a bennir ym mhob paragraff.

Mae Erthygl 2(a) yn dwyn i rym adrannau 22 i 29 (swyddogaethau cyffredinol awdurdodau lleol yng Nghymru). Mae Erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 30 (dehongli Rhan 2). Mae Erthygl 2(c) yn dwyn i rym adran 101 (darparu gwybodaeth am blant yng Nghymru). Mae Erthygl 2(ch) yn dwyn i rym adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989), mewn perthynas â Chymru.

Mae Erthygl 3(a) yn dwyn i rym adran 103(1) o Ddeddf Gofal Plant 2006, (i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 28 o Atodlen 2 o Ddeddf Gofal Plant 2006). Mae Erthygl 3(b) yn dwyn i rym paragraff 28 o Atodlen 2 o Ddeddf Gofal Plant 2006.

(1)

2006 p.21. Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080017_we_1.html