BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"><HEAD><title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 No. 450 (Cy. 40)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080450_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008

Gwnaed

19 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Chwefror 2008

Yn dod i rym

18 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â'r personau y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan adran 4(3) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Mawrth 2008.

(2) Dim ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys(3) ac mae'n cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008–2009 a'r blynyddoedd ariannol sy'n dilyn.

Dangosyddion perfformiad

2. Mae'r dangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt i fesur perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau wedi'u pennu drwy hyn yn–

(a) Atodlen 1 (Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol); a

(b) Atodlen 2 (Ymateb Effeithiol).

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

19 Chwefror 2008

Erthygl 2

ATODLEN 1 Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol

Cyfeirnod Dangosydd
FRS/RRC/S/001

i) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;

ii) Cyfanswm nifer y prif danau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;

iii) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd drwy ddamwain mewn anheddau fesul 10,000 o anheddau;

iv) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 10,000 o'r boblogaeth.

FRS/RRC/S/002

Nifer:

y marwolaethau a achoswyd gan danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;

y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;

y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth;

yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;

yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;

yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth.

FRS/RRC/S/003 Cyfanswm nifer y tanau mewn mangreoedd annomestig fesul 1,000 o fangreoedd annomestig.
FRS/RRC/S/004

i) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân ("YAGT")) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth pum-munud.

ii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud.

iii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd y tu allan i'r safon gwasanaeth deng-munud.

iv) Cyfanswm nifer y tanau mewn cartrefi lle'r oedd asesiad risg diogelwch tân cartref a/neu gweithgaredd cysylltiedig i leihau risg wedi'u cynnal o fewn dwy flynedd i'r tân.

Erthygl 2

ATODLEN 2 Ymateb Effeithiol

Cyfeirnod Dangosydd
FRS/EFR/S/001 Y ganran o danau mewn anheddau, sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud fel y nodwyd gan bob Awdurdod Tân ac Achub, ac yr aed atynt o fewn deng munud.
FRS/EFR/S/002 Y ganran o danau mewn anheddau, y mae model Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân wedi nodi bod eu cyfradd anafiadau yn uwch na chwech, ac yr aed atynt o fewn pum munud.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod gofynion ar awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau eraill i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer, gan roi sylw i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae adran 4(1) o'r Ddeddf honno yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu drwy Orchymyn ddangosyddion perfformiad gwerth gorau sy'n gymwys i awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau eraill.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu mai'r dangosyddion perfformiad a welir yn Atodlenni 1 a 2 o'r Gorchymyn hwn fydd y dangosyddion a ddefnyddir i fesur perfformiad awdurdod tân ac achub.

Mae asesiad effaith reoleiddiol wedi'i lunio mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn a gellir cael copi gan y Gangen Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).

(1)

1999 p.27. Back [1]

(2)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]

(3)

2004 p.21. Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2008/wsi_20080450_we_1.html